Cost of Living Support Icon

Gwastraff Masnachol gyda Chyngor Bro Morgannwg

Gwasanaeth cost isel, hyblyg a chynaliadwy a gynlluniwyd i wneud rheoli eich gwastraff masnachol yn hawdd.

 

Eich cyfrifoldebau gwastraff masnachol

Fel busnes, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff yn gywir.  Caiff hyn ei adnabod fel eich dyletswydd gofal. Mae angen i chi gadw'ch gwastraff yn ddiogel a defnyddio cludydd gwastraff cofrestredig i'w waredu neu ei ailgylchu. Mae eich dyletswydd gofal yn para o'r eiliad y caiff y gwastraff ei gynhyrchu i'r adeg y caiff ei dderbyn gan eich cludwr gwastraff cofrestredig.

 

Mae'n rhaid i chi gael tystysgrif dyletswydd gofal fel prawf eich bod yn gwaredu'ch gwastraff yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.  Dylech gadw eich tystysgrif dyletswydd gofal am o leiaf ddwy flynedd.

 

Fel cludwr gwastraff cofrestredig, rydym yn darparu tystysgrifau dyletswydd gofal am ddim ar gyfer ein holl gwsmeriaid.  Mae ein gwasanaeth gwastraff masnachol cost isel, hyblyg a chynaliadwy wedi ei gynllunio i wneud rheoli eich gwastraff yn hawdd.

 

Byddwch y cyntaf i glywed am ein gwasanaeth gwastraff masnachol newydd

Rydym yn lansio gwasanaeth gwastraff masnachol newydd i'ch helpu i fodloni'r rheoliadau ailgylchu diweddaraf yn y gweithle yng Nghymru. Cofrestrwch i gael gwybod am lansiad ein gwasanaeth newydd:

Rheoli tanysgrifiadau - Polisi Preifatrwydd

 

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid. Ydych chi’n barod?

Mae rheoliadau ailgylchu newydd yn y gweithle yn dechrau o 6 Ebrill 2024. 

 

O'r dyddiad hwn, bydd yn rhaid i bob gweithle wahanu eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn ei wneud nawr.

 

Darganfyddwch fwy am sut mae ailgylchu yn y gweithle yn newid yng Nghymru

 

 

 

Helpu i baratoi ar gyfer rheoliadau gweithle newydd yng Nghymru

Rydym wedi llunio rhestr o adnoddau i'ch helpu i ddeall a pharatoi ar gyfer y rheoliadau ailgylchu gweithle newydd:

 

Adnodd dan sylw:  Gweminarau WRAP Cymru

Mae WRAP Cymru yn cynnal cyfres o weminarau sector-benodol ar y newidiadau arfaethedig i reoliadau ailgylchu yn y gweithle. Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad cynhwysfawr i'r rheoliadau gwastraff, ynghyd ag archwiliad penodol o ofynion pob sector i baratoi ar gyfer y gyfraith newydd.

 

Cofrestrwch ar gyfer gweminar WRAP Cymru