Cost of Living Support Icon

Cofrestru Marwolaeth

Dylai marwolaeth gael ei chofrestru o fewn pum niwrnod i ddyddiad y farwolaeth fel arfer

 

*Oherwydd y pandemig coronafeirws, yn anffodus nid ydym yn gallu cynnig unrhyw apwyntiadau i gofrestru oherwydd bod holl adeiladau / swyddfeydd y Cyngor ar gau i’r cyhoedd*

 

Dylai marwolaeth gael ei chofrestru o fewn pum niwrnod i ddyddiad y farwolaeth fel arfer. Fodd bynnag, mi all fod eithriadau i’r rheol hon, er enghraifft, pan fydd y  Crwner yn rhan o’r broses. Os yw’r farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at y Crwner, ni all gael ei chofrestru nes bod y cofrestrydd wedi cael ei awdurdodi gan y Crwner i fwrw ymlaen a’r cofrestriad. 

 

Lily

Trefnu Apwyntiad

Bydd gofyn gwneud ymweliad personol â Swyddfa Gofrestru. Gallwch chi drefnu apwyntiad ar-lein neu dros y ffôn:

 

Trefnu Apwyntiad ar-lein (dolen Saesneg)

 

Os ydych chi’n dymuno cofrestru’r farwolaeth yn ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg, cysylltwch â swyddfa’r Cofrestrydd:

  • 01446 709166 / 01446 709167 

 

Nodwch: am resymau diogelwch, bydd y system yn cau’r ddolen ymhen 20 munud. Cwblhewch eich trefniant o fewn y cyfnod hwn neu bydd y wybodaeth yn cael ei cholli a bydd angen i chi ailddechrau’r broses. 

 

Mae gwybodaeth ynglŷn â chofrestru marwolaeth ar gael ar lein: 

 

GOV.UK - What to do when someone dies