Cost of Living Support Icon

Ffioedd

Mae'n ddrwg gennym na allwn ni ad-dalu ffi hysbysiad o bartneriaeth sifil.

 

Nodwch nad yw’r ffioedd hyn yn cynnwys ffioedd yr adeilad sy'n cynnal y seremoni.

 

Y Swyddfa Gofrestru

  • £70.00 * i gyflwyno’r ddau hysbysiad (£35.00 yr un)
  • £46.00 ffi partneriaeth sifil
  • £4.00 tystysgrif partneriaeth sifil

CYFANSWM: £120.00

Adeiladau Cymeradwy

Dydd Llun i ddydd Gwener

  • £70.00 * i gyflwyno’r ddau hysbysiad (£35.00 yr un)
  • £360.00 Ffi partneriaeth sifil (rhaid talu’r ffi ddim hwyrach na 4 wythnos cyn y seremoni) **
  • £4.00 tystysgrif partneriaeth sifil

Cyfanwm: £434.00

 

Dydd Sadwrn

  • £70.00 * i gyflwyno’r ddau hysbysiad (£35.00 yr un)
  • £ 390.00 Ffi partneriaeth sifil (rhaid talu’r ffi ddim hwyrach na 4 wythnos cyn y seremoni)**
  • £4.00 tystysgrif partneriaeth sifil

Cyfanswm: £464.00

 

Dydd Sul a Gwyliau’r Banc

  • £70.00 * i gyflwyno’r ddau hysbysiad (£35.00 yr un)
  • £430.00 Ffi partneriaeth sifil (rhaid talu’r ffi ddim hwyrach na 4 wythnos cyn y seremoni) **
  • £4.00 tystysgrif partneriaeth sifil

Cyfanswm:  £454.00

 

 

Nodwch os Gwelwch yn dda - Mae’n bosib y bydd y ffioedd yn codi ar y cyntaf o Ebrill bob blwyddyn.

 

*Nid yw'n bosib i ni ad-dalu ffioedd.

** mae £50.00 o'r gost yma'n flaendal archeb - nid yw'n bosib ei ad-dalu.

 

Nodwch os gwelwch yn dda: bod rhaid talu’r ffi hysbysiad o bartneriaeth sifil wrth gyflwyno’r hysbysiad. Byddwn yn gofyn am ffi’r bartneriaeth sifil tua 1 mis cyn y seremoni. Rydym yn derbyn arian parod, sieciau neu orchmynion post ond nid cardiau credyd/debyd. Sieciau'n daladwy i'r "Cofrestrydd Arolygol" os gwelwch yn dda.

 

Mae hysbysiad o bartneriaeth sifil yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis, felly ni chaniateir i chi gyflwyno hysbysiad o bartneriaeth sifil i’r Cofrestrydd Arolygol fwy na deuddeg mis cyn dyddiad y seremoni. Er hyn, rydym yn ddigon bodlon i wneud trefniant dros dro ar gyfer parau sy’n awyddus i gynllunio’u partneriaeth sifil ymhell ymlaen llaw, ar yr amod eu bod yn deall y bydd rhaid iddyn nhw gyflwyno’r hysbysiad cyfreithiol ar yr adeg gywir.