Cost of Living Support Icon

Gwarchod Oedolion sy'n Agored i Niwed

Mae gennym gyfrifoldeb i warchod pobl sy’n agored i niwed ni waeth beth fo’u hanghenion neu’u sefyllfa. Mae oedolyn sy’n agored i niwed yn berson sy’n 18 neu’n hŷn y mae angen gofal cymunedol arno.

 

Gallai hyn fod o ganlyniad i unrhyw o’r rhesymau canlynol Anabledd, oedran neu salwch, Methu â gofalu amdano ei hun, Methu ag amddiffyn ei hun rhag niwed, camdriniaeth neu gamddefnydd.


Rhywun y dylai person allu ymddiried ynddo, fel perthynas neu ofalwr, sy’n cam-drin fel arfer, a gall y cam-drin amrywio:

  • Corfforol – fel slapio neu daro
  • Seicolegol – fel codi ofn, atal ymwelwyr, bygwth neu anwybyddu’n fwriadol.
  • Ariannol – fel dwyn arian rhywun neu'i wario ar y pethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i newid ei ewyllys neu wario ei arian yn groes i’w ddymuniadau.
  • Rhywiol – fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol digroeso neu gyffwrdd â rhywun mewn modd amhriodol.
  • Esgeulustod – fel methu â gofalu am rywun yn iawn, methu â rhoi digon o fwyd iddo neu’i roi mewn perygl.

  

 Hyfforddiant ar gyfer Amddiffyn Oedolion

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig hyfforddiant arbenigol mewn Amddiffyn Oedolion i bob aelod o staff, yn enwedig y rhai sy’n dod i gysylltiad ag oedolion sy’n agored i niwed fel rhan o’u swydd a phobl sy’n gofalu amdanyn nhw.

 

Hyfforddiant gofal oedolion

 Cam-drin domestig

Bydd 1 o bob 4 menyw yng Nghymru a Lloegr yn dioddef cam-drin domestig yn eu bywydau. Gall cam-drin domestig ddigwydd ni waeth beth fo rhywedd, rhywioldeb, dosbarth, oedran, hil, crefydd neu ffordd o fyw.

 

Cam-drin domestig

Human Trafficking

Human trafficking is a serious crime. A person is trafficked if they are brought to (or moved around) a country by others who threaten, frighten, hurt and force them to do work or other things they don’t want to do.

 

Masnachu pobl

 

Referrals

Referrals (AS1) concerning allegations of abuse or neglect of vulnerable adults can be made via Contact OneVale. 

 

 

Civic Offices

Holton Road

Barry

Vale of Glamorgan

CF63 8YR

 

 

Adrodd Amheuaeth o Gam-drin Oedolyn

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun mewn perygl ar hyn o bryd, mae angen i chi ymateb yn syth - ffoniwch 999 a dweud wrth dderbynnydd yr alwad yr hyn sy’n digwydd.


Os ydych chi’n dioddef o gam-drin neu yr ydych yn credu bod rhywun arall yn dioddef, mae rhaid i chi roi gwybod i rywun. Os nad ydych yn gyfforddus wrth siarad â gwasanaethau cymdeithasol, dywedwch wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddo a gofynnwch iddynt drosglwyddo’r wybodaeth. Gallech siarad â ffrind neu berthynas, meddyg neu nyrs, neu unrhyw un arall sydd mewn awdurdod.  


Os ydych yn dioddef o gam-drin neu os ydych yn meddwl bod rhywun arall yn dioddef, ffoniwch y Tîm Diogelu Oedolion ar 01446 700111

 

 

Os ydych angen ffonio tu allan i'r oriau swyddfa, cysylltwch â'r swyddog dyletswydd mewn argyfwng:

  • 029 90 788570

 

Dewis Cymru Logo Welsh

 

Fforwm amddiffyn oedolion

Aelodau’r fforwm yw’r cynghorau sir, yr heddlu, grwpiau iechyd, y sector wirfoddol ac annibynnol, ac aelodau’r cyhoedd.

 

Rydym yn cydweithio i weithredu yn erbyn camdriniaeth ac esgeulustod ac i hyrwyddo hawliau. Mae yna lawer o wahanol fathau o gamdriniaeth, yn eu plith:

 

  • corfforol
  • seicolegol neu emosiynol
  • rhyw
  • ariannol
  • gofal amhriodol
  • esgeulustra, neu fethu â gweithredu.

Cyfrifoldeb pawb yw amddiffyn a diogelu oedolion dan fygythiad. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, dylech weithredu ar unwaith. Os ydych yn credu bod trosedd wedi digwydd, dylech ffonio’r heddlu ar unwaith.