Cost of Living Support Icon

Adolygiadau Achosion Difrifol

Mae Byrddau Diogelu Plant Rhanbarthol yn gorfod cynnal Arolwg Achos Difrifol os maen nhw’n gwybod am, neu yn amau, achos o gamdriniaeth neu o esgeulustod

Yn ogystal, dylai’r Bwrdd gynnal Arolwg Achos Difrifol os mae plentyn wedi lladd ei hun, neu mae plentyn wedi cael ei ladd gan riant sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol.

Gwaith Arolwg Achos Difrifol yw penderfynu beth sydd angen ei wneud i rwystro achos tebyg arall.

 

Nid yw’r Arolwg Achos Difrifol yn ymgais i ddarganfod achos marwolaeth y plentyn; dyna waith y crwner.  Nid yw’r Arolwg Achos Difrifol yn ymgais i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol am farwolaeth y plentyn; dyna waith yr heddlu a’r llysoedd. Mae cynrychiolwyr cyrff perthnasol yn cyfrannu at yr Arolwg.  Mae’r adroddiad yn cael ei ysgrifennu gan arbenigwr annibynnol, sydd hefyd yn cynnig awgrymiadau.  Wedi ystyried yr adroddiad a’r argymhellion, cyfrifoldeb y Bwrdd yw datblygu Cynllun Gweithredol.

 

Un o gyfrifoldebau’r Bwrdd yw sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod cymaint â phosib am achosion.  Mae’r arbenigwr annibynnol sy’n paratoi’r adroddiad manwl hefyd yn ysgrifennu crynodeb, sydd ddim yn cynnwys unrhyw fanylion am unigolion.