Cost of Living Support Icon

Cynwysyddion ar y Briffordd

Ni ellir gosod cynwysyddion ar y briffordd yn gyfreithlon nes bod caniatâd wedi ei roi. 

 

Amodau Caniatâd

Os ydych chi’n credu y gallwch gydymffurfio â’r amodau isod ac mae arnoch angen gosod cynhwysydd ar y briffordd, cysylltwch i wneud cais:

  1. Pris gosod cynhwysydd ar y briffordd yw £117.10 am gyfnod o bedair wythnos
  2. Rhaid gosod pob cynhwysydd ar drawstiau cynnal pren i osgoi niwed i arwyneb y briffordd
  3. Rhaid i’r trawstiau cynnal ganiatáu i ddŵr yr arwyneb lifo’n ddirwystr
  4. Rhaid cynnal uchafswm lled y briffordd o 3.25m bob amser
  5. Rhaid i offer arwyddo, goleuo a gwarchod y cynhwysydd gydymffurfio â Chod Ymarfer Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd (Uned Cynnal Diogelwch y Briffordd)
  6. Rhaid atgyweirio unrhyw niwed a wneir i’r briffordd.

 

Cyflwyno Cais i osod Cynhwysydd ar Briffordd

I gyflwyno cais am ganiatâd i osod cynhwysydd ar briffordd, cysylltwch â: 01446 700111.