Cost of Living Support Icon

Ailgylchu Gwastraff Bwyd

 

Casgliad: Bob Wythnos

 

 

Cadi Gwyrdd - Gwastraff bwyd

Gwnewch yn siŵr fod eich cist wrth ochr y ffordd (neu yn eich ardal biniau cymunedol) erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad os gwelwch yn dda.

Food-waste-caddy
Food-waste

 

TickIe, plîs
  • Hen fagiau te a gwaddodion coffi
  • Plisg wyau
  • Crafion ffrwythau a llysiau
  • Cig a physgod amrwd ac wedi’u coginio, yn cynnwys esgyrn a chregyn
  • Crafion oddi ar eich plât
  • Bwyd dros ben na ellir ei storio’n ddiogel i’w fwyta’n nes ymlaen
  • Bwyd nad yw’n ddiogel i’w fwyta bellach
  • Bwyd anifeiliaid
Dim diolch
  • Deunydd pacio o unrhyw fath
  • Hylifau fel llaeth. Cewch arllwys symiau bach o fwyd hylifol neu ddiod i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddw^ r i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio’r draeniau
  • Olewau neu fraster hylifol. Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol mewn cynhwysydd addas
  • Unrhyw ddeunydd nad yw’n wastraff bwyd

Os bydd angen ichi gael gwared ar unrhyw fraster sy’n solid neu ddim ond yn rhannol hylifol, rhowch y rhain yn eich bagiau du.

 

 

Cofiwch:

  • Pan fyddwch ar fin rhedeg allan o’r bagiau leinio ar gyfer eich cadi gwastraff bwyd yn y gegin, clymwch un ar handlen eich cadi mwy ar garreg y drws ar eich diwrnod casglu, a bydd ein criwiau'n gosod rholyn o fagiau ar yr ochr os oes ganddynt unrhyw stoc ar y cerbyd. Y ffordd orau o gasglu bagiau cadi yw o'ch llyfrgell leol neu brif dderbynfa'r swyddfeydd dinesig yn y Barri.

 

 

Gwirio eich dyddiadau casglu a tanysgrifo ar gyfer negeseuon atgoffa

Rhowch eich manylion isod i dderbyn e-byst wythnosol y noson cyn eich casgliad.



 

windfall fruitFfrwyth cwympo 

Cofiwch roi unrhyw ffrwythau gwastraff yn eich cynwysyddion bwyd i’w casglu pan yn bosib.

 

Os oes gormod i fynd yn eich cadi bwyd, gallwch chi hefyd roi ffrwythau yn eich bagiau gwastraff gardd os ydych chi wedi cofrestru ac yn talu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd.

 

Peidiwch â gorlenwi'ch bagiau gan y byddant yn mynd yn rhy drwm i'r criwiau eu codi.