Cost of Living Support Icon

Pryderon am Gyflwr Plentyn

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i ymchwilio i bryderon am blentyn sy’n byw yn yr ardal neu sydd yno dros dro.

 

Er mwyn diogelu plant yn effeithiol, rydym yn cydweithio’n agos gyda llawer o bobl. Mae Bro Morgannwg wedi ymrwymo i weledigaeth Diogelu plant - gweithio gyda’n gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 a Canllawiau amddiffyn plant Cymru gyfan 2008.

 

Mae yna groeso i unrhyw un gysylltu gyda ni os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am blant, yn berthnasau, aelodau’r cyhoedd neu weithwyr yn y maes.

 

Mae achosion o gam-drin bwriadol yn brin iawn.  Yn y mwyafrif o achosion, mae cosbi neu gymryd y plentyn oddi wrth y teulu yn gam gwag; yn hytrach, mae angen cynnig cymorth.  Mae’r gwasanaeth wedi ei anelu at blant a theuluoedd, gan ganolbwyntio ar:

  • sicrhau bod pethau’n cael eu datrys er lles plant
  • gwrando ar blant
  • gweithio gyda theuluoedd
  • rhannu gwybodaeth gyda theuluoedd
  • cynnig cymorth a chyngor i deuluoedd
  • bod yn ymwybodol o bynciau’n berthnasol i dras, hil a diwylliant
  • parchu hawliau dynol pob unigolyn.

Gellir gwneud atgyfeiriadau trwy:

Cysylltu yn ystod oriau gwaith arferol

Tel: 01446 725202

Fax: 01446 725205

Oriau gwaith: 8.30am - 5.00pm, dydd Llun i ddydd Iau / 8.30am - 4.30pm, dydd Gwener.

 

Cysylltu y tu allan i oriau gwaith arferol

Dyma sut i gysylltu gyda’r nos, dros y penwythnos neu ar wyliau cyhoeddus.

Ffoniwch 029 2078 8570 neu ffoniwch yr heddlu ar 029 2022 2111 a gofyn am eich gorsaf leol.

 

Os yw ymddygiad unrhyw oedolyn, gan gynnwys y rheiny sy’n gofalu am blant, yn achosi pryder i chi: 

  • Peidiwch ag anwybyddu eich pryderon 
  • Peidiwch â mynd at y person y mae gennych bryderon amdano 
  • Os ydych yn rhywun sy’n gweithio â phlant, trafodwch eich pryderon â’ch rheolwr.  Os ydych yn teimlo bod hyn yn amhriodol neu os nad ydych yn fodlon â’r ymateb, cysylltwch â’r Tim Derbyn yn ystod oriau swyddfa ar 01446 725202, y Prif Swyddog, Amddiffyn a Pholisi ar 01446 704862, y Tîm Dyletswydd Brys y tu allan i oriau swyddfa ar 029 20 788570