Cost of Living Support Icon

Grant Hanfodion Ysgol

Mae Grant Hanfodion Ysgol (GHY) ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati.  

 

Gellir defnyddio’r grant hwn gyda’r canlynol:

  • Prynu gwisgoedd ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio a dawns
  • Offer e.e. bag ysgol a deunydd ysgrifennu ac ati
  • Offer arbenigol pan fo gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg
  • Offer ar gyfer tripiau y tu allan i oriau ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored, e.e. dillad gwrth-ddŵr, gliniaduron neu dabledu

 

Nid oes hawl defnyddio’r grant hwn ar gyfer TG.

 

Pwy all gwneud cais

Mae’r grant ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim neu sy’n blant sy’n derbyn gofal ac sy’n:

  • Dosbarth derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5 neu Flwyddyn g ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd
  • Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11 ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd
  • Yn y dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 6, Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10, Blwyddyn 11 neu gyfatebol mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbenigol neu uned cyfeirio disgyblion.

 

Nid yw’r grant ar gael i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion preifat.

 

Mae’r arian hefyd ar gael i’r holl blant sy’n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol.

 

Rhaid bod y rhiant/gwarcheidwad sy’n gwneud y cais fod yn cael un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth ar sail incwm (ESAIR)
  • Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai
  • Credyd Pensiwn (elfen gwarant)
  • Credyd Cynhwysol ag enillion net y cartref yn is na £7400 y flwyddyn

 

Nid yw Credyd Treth Gwaith yn fudd-dal cymhwyso ac os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith ni fyddwch yn gymwys i gael Grant Datblygu Disgybl hyd yn oed os ydych yn ei gael ynghyd ag un o’r incymau uchod.

 

Gwneud Gais am Grant Hanfodion Ysgol yma

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn ac yn meddwl y gallai’ch plentyn neu blant fod yn gymwys, cwblhewch a dychwelwch Ffurflen Cais am Grant Hanfodion Ysgol:

 

Cais am Fynediad i'r Grant Hanfodion Ysgol (GHY) 2023/24

 

Llenwch ac anfonwch y ffurflen i:

Adran Fudd-daliadau

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU