Cost of Living Support Icon

Sust Learning logo_colour

 

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Mae’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn fuddsoddiad strategol hirdymor yn yr ystad addysgol ledled Cymru.

 

Mae’n gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), awdurdodau lleol, colegau ac awdurdodau esgobaethol.

 

Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

 

 

Beth yw manteision y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy?

  • Creu adeiladau ysgol sy'n cefnogi addysg fodern, gan alluogi mynediad i bawb a galluogi athrawon i ganolbwyntio ar ddeilliannau addysgol

  • Lleoedd dysgu gwell ar gyfer yr 21ain Ganrif; yn cynnwys cyfleusterau TGCh, ystafelloedd dosbarth arbenigol ac amgylcheddau dysgu awyr agored

  • Darparu mwy o gyfleoedd i ddysgu trwy ymestyn ysgolion, gan gefnogi poblogaeth gynyddol y Fro

  • Cefnogi Cymru ddwyieithog drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau addysgol cyfrwng Cymraeg a Saesneg

  • Mae ysgolion newydd yn cael eu dylunio i fodloni safon Rhagorol BREEAM; sy’n cynnwys codi adeiladau ynni-effeithlon, gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, a lleihau cost carbon gwaith adeiladu

  • Mae ysgolion newydd yn cael eu dylunio a'u hadeiladu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Nod targedau Carbon Cyngor Bro Morgannwg yw darparu adeiladau sy’n gweithredu ar Sero Net yn sylfaenol

  • Cyfleoedd incwm uniongyrchol i ysgolion trwy logi cyfleusterau i’r gymuned

  • Costau cynnal a chadw llai oherwydd adeiladau newydd ac wedi’u hadnewyddu

  • Bydd disgyblion a’r gymuned ehangach yn gallu cael mynediad at fannau gwyrdd, cyfleusterau hamddenol a pherfformio ac ystafelloedd cyfarfod o ansawdd

  • Cyfleoedd i blant a grwpiau cymunedol ddysgu am adeiladu, gyda lleoliadau gwaith i ymgeiswyr nePreview

  • wydd a chyfraniadau nwyddau i’r sector gwirfoddol yn rhan o’r gofynion buddion cymunedol a osodir ar gontractwyr

  • Rhaglen adeiladu sy’n defnyddio cadwyni cyflenwi lleol ac yn cefnogi busnesau bach lle bo’n bosibl

 

Prosiectau arfaethedig a phrosiectau i ddod ym Mro Morgannwg

Sant Richard Gwyn

Ysgol Ffydd 11 - 16 

Disgrifiad: Adeilad newydd ar y safle presenno

Ysgol Iolo Morganwg 

Ysgol Gynradd Gymraeg

Disgrifiad: Adeilad newydd ar safle newydd

Ymestyn Ysgol y Deri

Disgrifiad: Cyfleuster ychwanegol i 150 o ddisgyblion i'w leoli ar safle Cosmeston i ateb y galw am addysg arbennig yn y dyfodol
Gwerth: £21.9 miliwn
Cynnydd: Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym 2023

Darpariaeth Gynradd Gorllewin y Fro

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas  

Disgrifiad:  Adeilad newydd ar yr un safle ar gyfer 126 o ddisgyblion ynghyd â meithrinfa

Gwerth: £7.1 miliwn

Cynnydd: Yn cael ei adeiladu

 

Sut mae pobl yn cymryd rhan yn y rhaglen?

  • Mae disgyblion, athrawon, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses ymgynghori ar ysgolion. Mae sesiynau galw heibio ar gael i ateb ymholiadau’r cyhoedd yn ystod cyfnodau ymgynghori ac mae gwybodaeth lawn ar gael ar-lein neu drwy gopi caled ar gais

  • Mae disgyblion, athrawon a llywodraethwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses gynllunio ac mae eu hanghenion, ynghyd ag anghenion dysgwyr y dyfodol, yn helpu i lunio dyluniad ysgolion

  • Mae ysgolion yn gallu cynnal gwersi diddorol a chyffrous ynghylch ymweliadau safle i helpu disgyblion i ddysgu am y broses adeiladu a deall manteision eu cyfleusterau newydd

  • Fel rhan o’r rhaglen i adnewyddu ac adeiladu ysgolion newydd, bydd y contractwyr adeiladu yn cydweithio â phrosiectau trydydd sector a sector cyhoeddus i ddarparu amrywiaeth o fuddion cymunedol

  • Ar ôl cwblhau adeiladau ysgol newydd, cynhelir arolygon defnyddwyr i weld pa mor dda y mae'r adeilad yn perfformio ar lefel ymarferol

 

Cwestiynau cyffredin

  • Ar ba ffactorau mae’r cynigion wedi’u seilio?

