Cost of Living Support Icon

Gweithio Gyda'n Gilydd i Wella Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (SSIA)

 

Menter mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei chynnal ar y cyd.  Mae SSIA yn cydweithio â chynghorau ac asiantaethau ledled Cymru i wella deilliannau ac effeithlonrwydd yn yr amryw wasanaethau ar gyfer gofal cymdeithasol, gan sbarduno newidiadau ysgubol yn y modd mae gwasanaethau'n cael eu trefnu a'u cynnig.

 

Rydyn ni'n cynnal rhaglenni ar y cyd ag amryw gyrff perthnasol ar hyn o bryd i bennu ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau i bobl hŷn, helpu asiantaethau i gydweithio'n effeithiol a llunio rhaglen ddatblygu arloesol i reolwyr canolradd. Ar ein gwefan ni – www.ssiacymru.org.uk/ (Saesneg yn unig) – mae rhagor am ein ffrydiau gwaith uchelgeisiol megis:

  • Dangos gwelliannau trwy ailalluogi
  • Fframwaith Adroddiadau Blynyddol y Cynghorau
  • Rhaglen Genedlaethol Datblygu Rheolwyr Timau Gwaith Cymdeithasol
  • Arwain yn strategol er mwyn cydweithio
  • Gwella trefn asesu a rheoli gofal gwasanaethau i oedolion
  • Diogelu – Gwasanaethau i blant ac oedolion
  • Rhaglen waith newydd, 'Gwasanaethau mwy effeithlon i bobl hŷn Cymru'

Cysylltu

Ffôn: 029 2046 8685