Cost of Living Support Icon

Rheoli Adeiladu

Mae’r adran yn cydweithio â pherchnogion adeiladau, contractwyr ac ymgynghorwyr proffesiynol i gyfleu adeiladau sy’n cydymffurfio â’r safonau iechyd a diogelwch ac ansawdd sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Adeiladu, yn brydlon ac o fewn cyllideb. 

 

Rydyn ni’n croesawu ac yn annog ymgeiswyr i drafod cynlluniau cyn cyflwyno cais er mwyn bod prosiectau cymhleth yn medru bwrw iddi heb unrhyw oedi diangen, cysylltwch: 01446 704609

 

Gallai hyn arbed arian i’r datblygwr hefyd, oherwydd gall ymgynghoriad cynnar helpu i osgoi cyflwyno cais gorfanwl. 

 

Cyflwyno cais ar-lein

Gallwch chi gyflwyno ffurflenni cais rheoli adeiladu, dogfennau a chynlluniau ar-lein drwy’r Porth Adeiladu.  Cysylltwch 01446 704609.

 

 

Gellir talu ffioedd rheoli adeiladu dros y ffôn:

  • 01446 704609

    01446 704829 / 700111

 

 

Cofrestr Rheoli Adeiladu

Gallwch weld pob cais sydd wedi ei gyflwyno i’r Cyngor er 1994.

 

Nodwch: Mae pob cynllun, darlun a deunydd a gyflwynir i’r Cyngor wedi eu gwarchod yn unol â’r Ddeddf Hawlfraint, Dylunio a Phatentau (Adran 47).

 

Building Control Register

 

 

 

  

 

LABC Front Door logo

LABC Front Door

Mae LABC Front Door yn rhoi cyngor ar welliannau i'r cartref, rheoliadau adeiladu a gweithio gydag adeiladwyr a dylunwyr. Paratowyd y cyngor gan LABC sy'n cynrychioli holl dimau Rheoli Adeiladu awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

 

Rheoliadau

Prif bwrpas y Rheoliadau Adeiladu sydd mewn grym yng Nghymru a Lloegr yw sicrhau iechyd a diogelwch pobl mewn adeiladau ac o’u cwmpas. Maent hefyd yn ymwneud â mynediad i adeiladau a’r cyffiniau, ac ag arbed ynni. 

 

Fwy na thebyg y bydd Rheoliadau Adeiladu’n berthnasol os ydych chi’n bwriadu:

  • Gwaith To Newydd (os yw mwy na 50% o’r to’n newydd mae rheoliadau adeiladu’n berthnasol)
  • Adeiladau allanol ar wahân, swyddfeydd neu ystafelloedd gardd. Cysylltwch â’r swyddfa am fwy o fanylion
  • Gwneud newidiadau strwythurol i adeilad sy'n bodoli eisoes (gan gynnwys y sylfeini)
  • Newid defnydd adeilad sy'n bodoli eisoes (mewn rhai achosion)
  • Darparu, ymestyn neu newid adnoddau draenio
  • Darparu bwyler cynhesu gofod neu fwyler gwasanaeth dŵr poeth
  • Darparu llestr dŵr poeth
  • Codi adeilad newydd neu ymestyn adeilad sy'n bodoli eisoes (oni bai bod yr adeilad neu’r estyniad wedi ei eithrio yn ôl y rheoliadau
  • Darparu ffenestr, golau yn y nenfwd neu ddrws newydd (yn achos drws, pan fod dros 50% o’i arwynebedd mewnol wedi ei wydro, gan gynnwys y ffrâm