    Nod y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yw sicrhau bod safon amgylcheddau dysgu'n addas at y diben, bod digon o leoedd ar gael i’n dysgwyr wrth ystyried y datblygu a’r adfywio cyflym yn y Fro, a bod ein blaenoriaethau yn galluogi canlyniadau allweddol o fewn strategaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru a’n strategaethau lleol ein hunain.

     

    Mae’r prosiectau arfaethedig yn dangos ymagwedd y Cyngor at ddatblygu cynaliadwy ac yn cyfrannu at bum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n canolbwyntio ar wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae addysg yn chwarae rôl allweddol wrth gyfrannu at y gwelliannau hyn, ac mae amgylcheddau dysgu modern yn darparu conglfaen i gefnogi ein dysgwyr i gyflawni'r deilliannau gorau posibl.

     

    Mae ein gwaith o gynllunio Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn edrych ar angen hirdymor, gan ystyried materion fel galw yn y dyfodol sy'n seiliedig ar dwf yn yr ardal, a strategaeth iaith Gymraeg. Rydym yn defnyddio dull integredig a rhagweithiol o ddatblygu cynigion; er enghraifft er mwyn paratoi at Fand B, datblygwyd bwrdd cynghori gyda rhanddeiliaid allweddol, a dyfeisiwyd strategaeth ymgysylltu â’r gymuned gynhwysfawr er mwyn datblygu cynigion. Mae’r dull cydweithredol a chynhwysol hwn yn alinio’n dda â phum ffordd o weithio'r Ddeddf Llesiant.
  • Pam mae angen buddsoddiad ar rai ysgolion?

    Efallai y bydd angen mwy o fuddsoddiad ar rai ysgolion nag eraill. Mae pob ysgol sy'n perthyn i'r rhaglen seilwaith addysg ysgol fel arfer yn flaenoriaeth ar gyfer y naill neu'r llall o'r categorïau isod.

     

    Trawsnewid amgylcheddau dysgu a phrofiad dysgwyr

    Cefnogi pob dysgwr i fod yn ddinesydd iach, brwdfrydig, mentrus ac egwyddorol, sy’n barod i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd a gwaith, mewn safleoedd dysgu sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn rhydd rhag gwahaniaethu a bwlio.

     

    Gwella profiad a lles dysgwyr yn yr amgylchedd adeiledig, gan ategu’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

     

    Darparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf i wella amgylcheddau dysgu a dulliau addysgu ar gyfer myfyrwyr o bob oedran ac ar gyfer y gymuned ehangach.

     

    Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.

     

    Ateb y galw am leoedd mewn ysgolion

    Darparu seilwaith addysgol effeithlon ac effeithiol a fydd yn ateb y galw presennol am leoedd a'r galw i’r dyfodol.

     

    Cefnogi'n weithredol y gwaith o gyflawni Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod.

     

    Darparu'r nifer iawn o leoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

    Mynd i'r afael â materion digonolrwydd lle bo'n berthnasol.

     

    Gwella cyflwr ac addasrwydd yr ystad addysg

    Lleihau’r ôl-groniad o ran costau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a'r colegau a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen, gan ystyried yr ystad gyffredinol.

     

    Cael gwared ag adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori D o’r ystad.

     

    Lleihau nifer yr adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori C a gwella cyflwr adeiladau i gategori A neu B.

     

    Datblygu amgylcheddau dysgu cynaliadwy

    Gweithio tuag at garbon sero-net oes gyfan drwy'r rhaglenni a fandadwyd felly a'r targedau carbon corfforedig yn unol ag Ymrwymiadau Lleihau Carbon Llywodraeth Cymru.

    Darparu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy'n buddsoddi mewn bioamrywiaeth i wella'r ardaloedd o'u hamgylch a chefnogi teithio llesol.

     

    Cefnogi'r gymuned

    Ysgolion bro, defnyddio seilwaith ac adnoddau i’r eithaf i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gan gydweithio gydag athrawon, staff, cyrff llywodraethu, dysgwyr, teuluoedd a chymunedau.  Bydd hyn yn cynnwys sicrhau hyblygrwydd ein hasedau fel bod lle a chyfleusterau ar gael y tu allan i oriau ysgol ar gyfer sesiynau dysgu allgyrsiol, sesiynau dysgu i oedolion a sesiynau dysgu i’r gymuned.

