Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ymgynghoriad ar gynnig i gynyddu nifer y lleoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Barri drwy ddarparu ar gyfer mwy o ddisgyblion yn Ysgol Gwaun y Nant, gan ei chynyddu o 210 o leoedd i 420 yn dechrau yn 2015

 

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Bro Morgannwg i gwrdd â galw rhieni am addysg Gymraeg. Bu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg ar draws y Fro ers 2009 ac arweiniodd hyn at agor dwy ysgol Gymraeg newydd ym mis Medi 2011 yn Llanilltud Fawr a'r Barri.

 

Mae’r twf mewn galw wedi parhau ers 2011 ar draws y Fro i’r graddau bod disgwyl y bydd diffyg lleoedd derbyn yn y Barri ar gyfer mis Medi 2014. Ar hyn o bryd mae pedair ysgol yn darparu addysg gynradd Gymraeg yn y Barri: Ysgol St Curig, Ysgol St Baruc, Ysgol Nant Talwg ac Ysgol Gwaun y Nant.

 

Mae'r Cyngor yn bwriadu cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg yn y Barri drwy gynyddu'r lle yn Ysgol Gwaun y Nant o 210 i 420 o leoedd yn dechrau ym mis Medi 2015. Bydd lleoedd ar gyfer 60 o blant ym mhob grŵp oedran, mewn dau ddosbarth: ar hyn o bryd y mae 30 o leoedd.  Bydd yr ysgol yn tyfu’n raddol gyda 60 o leoedd yn y dosbarth derbyn bob blwyddyn. Bydd y cynnig hwn yn rheoli’r galw cynyddol i gwrdd ag anghenion plant yn yr ardal yn y dyfodol.

 

Disgwylir y bydd y cynnydd mewn galw yn y Barri yn parhau ar y gyfradd bresennol hyd y gellir gweld a disgwylir y bydd diffyg lleoedd ar gyfer 2015 a’r tu hwnt. Bydd y cynnig yn ymateb i’r twf mewn galw gan rieni am addysg Gymraeg yn y Barri.

 

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 18 Tachwedd 2013 i 10 Ionawr 2014

 

Sut gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch lawrlwytho copi o'r llythyr a'r ddogfen ymgynghorol yn manylu ar y cynnig ac anfon eich barn yn y ffyrdd canlynol:

  • Llenwi’r profforma a geir o fewn y ddogfen ymgynghorol a’i dychwelyd i:

Ehangiad Addysg Gymraeg y Barri

Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid

Cyngor Bro Morgannwg

RHADBOST SWC2936

Y Barri CF63 4GZ

Os oes gennych ymholiad nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn ymdrin â hi yna gallwch anfon e-bost at barrywelshmediumexp@valeofglamorgan.gov.uk, gallwch ffonio’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu ysgrifennu at Ehangiad Addysg Gymraeg, Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, Cyngor Bro Morgannwg, RHADBOST SWC2936, Y Barri CF63 4GZ.