Cost of Living Support Icon

Cofnodion, Cofrestrau a’r Cyfrifiad

Dechreuodd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau gael eu cofnodi gan y llywodraeth mor ddiweddar ag 1837 – Cofrestru Dinesig yw’r enw ar hyn. I olrhain hanes eich teulu yn y canrifoedd a fu, bydd angen i chi archwilio Cofnodion Plwyf a Ffurflenni Cyfrifiad. 

 

Ffurflenni Cyfrifiad 

Cofnod manwl yw ffurflenni’r cyfrifiad, sy’n nodi pawb sy’n byw ym mhob tŷ ym mhob stryd, a chaiff y wybodaeth ei chasglu pob deng mlynedd.

 

Mae’r ffurflenni yma’n ddogfennau hynod ddefnyddiol wrth archwilio hanes teulu.

 

Ar hyn o bryd, mae ffurflenni cyfrifiad dim ond ar gael ar gyfer y blynyddoedd 1841, 1851, 1861, 1871, 1891 ac 1901.

 

Gellir gwirio ffurflenni Sir Forgannwg a’r rhan fwyaf o Sir Fynwy yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg yng Nghaerdydd:

 

 Mae Cyfrifiad 1901 ar gael ar-lein bellach:

 

Cyfrifiad 1901 (dolen Saesneg) 

 

Census Online Team

Public Record Office

Kew

Richmond

Surrey

TW9 4DU

  • 020 8392 5200

 

Gwefan Archifau Cymru  

Cofrestrau’r Plwyf 

Mae cofrestrau’r plwyf yn cynnwys cofnod o Fedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau. Mae rhai o’r rhain wedi goroesi er 1538 pan aeth gweinidogion ac offeiriad i’r afael â’r arfer o gofnodi digwyddiadau o’r fath am y tro cyntaf.

 

Gellir darllen cofrestrau Plwyfi Morgannwg yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg yng Nghaerdydd: 

 

Mae rhai llyfrgelloedd lleol hefyd yn cadw Cofnodion Plwyf eu hardal. 

Cofnodion

Mae Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg yn y Barri’n meddu ar gofnod o’r holl enedigaethau, marwolaethau a phriodasau a gynhaliwyd yn y dalgylch hwn o 1837 ymlaen. 

 

Nodwch: gall fod ffiniau wedi symud dros y blynyddoedd ac yn sgil hynny, gallai cofnodion fod wedi symud i mewn ac allan o’r ardal. Os oes unrhyw amheuaeth fod hyn wedi digwydd, cysylltwch â ni cyn ymweld â ni neu ysgrifennu aton ni. Gallai’r crynodeb isod o gofnodion sydd yn ein meddiant fod o gymorth cyffredinol, fodd bynnag.

 

Cofnodion Genedigaethau a Marwolaethau 

Records
 Dalgylch/Ardal Dyddiadau Swyddfa Gofrestru
 Sain Niclas 14 Awst 1837 - 31 Rhagfyr 1934

Bro Morgannwg, Y Barri

 Penarth

03 Ebrill 1897 - 31 Mawrth 1990 

01 Ebrill 1996 tan heddiw 

 

Bro Morgannwg, Y Barri

Y Barri 

01 Ionawr 1920 - 31 Mawrth 1990 

01 Ebrill 1996 tan heddiw 

Bro Morgannwg, Y Barri

Y Bont-faen 

Ebrill 1837 tan 31 Mawrth 1974

Ebrill 1974 tan 31 Mawrth 1990

01 Ebrill 1996 tan heddiw

Pen-y-bont ar Ogwr
Bro Morgannwg, Y Barri

Bro Morgannwg, Y Barri

 

Nodwch: cedwir y rhan fwyaf o gofnodion genedigaethau a marwolaethau Bro Morgannwg ym meddiant Caerdydd. Ffoniwch i gadarnhau, oherwydd ceir eithriadau i’r rheol gyffredinol hon. 

