Cost of Living Support Icon

Pwyllgor Rhanbarthol Cydweithredol y Fro a Chaerdydd

Mae Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol (RCCs) yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar wariant Cefnogi Pobl yn eu rhanbarth.

 

Ceir 6 RCC ar draws Cymru’n cwmpasu'r 22 o Awdurdodau Lleol:

  • Y Fro a Chaerdydd  - Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen
  • Y Canolbarth a'r Gorllewin – Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys
  • Bae'r Gorllewin – Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe
  • Cwm Taf – Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taff
  • Gogledd Cymru – Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam

 

Yr hyn y mae’r pwyllgorau’n ei wneud

Pobl yn gwenuBydd RCCs yn dod â rhanddeiliaid allweddol ar draws pob ardal ynghyd. Mae hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cynllunio a chomisiynu Cefnogi Pobl yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o Grant Cefnogi Pobl ac yn ateb anghenion lleol. Mae’r RCC yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, iechyd, profiannaeth, darparwyr gwasanaethau Cefnogi Pobl a landlordiaid ac mae hefyd yn cynnwys barn defnyddwyr gwasanaeth.

 

Mae Pwyllgor y Fro a Chaerdydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar wariant Cefnogi Pobl yn ei ardal.. Mae’n gyfrifol am gynhyrchu Cynllunio Comisiynu Rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau Cefnogi Pobl. Mae hyn yn rhoi sylw i flaenoriaethau lleol ac yn nodi’r ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer ateb anghenion lleol. Mae'n ymgynghorol yn unig ac nid oes ganddo bwerau gweithredol neu gyllid.

 

 https://llyw.cymru/rhaglen-cefnogi-pobl-canllawiau-ymarfer

 

 

Dogfennau Pwyllgor Rhanbarthol Cydweithredol y Fro a Chaerdydd :

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cydweithredol y Fro a Chaerdydd cysylltwch â:

 

Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol - Cefnogi Pobl

Tîm Cefnogi Pobl
Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

y Barri

CF63 4RU

 

  • 01446 709326