Cost of Living Support Icon

Angladdau Iechyd y Cyhoedd

Gwybodaeth am angladdau iechyd y cyhoedd, pobl sydd wedi marw heb deulu agos hysbys, ystadau nwyddau diberchennog ac ystadau a gyfeiriwyd at Gyfreithiwr y Trysorlys, neu at Ddugiaeth Caerhirfryn neu Gernyw.  

 

Caiff y wybodaeth hon am angladdau iechyd cyhoeddus ei diweddaru’n chwarterol.

   
Public Health FuneralsPublic Health Funerals
Dyddiad y Farwolaeth RhywOedranLleoliad y FarwolaethY Math o AngladdTeulu Agosaf/ EwyllysCyfreithwyr y TrysorlysCost of Funeral
11/11/2019 Dyn 63 Dinas Powys Amlosgi Ie Na £1,159.00
25/10/2019 Benyw 65 Penarth Amlosgi Ie Na £1,159.00
06/10/2019 Dyn 51 Penarth Amlosgi Na Na £995.00
07/08/2019 Dyn 72 Y Barri Amlosgi Na Na £995.00
25/07/2019 Dyn 73 Llanilltud Fawr Amlosgi Ie Na £995.00
05/03/2019 Dyn 43 Penarth Amlosgi Ie Na £995.00
16/01/2019 Benyw 69 Penarth Amlosgi Ie Na £1,159.00
25/10/2018 Dyn 58 Penarth Amlosgi Oes Na £1,159.00
21/09/2018 Benyw 50 Y Barri Amlosgi Oes Na £995.00
11/07/2018 Dyn 66 Y Barri Amlosgi Na Na £995.00
18/03/2018 Dyn 82 Sili Amlosgi Oes Na £1,078.00
06/09/2017  Dyn  81 Penarth Claddu Oes  Na  £3,842.0
29/06/2017 Dyn 68 Penarth Amlosgi  Oes Na £1,159.0
29/04/2017 Dyn 74 Penarth Amlosgi  Na Na  £1,159.0
02/03/2017 Benyw 78 Penarth Amlosgi Oes Na £995.00
06/10/2016 Dyn 57 Y Barri Amlosgi Oes Na £995.00
24/09/2016 Dyn 89 Y Barri Amlosgi Oes Na £1,159.00
14/08/2016 Dyn 58 Y Barri Amlosgi Oes Na £995.00
12/08/2016 Dyn 78 Y Barri Amlosgi Oes Na £1,159.00
10/07/2016 Dyn 65 Y Barri Amlosgi Oes Na £995.00
15/06/2016 Dyn 58 Penarth Amlosgi Oes Na £1,159.00
03/05/2016 Dyn 61 Y Barri Amlosgi Oes Oes £1,241.00
04/04/2016 Dyn 55 Penarth Amlosgi Oes Na £995.00
20/03/2016 Dyn 67 Penarth Amlosgi Oes Na £1,159.00
04/01/2016 Dyn 58 Penarth Amlosgi Oes Na £1,159.00
05/12/2015 Dyn 65 Penarth Amlosgi Oes Na £995.00
11/10/2015 Dyn 45 Penarth Claddu Oes Na £1,416.00
27/09/2015 Benyw 50 Penarth Amlosgi Oes Na £995.00
14/09/2015 Dyn 76 Y Barri Amlosgi Oes Na £1,159.00
21/08/2015 Dyn 61 Penarth Amlosgi Na Na £995.00
03/08/2015 Benyw 63 Penarth Amlosgi Oes Na £1,174.00
13/02/2015 Dyn 47 Y Barri Amlosgi Yes Na £995.00
 05/07/2014 Dyn 50 Y Barri Amlosgi Oes Na £995.00
14/05/2014 Dyn 85 Penarth Amlosgi Na Na £995.00
18/03/2014 Dyn 86 Y Barri Amlosgi Oes Na £1,152.00
14/01/2014 Dyn 47 Y Barri Amlosgi Oes Na £995.00
09/12/2013 Dyn 73 Penarth Amlosgi Oes Na £1,215.00
05/12/2013 Dyn 75 Y Bont-faen Amlosgi Oes Na £1,177.50
05/08/2013 Benyw 61 Penarth Claddu Oes Na £1,000.00
27/05/2013 Dyn 54 Penarth Amlosgi Oes Na £1,222.00
26/06/2012 Dyn 54 Y Barri Claddu Oes Oes £1,021.00
14/04/2012 Dyn 48 Penarth Claddu Na

