Top

Brig

Gwastraff Masnachol

Gallai eich busnes arbed hyd at 50% ar filiau gwastraff yn y dyfodol, dim ond trwy ailgylchu gyda Chyngor Bro Morgannwg.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth cymysg a hefyd yn gallu casglu eich gwastraff gardd/gwyrdd a gwastraff bwyd. Yn rhan o’n gwasanaeth, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o gynhwysion i chi i’ch helpu i gadw eich gwastraff rhwng casgliadau, o fagiau gwastraff ac ailgylchu i fin olwynion 1100 litr.

 

Gall ein tîm cyfeillgar a gwybodus eich helpu i ddewis gwasanaeth sy’n addas i’ch anghenion; byddwn yn eich arwain gyda’r gwaith papur angenrheidiol fel yr ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn gallu rhedeg eich busnes.

 

Fel busnes, mae gofyniad cyfreithiol arnoch i drefnu gwaredu eich gwastraff trwy sefydliad rheoli gwastraff awdurdodedig. Mae eich dyletswydd gofal yn para o’r eiliad y mae’r gwastraff yn cael ei greu i’r eiliad y mae’n cael ei dderbyn gan fusnes sydd wedi’i awdurdodi i’w waredu, ystyriwch: 

 

  1. Waredu mewn ffordd wahanol, er enghraifft trwy ailgylchu
  2. Storio eich gwastraff yn ddiogel trwy'r amser, heblaw am ddiwrnodau casglu. Gallwch wneud hyn trwy sicrhau bod caeadau yn cael eu cau a’u cloi neu fod biniau’n cael eu cadw mewn man diogel y gellir ei gloi (gyda ffens a giatiau). Os nad oes clo ar y bin, dylech ddiogelu’r bin trwy ddulliau eraill.
  3. Cwblhewch nodyn trosglwyddo gwastraff ar gyfer pob llwyth a wastraff a gludwch a chadwch ef am 2 flynedd neu sicrhewch fod gennych 'ddyletswydd gofal' gwastraff blynyddol a ddarperir gan eich darparwr gwasanaeth, os ydych yn cael casgliadau ar gyfer yr un math o wastraff. Mae dyletswydd gofal gwastraff yn ofyniad cyfreithiol. Mwy o wybodaeth
  4. Cadarnhau bod unrhyw fusnes yr ydych yn ei ddefnyddio i ddelio â’ch gwastraff wedi’i drwyddedu
  5. Cadw prawf o hyn.
  6. Dysgu mwy yma www.gov.uk

 

Nodwch na allwch fynd â gwastraff masnachol i’n Canolfannau Ailgylchu gan fod y safleoedd hyn wedi’u trwyddedu i dderbyn gwastraff y cartref yn unig

 

  • Ailgylchu ar gyfer Busnesau

  • Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ailgylchu masnachol am hanner pris ar gyfer:

  • Papur
  • Gwydr
  • Caniau metal
  • Plastig
  • Cardfwrdd
  • Caniau erosol gwag
  • Cartonau fel Tetra Pak
  • Ffoil heb ei heintio â bwyd/ diod neu gemegolion 
  • Gwastraff bwyd
  • Gwastraff gardd

 

 
Eitem Nifer Pris (dim TAW)

Bagiau Ailgylchu Tryloyw

Bwndel o 25 £33.71
Bagiau Ailgylchu Tryloyw Bocs o 250 £337.18

Noder: ni dderbynnir sieciau fel tâl dilys yn y Swyddfeydd Dinesig bellach.

 

Dyddiadau Casglu

Nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr, a gall fod eithriadau, ond gobeithio bydd yn rhoi syniad i chi o’r dyddiadau casglu fesul ardal. 

 

Recycling Collection Dates
 Ardal  Diwrnodau casglu posib
Y Barri (y prif ardaloedd masnachol: Holton Rad, High Street, Broad Street)  Mercher / Iau
 Y Bont-faen Mawrth
 Dinas Powys Llun
 Llanilltud Fawr Mercher
 Penarth** Llun - Gwener
 Y Fro Weledig** Llun - Gwener

 

 

Gwastraff sy’n weddill

Gwastraff na ellir mo’i ailgylchu yw gwastraff sy’n weddill. Ystyriwch cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn a cheisiwch ailgylchu pryd bynnag mae’n bosib.   

 

 Bagiau Glas Gwastraff Masnachol  Pris ac eithrio TAW
 Fesul bwndel - 25 sach  £100.03
 Fesul bocs - 250 sach  £1,000.34

Dyddiadau Casglu

Nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr, a gall fod eithriadau, ond gobeithio bydd yn rhoi syniad i chi o’r dyddiadau casglu fesul ardal. 

 

Refuse Collection Dates
Ardal Diwrnod casglu posib
Y Barri (y prif ardaleodd masnachol: Holton Road, High Street, Broad Street) Llun, Mercher, Gwener
Y Bont-faen Llun, Iau
Dinas Powys Llun, Mercher, Iau
Llanilltud Fawr Llun, Iau
Penarth Llun, Mercher, Gwener
Y Fro Weledig** Llun - Gwener

 * Noder y gallai fod casgliadau dyddiol ar Ynys y Barri yn ystod tymor yr haf.

** Mae’r diwrnod casglu’r un fath â diwrnod y casgliad domestig.
***Mae'r prisiau yma'n ddilys tan 31 Mawrth 2018

 

  • 01446 700111
  • visible@valeofglamorgan.gov.uk
Rhannu Hoffi