Cost of Living Support Icon

Gorfodi

Mae swyddogion gorfodi mewn lifrau ar batrôl ym Mro Morgannwg i fynd i’r afael â throseddau rheoli gwastraff, troseddau priffyrdd, is-ddeddfau a gorchmynion amddiffyn gofod cyhoeddus (PSPOs).

 

Bydd gollwng sbwriel, baw ci a graffiti oll yn cael eu taclo gan swyddogion arbenigol Cyngor Bro Morgannwg sydd â’r grym i roi dirwyon yn y fan a’r lle.

 

Bydd y swyddogion ar batrôl ar strydoedd, parciau, caeau chwarae a mannau agored ledled y Fro a bydd grymoedd cyfreithiol ganddynt i atal unrhyw un y gwelant yn cyflawni trosedd amgylcheddol fel taflu sbwriel.

 

Bydd gweithrediadau ac ymchwiliadau cudd hefyd yn cael eu cynnal er mwyn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.

 

Bydd y tîm hefyd yn targedu perchnogion busnes anghyfrifol, sy’n methu â sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu mewn modd cywir drwy adael bagiau ar strydoedd neu adael biniau masnachol i orlifo. Mewn achosion o’r fath, gellir cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £300.

 

Adrodd ar broblem 

Gallwch adrodd ar achos o ollwng sbwriel, baw cŵn, tipio anghyfreithlon neu graffiti drwy gyfrwng ein ffurflen ar-lein:

 

Talu Dirwy

Gellir talu HCB dros y ffôn trwy ffonio:

  • 01446 700111

 

I dalu drwy’r post, dylid gwneud sieciau ac archebion post yn daladwy i 'Cyngor Bro Morgannwg.' Rhaid gyrru’r hysbysiad ynghyd â siec neu archeb bost at:

 

Cyngor Bro Morgannwg - Gorfodi

Alps Depot

Gwenfo

CF5 6AA

 

Rhaid cynnwys rhif cyfeirnod yr hysbysiad. 

 

  •  Beth yw’r diffiniad o sbwriel?

    Does dim diffiniad caeth o’r hyn yw sbwriel, mae’n cynnwys UNRHYW BETH gaiff ei daflu i ffwrdd ac fe’i disgrifir felly gan y Ddeddfwriaeth.

     

  • Sut ydw i’n rhoi gwybod am rywun dwi’n credu sydd wedi bod yn gollwng sbwriel?
    Gallwch e-bostio visible@valeofglamorgan.gov.uk, cyflwyno adroddiad ar-lein neu gysylltu â Cyswllt Un Fro ar 01446 700111.
  • Sut bydd y Swyddog Gorfodi yn gwybod os yw rhywun yn rhoi ei enw cywir?

    Mae gan Swyddogion Gorfodi y modd i gadarnhau pwy yw unigolion.

  • Beth os yw rhywun yn gwrthod rhoi ei enw?

    Mae’n drosedd dan Is-adran 88(8B) Deddf Diogelu’r Amgylchedd i berson fethu â rhoi enw a chyfeiriad llawn i Swyddog Gorfodi, neu i roi enw neu gyfeiriad ffug. Gall y gosb am wrthod o’r fath fod yn ddirwy hyd at £1,000 ac euogfarn droseddol yn Llys yr Ynadon.

     

    Mae ein swyddogion yn gweithio'n agos gydag Heddlu De Cymru a gall gwrthod cydymffurfio â'n swyddogion ein hunain arwain at gyfranogiad yr heddlu.

  •  A fydd dirwyon yn cael eu gostwng os cânt eu talu’n fuan?

    Does dim gostyngiadau ar gyfer taliadau buan.

  •  Beth os na dala i?
    Bydd gan droseddwr 14 diwrnod wedi’r dyddiad cyhoeddi i dalu HCB. Os methant wneud hynny, bydd y Cyngor yn ceisio euogfarn trwy Lys yr Ynadon. O’i gael yn euog, bydd y troseddwr yn derbyn record droseddol a dirwy o hyd at £50,000. Mae hyn am fod troseddau amgylcheddol yn Droseddol ac nid Sifil eu natur.
  • A yw’r Cyngor yn defnyddio hwn fel modd o greu incwm?
    Nid yw Awdurdodau Lleol yn cael defnyddio gorfodi fel modd o godi incwm. Unig ddiben y camau gorfodi yw glanhau’r strydoedd a’r mannau agored o fewn Bro Morgannwg, nid i greu incwm.
  • A yw’r Swyddogion Gorfodi yn derbyn tâl ysgogi/comisiwn am gyhoeddi hysbysiadau cosb?
    Mae pob swyddog ar gyflog, ac nid oes unrhyw anogaeth ariannol i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig. Byddai proses o’r fath yn anfoesol ac anghyfreithlon.
  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dirwy Parcio (HTC) a dirwy Amgylcheddol (HCB)?

    Mae troseddau parcio yn fater Sifil ar gyfer y Llys Sirol yn unig, ac nid yw’r troseddwyr yn derbyn record droseddol.

  •  A allaf apelio yn erbyn fy HCB?
    Rhaid gwneud unrhyw apêl yn erbyn HCB trwy Lys yr Ynadon.  Rhaid gwneud unrhyw apêl yn erbyn cyhoeddi HCB yn uniongyrchol i 3GS.  Cysylltwch â 3GS ar 01256 898913 am fwy o wybodaeth ynghylch hyn.