Na 

£765.00

26/02/2012 Benyw 56 Penarth Claddu Oes

Na

£564.00

19/02/2012 Dyn 59 Penarth Claddu Oes Na £795.00
19/09/2010 Benyw 67

Penarth

Claddu Oes Na £822.00
30/06/2010 Dyn 86 Y Barri Claddu Oes Na £1245.00
17/03/2010 Benyw 65 Y Barri Claddu Na Na £681.72
25/01/2010 Dyn 85 Llanilltud Fawr Claddu Na Na £945.00

Eithriadau i Wybodaeth wedi’i Diweddaru yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 

Prin yw’r angladdau iechyd y cyhoedd a geir ym Mro Morgannwg, ac oherwydd hyn, rydyn ni o’r farn bod cyhoeddi’r wybodaeth hon fesul achos yn rhesymol. Bydd rhyddhau gwybodaeth newydd cyn y diweddariad arfaethedig nesaf yn cael ei eithrio yn unol ag Adran 22 o’r Ddeddf gan ei bod yn fwriad gennym gyhoeddi’r wybodaeth sydd yn ein meddiant yn y dyfodol, fel y nodir uchod. 

 

Eithriadau i Wybodaeth Ychwanegol yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Rydyn ni’n gweithredu’r eithriadau isod yn achos gwybodaeth bellach am angladdau iechyd y cyhoedd, pobl sydd wedi marw heb deulu agos, ystadau nwyddau diberchennog (Bona Vacantia) ac ystadau a gyfeiriwyd at Gyfreithiwr y Trysorlys, neu i Ddugiaeth Caerhirfryn neu Gernyw.

  • Adran 21 – Gwybodaeth sy’n Rhesymol o Hygyrch i’r Ymgeisydd drwy Ddulliau amgen – rheswm y Cyngor dros weithredu’r eithriad hwn yw bod manylion pob marwolaeth o fewn Bro Morgannwg yn cael eu cofrestru. Gellir cofrestru marwolaethau mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru, a cheir manylion y swyddfeydd yma ym Mro Morgannwg ar dudalen ein cofrestrfa. Bernir bod rhai o’r manylion sydd ym meddiant y Cyngor am ystadau a gyfeiriwyd at Gyfreithiwr y Trysorlys, neu a fydd yn cael eu cyfeirio ato, yn cael eu cadw ar ran Adran Cyfreithiwr y Trysorlys. Mae rhai manylion am ystadau pobl sydd wedi marw wedi cael eu trosglwyddo i Gyfreithiwr y Trysorlys, a gellir eu gweld ar wefan Cyfreithiwr y Trysorlys neu ar wefan Bona Vacantia. Mae’r gwefannau yma yn Saesneg.

  • Adran 31Gorfodi’r Gyfraith – gallai rhyddhau manylion am asedau ystad cyn i Gyfreithiwr y Trysorlys gael cyfle i gynnal ymholiadau iddo arwain at weithredoedd troseddol posibl (er enghraifft, lladrad neu dwyll). Yn yr un modd, buasai pryderon yn codi yn achos cyhoeddi cyfeiriad diweddaraf yr ymadawedig, oherwydd gallai’r annedd fod yn wag, a gwaith papur ac eiddo personol yr unigolyn a fu farw ynddo o hyd.

 Mae’r elfen o risg yn parhau ar ôl i’r ystad gael ei ddiogelu, er enghraifft, yn achos dwyn hunaniaeth. O gloriannu’r materion uchod, barn y cyngor yw nad oes diddordeb cyhoeddus digonol i gyfiawnhau rhyddhau’r wybodaeth a ofynnwyd amdani. Y ffordd orau o warchod diddordeb y cyhoedd fuasai cynnal yr eithriad o dan Adran 31 y Ddeddf, gan y buasai datgelu’r wybodaeth yn debygol o beryglu’r gwaith o atal troseddau drwy hwyluso neu alluogi gweithredoedd troseddol.

 

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y penderfyniad i eithrio darparu gwybodaeth ychwanegol o dan Adran 21 ac Adran 31 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi cael ei gadarnhau mewn Adolygiad Mewnol.

 

Nid oes a wnelo Cyngor Bro Morgannwg ddim â’r mater, ac nid yw wedi talu am wasanaethau bwrwyr cythreuliaid, gweithwyr seicig nac iachawyr crefyddol.