Cost of Living Support Icon

Y Seremoni

Pa un ai a ydych yn dymuno cael seremoni fer anffurfiol gyda dim ond un neu ddau o westeion yn bresennol, neu seremoni fawr ffurfiol gyda llawer o westeion, bydd ein tîm cofrestru’n hapus i’ch helpu i gynllunio’r seremoni yr ydych wedi bod yn breuddwydio amdani.

 

Bydd pob seremoni’n gwbl unigryw. Er y bydd yna rai datganiadau cyfreithiol y bydd yn rhaid i chi eu hadrodd yn ystod y seremoni, mae’n bosib i chi ychwanegu elfennau eraill os ydych yn dymuno hynny. Gall y rhain fod ar ffurf barddoniaeth a darlleniadau, neu efallai y byddai’n well gennych ysgrifennu gair mwy arbennig a phersonol i’ch gilydd. Beth bynnag fo’ch dewis, bydd ein tîm profiadol a chyfeillgar yn gallu eich helpu.

 

Os oes gennych chi ddarn o farddoniaeth neu ddarlleniad arbennig dan sylw, yna bydd rhaid i ni weld copi ohono cyn seremoni.

 

Mae’n bosib i ni drefnu cerddoriaeth ar gyfer eich seremoni yn y Swyddfa Gofrestru, er bod croeso i chi ddod â’ch cerddoriaeth eich hun gyda chi (mynnwch air gyda’r Cofrestrydd Arolygol gyntaf). Ond os ydych chi’n bwriadu cynnal y seremoni yn un o’n Adeiladau Cymeradwy, fel arfer bydd angen i chi ddarparu o leiaf dri darn o gerddoriaeth i’w chwarae yn ystod y seremoni:

  • un ar gyfer dod i mewn
  • un ar gyfer llofnodi’r Gofrestr
  • un ar gyfer ymadael

 

Cysylltwch yn uniongyrchol â’r ganolfan cyn diwrnod y seremoni, i gadarnhau pwy fydd yn gyfrifol am chwarae a threfnu’ch cerddoriaeth ddewisedig.

 

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i unrhyw elfennau ychwanegol, fel cerddoriaeth, barddoniaeth neu ddarlleniadau fod yn seciwlar, ac ni ddylent gynnwys unrhyw gyfeiriadau crefyddol.

 

Os ydych wedi penderfynu perfformio’ch partneriaeth sifil yn y Swyddfa Gofrestru neu yn un o’r Adeiladau Cymeradwy, byddwn yn gofyn i chi ddod i mewn i’r Swyddfa Gofrestru am gyfarfod anffurfiol i drafod cynnwys y seremoni (cyfweliad cyn cynnal seremoni partneriaeth sifil yw’r enw ar y cyfarfod hwn) gyda’r Cofrestrydd Arolygol a fydd yn gweinyddu yn eich partneriaeth sifil.

 

  • Seremoni Ddwyieithog
    Os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl, efallai y byddwch yn dymuno cynnal y seremoni drwy gyfrwng y Gymraeg. Os felly, codwch y mater gyda’r Cofrestrydd Arolygol pan fyddwch chi’n trefnu’ch cyfarfod cyntaf yn y Swyddfa Gofrestru. 
  •  Beth os oes angen cymorth arbennig arnaf?

    Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, wrth gyflwyno’r hysbysiad cyfreithiol, cofiwch drafod eich anghenion gyda’r cofrestrydd pan fyddwch chi’n ffonio i drefnu’ch apwyntment. 

  •  Cyfleusterau Parcio

    Mae yna nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gael ar gyfer ein cwsmeriaid yn y Swyddfeydd Dinesig (mae’r fynedfa ar Dock View Road) rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Mae llefydd parcio ychwanegol ar gael yng Nghanolfan Hamdden y Barri. Fel arfer mae maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig yn eithaf tawel ar benwythnosau.

     

    Gofynnwn i ymwelwyr fynd at y dderbynfa ar lawr gwaelod y Swyddfeydd Dinesig, a bydd rhywun yno’n eu cyfeirio at y Swyddfa Gofrestru.