Cost of Living Support Icon

Prosiect Gwyrdd

Partneriaeth ydy Prosiect Gwyrdd rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Dinas Casnewydd. 

 

Bydd y prosiect yn dod o hyd i ateb rhanbarthol i broblem gwastraff gweddilliol - y gwastraff sy'n weddill ar ô l ailgylchu a chompostio cymaint ag sy'n bosib. 

 

Mae awdurdodau lleol bob amser wedi dibynnu ar safleoedd tirlenwi i dddelio gyda gwastraff, ond mae ymchwil yn dangos, wedi i dargedau ailgylchu a chompostio gael eu cyflawni, mai rheoli gwastraff gweddilliol trwy dirlenwi yn unig sy'n cyfrannu fwyaf at y lefelau carbon uchaf. 

 

Yn dilyn ymarferiad caffael tair blynedd, mae'r bartneriaeth yn disgwyl y bydd cynigydd ffafriedig yn cael ei enwi yn gynnar yn 2013. Mae dau gynigydd yn dal i fod yn rhan o'r broses, ac mae'r ddau'n cynnig ynni modern o adnoddau gwastraff (llosgi).

 

Mae'r adnoddau hyn yn gweithredu o dan amodau llym iawn, cant eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amylchedd, ac mae profiad yn Ewrop yn dangos eu bod yn gweithio ochr yn ochr â pherfformiad da mewn ailgylchu a chompostio.

 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Tua Dim Gwastraff ac mae'n cefnogi partneriaethau gwastraff rhanbarthol yng Nghymru. Trwy gydweithio, bydd y prosiect yn well gwerth am arian i'r trethdalwr trwy gyfuno gwastraff cyfunol y pum awdurdod lleol. Blaenoriaeth pob partner ydy ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff ag sy'n bosib i gyrraedd targedau ailgylchu cynyddol Llywodraeth Cymru hyd at 2025 a thu hwnt.

 

Prosiect Gwyrdd