 

 Priodasau

Marriages
 Lleoliad y Briodas Dyddiadau Swyddfa Gofrestru
Swyddfa Gofrestru 1837 - 1934  Caerdydd
Priodasau mewn Swyddfa Gofrestru (pobl oedd yn byw yn y Barri/ Penarth/ Bro Morgannwg a Dwyrain Morgannwg

1934 - 1974

Bro Morgannwg, Y Barri

Swyddfa Gofrestru (a phan oedd y cofrestrydd yn mynychu eglwysi)

1974 - 31 Mawrth 1996

Caerdydd

Yr holl eglwysi plwyf a’r lleoliadau cymeradwy yn y Barri, Penarth a Bro Morgannwg

  Bro Morgannwg, Y Barri

 

Gallwch wneud cais am gopi o dystysgrif o’r cofnodion yma ar lein, drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy ymweld â Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg, y Barri.

 

CAIS AM DYSTYSGRIF GENI, PRIODAS, MARWOLAETH

 

Tystysgrifau Copi Safonol

 

Pris: £11.00 yn barod i'w casglu/postio 2il ddosbarth ar ôl 3.00 pm ar y 15fed diwrnod

Tystysgrif Copi â Blaenoriaeth

Pris: £35.00 yn barod i'w casglu/postio dosbarth 1af ar ô 3.00 pm ar y diwrnod gwaith nesaf

 

Dylai sieciau ac archebion post fod yn daladwy i: Y Cofrestrydd Arolygu.

 

Mae gofyn talu â cherdyn am geisiadau dros y ffôn, a bydd angen i ddeiliad y cerdyn fod yn bresennol i wneud y taliad. 

Os ydych yn ymgeisio drwy lythyr, cofiwch gynnwys amlen â stamp arni wedi’i chyfeirio atoch chi.

 

Wrth wneud cais am dystysgrif, mae angen rhoi manylion bras yr enedigaeth, y briodas neu’r farwolaeth, os nad yr union rai cywir.

 

Os ydy’r wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir, byddwn yn darparu tystysgrif o fewn pum niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os mai gwybodaeth rannol yn unig y gellir ei rhoi, efallai fydd angen ychwaneg o amser arnom i chwilio’r mynegeion â llaw, neu bydd angen manylion pellach gennych chi cyn i ni gyflawni chwiliad. Os na fyddwn ni’n medru dod o hyd i’r cofnod y gwnaethoch gais amdani, byddwn yn dychwelyd eich siec neu archeb bost atoch.

 

Os oes cais am dystysgrifau lluosog, rydyn ni’n argymell eich bod yn anfon siec ar wahân ar gyfer pob cofnod.

Chwilio Mynegeion Lleol 

Yn anffodus, nid oes staff digonol gan y Gwasanaeth Cofrestru i ymgymryd â chwiliadau a allai fod yn astrus.

 

Os oes gofyn gwneud cais o’r fath, bydd angen i chi neu eich cynrychiolydd ymgymryd â’r chwiliad eich hun.

 

Er nad yw’r cofrestrau eu hunain ar gael i’r cyhoedd, mae gennych hawl i chwilio mynegeion y cofrestrau a gedwir yn y Swyddfa Gofrestru fel modd o gynnal Chwiliad Cyffredinol. Rhaid trefnu’r chwiliad ymlaen llaw gyda’r Cofrestrydd Arolygu.

 

Hyd: 6 awr o’r bron mewn un diwrnod

 

Pris: £18.00 (Pennir cost chwiliad mynegai yn statudol a chaiff ei adolygu yn flynyddol.) 

 

Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg, Y Barri 

Y Swyddfeydd Dinesig 

Holton Road 

Y Barri 

CF63 4RU


Oriau Swyddfa 

Llun – Iau: 8:30am - 1.00pm / 2.00pm - 4.30pm 

Gwener: 8:30am - 1:00pm / 2:00pm - 4:00pm