     

    Sicrhau'r buddion cymunedol a’r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl drwy'r gadwyn gyflenwi.

     

    Rhoi mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu, gan alluogi aelodau o'r gymuned i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder.

     

    Cefnogi partneriaethau amlasiantaethol a chynnig dull integredig o gefnogi dysgwyr a'r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau.

  • A fydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu ffafrio o ran buddsoddi?

    Na fyddant. Mae ein Rhaglen yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Dyluniwyd ein rhaglen Band A a Band B i sicrhau y canolbwyntir ar bob ysgol sydd â blaenoriaethau gwahanol er mwyn cyflawni'r holl amcanion a restrir uchod. Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gysylltiedig â'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ond mae ysgolion cyfrwng Saesneg hefyd yn cael eu dewis i'w datblygu oherwydd ffactorau eraill.

     

    Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ymgynghori ar, llunio ac adolygu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i osod cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio a darparu addysg cyfrwng Cymraeg a'r iaith Gymraeg yn eu hardal. Nod CSGA’r Cyngor yw ehangu mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a chynyddu'r galw am addysg Gymraeg.

  • Sut byddai goblygiadau trafnidiaeth posibl yn cael eu hystyried fel rhan o'r cynigion? 

    Bydd gan ysgolion a ddatblygir amgylchedd sy'n adlewyrchu cenhadaeth genedlaethol a chwricwlwm sy'n datblygu. Bydd yr amgylcheddau dysgu modern yn integreiddio â nodau adrannau eraill Cyngor Bro Morgannwg a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran iechyd, cydraddoldeb, cymhwysedd digidol, ecosystemau gwydn, teithio llesol, a mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd uchel.

     

    Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r ysgol i ffurfio cynllun trafnidiaeth ysgol diwygiedig a bydd yn annog cynifer o ddisgyblion â phosibl i gerdded, beicio neu sgwtera i'r ysgol.  Bydd llwybrau yn ardal yr ysgol yn cael eu nodi o ran cerdded/beicio ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol a rhoddir blaenoriaeth uwch i lwybrau ysgol.
  • A fyddai’r gwaith o adeiladu neu adnewyddu’r ysgolion yn tarfu ar staff, disgyblion a thrigolion lleol?

    Mae gan y Cyngor hanes cryf o ran trosglwyddo staff a disgyblion yn llwyddiannus i safleoedd newydd.  Yn rhan o raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Bro Morgannwg, yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnal saith trosglwyddiad rhwng cyfleusterau addysgol gan gynnwys hen safleoedd a safleoedd newydd.

     

    Ar gyfer gwaith adeiladu ar safle presennol, caiff cynlluniau eu rhoi ar waith i gynorthwyo gyda dysgu yn ystod y rhaglen ddatblygu a chaiff dyddiadau a digwyddiadau penodol eu nodi’n rhan o’r rhaglen adeiladu i leihau’r effaith a’r tarfu ar ddisgyblion a staff, yn enwedig adeg arholiadau a digwyddiadau chwaraeon. Mae'r Cyngor hefyd yn rhoi gwybod i drigolion lleol am ddyddiadau allweddol o ran cynnydd y gwaith adeiladu. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, rydym yn annog y gymuned leol i fynychu'r sesiynau ymgysylltu a gynhelir gennym i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion lleol.

 

 

Prosiectau wedi’u cwblhau

  • Darpariaeth Gynradd y Bont-faen (cam i) 2023
  • Disgrifiad: Cynyddu'r ddarpariaeth gynradd yn y Bont-faen ar safle presennol yr ysgol gyfun
  • Gwerth: £7.3 miliwn
  • Cynnydd: Cwblhawyd Mehefin 2023
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol Derw Newydd, a elwir yn ffurfiol yn 'Ganolfan Dysgu a Lles' 2023

  • Disgrifiad: Ysgol a darpariaeth newydd yn y Barri ar gyfer blynyddoedd 6-11

  • Gwerth: £8.1 miliwn

  • Cynnydd: Cwblhawyd Gorffennaf 2023
  • Ysgol St Baruc, 2023

  • Adeilad newydd ar safle newydd

  • Ysgol Gynradd Gymraeg

  • Capasiti = 420 o ddisgyblion a meithrinfa

  • Ysgol Uwchradd Pencoedtre, 2023

     

