Cost of Living Support Icon

Camddefnyddio Sylweddau

Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau'r Fro (TACF) yn rhan o'r gwasanaeth 'Newlands' sydd wedi'i leoli yn nhref y Barri. 

 

Mae 'Newlands' yn wasanaeth sy’n cynnwys staff o’r GIG a’r Awdurdod Lleol (TACF) sy'n cefnogi pobl (dros 18 oed) sydd ag anawsterau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau o bob rhan o Fro Morgannwg.

 

Mae staff yr Awdurdod Lleol yn cynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau, Swyddog Gofal Cymdeithasol a gweithiwr cymorth. Rydym yn wasanaeth sy’n gweithredu o’r swyddfa, ac yn cynnig allgymorth.

 

Gan weithio yn unol â 'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014' nod y gwasanaeth hwn yw hybu annibyniaeth a lles drwy wybodaeth, cyngor a chymorth tra'n gweithio i gryfderau a galluoedd unigryw pobl eu hunain.

 

Nid yw TACF yn wasanaeth ymatal ond bydd yn gweithio gyda phobl i sefydlu cynlluniau i gyflawni eu canlyniadau a'u hamgylchiadau personol eu hunain.

 

Dyma enghreifftiau o gymorth; gwaith lleihau niwed un i un, mynediad at wasanaethau gofal cartref arbenigol, asesiad ar gyfer triniaeth adsefydlu preswyl, mynediad at weithiwr cymorth arbenigol.

Gall unigolion, teuluoedd a chyfeillion, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill wneud atgyfeiriadau drwy gysylltu â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (GCACaF)

 

GCACaF (Bro Morgannwg)

2-10 Heol Holton,
Y Barri,
Bro Morgannwg,
CF63 4HD

   

Dewis Cymru Logo WelshDewis Cymru

Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth eraill i bobl sy'n cael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru