Cost of Living Support Icon

Arwyneb y Ffyrdd

Gall gwaith arwynebu’r ffordd olygu cryfhau strwythurol neu drin yr arwyneb. Yn y Fro, rydyn ni’n defnyddio cymysgedd o asffalt mân a deunyddiau confensiynol ac arwynebol.

 

Bydd trigolion yn derbyn llythyr i’w hysbysu am unrhyw waith arfaethedig ar eu stryd. Mae’n werth cofio y bydd ffyrdd ar gau yn ystod cyfnod y gweithfeydd arwynebu ac y bydd gwyriadau lleol. Nodwch: mae’r gwaith yn amodol ar amodau’r tywydd.

 

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwahanol i osod arwynebau ffordd newydd. 

 

 

 

Arwyneb Confensiynol 

Bwriad yr arwyneb newydd yw adfer neu wella proffil/ansawdd arwyneb ffordd, esmwythder, draenio a gwrthsefyll llithro. 

 

Fel arfer, bydd yr arwynebu ar ffurf brithwaith (ar ffyrdd trefol) neu droshaenu (yng nghefn gwlad gan amlaf). Brithwaith – mae hen arwyneb y ffordd yn cael ei blaenio i ffwrdd ac mae deunydd newydd addas yn cael ei osod drosto. Gall hyn olygu tynnu ac ailosod haenau is y ffordd hefyd.

 

Tros-haenu – ychwanegu deunydd at y ffordd gyfredol i wella’r proffil a’i chryfhau. Yn ogystal â thros-haenu’r arwyneb, gellir ailadeiladu’r ffordd mewn mannau cyn tros-haenu’r arwyneb. Y deunydd mwyaf cyffredin a ddefnyddir yn y  Fro ar hyn o bryd yw 'Carreg Asffalt Mastig' (CAM) a tharmacadam bitwmen. Fe’i gosodir yn drwch o 40mm i 60mm fel arfer.

 

Arwynebu Asffalt Mân

Caiff y math hwn o arwynebu ei ddefnyddio’n gyson yn ardaloedd trefol y Fro. Ymhlith nodweddion yr arwyneb gorffenedig mae llai o sŵn a theimlad llyfn, ac mae’n broses effeithlon o ran amser ar y safle.

 

Nodwch: ni fydd yr arwyneb hwn yn cryfhau’r ffordd. 

 

Deunydd Arwyneb

Pan fydd bitwmen poeth a cherrig mân y cael eu cymysgu a’u gosod ar arwyneb y ffordd. Mae’n un o’r dulliau mwyaf cyffredin a chost effeithiol o waith cynnal a chadw priffyrdd, ond nid yw’n addas at safleoedd o ‘straen uchel’ fel cylchfannau a chyffyrdd prysur.

 

Mae’r broses hon yn hwyhau bywyd y ffordd, yn gwrthsefyll llithro ac yn gwella ymddangosiad y ffordd.

 

Os yw seiliau’r ffordd wedi methu, ni all deunydd arwynebol ei chryfhau. Yn yr achos hwn, mae gofyn arwynebu’r ffordd o’r newydd neu ei hailstrwythuro.