  • Adeilad newydd ar y safle presennol

  • Ysgol Uwchradd Cyfrwng Saesneg

  • Capasiti = 1250 o ddisgyblion

  • Cylch Meithrin Llanilltud Fawr, 2022

  • 30 disgybl y Cylch Meithrin ar safle presennol Ysgol Dewi Sant

  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, 2022

  • Adeilad newydd ar y safle presennol

  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Cyfrwng Saesneg

  • Capasiti = 210 o ddisgyblion a meithrinfa

  • Ysgol Gynradd Trwyn y De, 2022

  • Adeilad newydd ar safle newydd

     

  • Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg

  •  

    Capasiti = 210 o ddisgyblion a meithrinfa

  • Ysgol Uwchradd Whitmore, 2022

  • Adeilad newydd ar y safle presennol

     

  • Ysgol Uwchradd Cyfrwng Saesneg

     

  • Capasiti = 1100 o ddisgyblion

  • Ysgol Bro Morgannwg, 2021

  • Gwaith adnewyddu ac ymestyn ar y safle presennol

     

  • Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg

  • Capasiti = 1660 o ddisgyblion

  • Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr, 2017

  • Ysgol Gwaun y Nant ac Ysgol Gynradd Oak Field, 2015 

  • Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015 

  • Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg (Ysgol Gymraeg Nant Talwg gynt), 2014 

  • Cymuned Ddysgu Penarth, 2014 

  • Ysgol Gyfun y Bont-faen, 2010 

 

Strategaeth Buddsoddi Dysgu a Sgiliau

Mae dogfen y Strategaeth Dysgu a Buddsoddi yn cydgrynhoi'r ystyriaethau deddfwriaethol a pholisi perthnasol ar lefel genedlaethol a lleol sy'n llywio sut mae'r adran yn gwneud penderfyniadau buddsoddi. Mae’r Strategaeth wedi’i chanoli ar bedwar Amcan Corfforaethol y Cyngor:

 

  • Gweithio gyda'n cymunedau ac ar eu rhan

  • Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy

  • Cefnogi pobl gartref ac yn eu cymuned

  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd

  • List Item 4

 

Mae’r Strategaeth yn nodi cyfres o gamau blaenoriaeth o fewn pob Amcan Corfforaethol i sicrhau bod buddsoddiadau addysg yn cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor. Gellir gweld y camau hyn yn y Strategaeth Buddsoddi Dysgu a Sgiliau Adran 3.1.

 

Yn ogystal, mae'r Strategaeth yn nodi'r ystyriaethau allweddol sy'n llywio penderfyniadau buddsoddi. Crynhoir y rhain yn dri phrif faes, sef:

  • Trefniadaeth ysgolion a'r galw am leoedd ysgol

  • Cyflwr, addasrwydd a digonolrwydd adeiladau ysgol 

  • Mynd i'r afael â datgarboneiddio asedau ysgolion a gwella gwerth ecolegol

  • List Item 3

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ystyriaethau allweddol yn y ddogfen strategaeth Buddsoddi Dysgu a Sgiliau.

 

Mae'r Strategaeth yn nodi'r gwahanol ffynonellau cyllid sydd ar gael i'r Cyngor i ddarparu cyfleoedd buddsoddi. Y prif ffynonellau cyllid cyfalaf yw:

  • Derbyniadau cyfalaf

  • Cronfeydd wrth gefn

  • Benthyg

  • Ymrwymiadau Ariannol Adran 106

  • List Item 4

 

Dylai pob cyfle buddsoddi geisio lleihau'r angen am fenthyca. Gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael y tu allan i'r Cyngor megis cyllid grant Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, dylid adolygu tir ac eiddo nad oes eu hangen yn yr ystâd addysg a'u gwerthu lle bo'n briodol i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau yn y rhaglen Buddsoddi Dysgu a Sgiliau.

 

Mae gan gyllid Llywodraeth Cymru ofynion cysylltiedig sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau addysg. Mae hyn yn cynnwys caffael, buddion cymunedol, datgarboneiddio a gofynion ecolegol. Mae grantiau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Grant Cynnal Refeniw

  • Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

  • Grant Addysg Cyfrwng Cymraeg

  • Grant ADY (2022/23 yw blwyddyn gyntaf cyllid grant ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y cyllid hwn yn parhau)

  • Grant Ysgolion Cymunedol (2022/23 yw blwyddyn gyntaf cyllid grant ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y cyllid hwn yn parhau.)

  • List Item 5

 

Mae maint y buddsoddiadau addysg yn gyfle i gyflawni amcanion lluosog y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae'r ddogfen Strategaeth yn nodi sut y cyflawnir hyn a'r ystyriaethau perthnasol y mae'n rhaid iddynt lywio penderfyniadau buddsoddi.

 


Sust Learning logo_colour

wgovlogo