Cost of Living Support Icon

Cyllid Ysgolion

Gwybodaeth yn ymwneud ag Adran 52, Data Cymharol, Cynllun Ariannu Teg, Cynllun Adfachu a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig 

 

 

  • Cynllun Adfachu unrhyw Falansau Gwarged Ysgolion

    Mae'r cynllun i adfachu balansau gwarged ysgolion yn rhoi'r pŵer i'r Cyngor naill ai i gyfarwyddo ysgol i wario neu adfachu gweddillion o fwy na £50,000 mewn ysgolion Meithrin a Chynradd a mwy na £100,000 mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig.

     

    Cynllun Adfachu

  • Cynllun Ariannu Teg i Ariannu Ysgolion

    Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol gael Cynllun Ariannu Teg ar gyfer Ariannu Ysgolion, yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (SSFA) a'r rheoliadau cysylltiedig.

     

    Mae'r fframwaith ariannu, sy'n disodli Rheolaeth Leol Ysgolion (LMS), yn seiliedig ar y darpariaethau deddfwriaethol yn adrannau 45-53 o'r SSFA fel y'i diwygiwyd gan adran 41 o Ddeddf Addysg 2002. Diben y fframwaith yw sicrhau:

     

    Safonau gwell, hunanreolaeth, atebolrwydd, tryloywder, cyfle, tegwch a gwerth am arian. Egwyddor sylfaenol y cynllun yw dirprwyo uchafswm o gyfrifoldeb rheolaethol i gyrff llywodraethu sy'n gyson â chyflawni ei gyfrifoldebau statudol gan y Cyngor.

     

    Cynllun Ariannu Teg

 

Datganiad Cyllideb Adran 52

Mae'r Datganiad Cyllideb Adran 52 yn cael ei baratoi yn unol ag Adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) a chanllawiau ategol

 

Rhan 1 - Tabl 1 : Gwybodaeth Lefel Ysgol

Mae Tabl 1 yn darparu'r wybodaeth ganlynol am bob un o ysgolion Meithrin, Cynradd, Uwchradd, ac Arbennig y Cyngor a Memorandwm eitemau nad ydynt wedi'u dyrannu i ysgolion unigol:

 

Rhan 2 : Cyllideb Ysgolion Unigol - Ffactorau Ariannu

Mae'r rhan hon yn crynhoi'r fformiwlâu a ddefnyddir i gynhyrchu pob cyllideb ysgol unigol. Mae'n dangos cyllid Uned Disgybl wedi’i Bwysoli o ran Oed (AWPU), cyllid Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a ffactorau eraill a ddefnyddir i gynhyrchu dyraniad fformiwla neu gyfran cyllideb yr ysgol.

Rhan 3 : Cyfran Cyllideb Ysgol

Mae'r rhan hon yn dangos sut y cyfrifwyd dyraniad fformiwla pob ysgol. Mae'n dangos yr holl ffactorau (ariannol ac anariannol) a ddefnyddir i gynhyrchu dyraniad fformiwla pob ysgol. 

Adran 52 Datganiadau Alldro

Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth) mae'n ofynnol i Gynghorau baratoi a chyflwyno datganiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n crynhoi cyfran gyllideb gynlluniedig pob ysgol, addasiadau yn ystod y flwyddyn, gwir wariant ac incwm, balansau a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol a balansau sy’n cario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Am wybodaeth yn ymwneud â Data Ystadegol Disgyblion cysylltwch â'r Swyddog Gwybodaeth (Gwerth Ychwanegol) o fewn Tîm TGCh a Data y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Datblygu.

 

  • 01446 700111