Cost of Living Support Icon

Dewis Gofal Plant

Gwybodaeth ar ofal plant ym Mro Morgannwg gan gynnwys y mathau o ofal plant a help ariannol gyda chostau gofal plant

 

Chwilio am ofal plant?

FIS logo

Chwiliwch am ofal plant, gweithgareddau i blant a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn y Fro gan ddefnyddio’r wefan Gwybodaeth Gofal Plant genedlaethol newydd.              

Cliciwch yma i chwilio a hidlo yn ôl eich anghenion 

 

Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol am eich anghenion gofal plant drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein. Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw’n unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg.

 

Ffurflen Ymholiadau Ar-lein                                                                                       

    

Dewis Gofal Plant

Mae Cwlwm wedi llunio llyfryn defnyddiol yn esbonio'r mathau o ofal plant, help ariannol a llawer mwy:

 

 

 

Help Ariannol gyda Chostau Gofal Plant 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Mot-168892283

 

  • Y Cynllun Gofal Plant Di-dreth

    Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) am bob un o’ch plant i helpu â chostau gofal plant.  Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn).

     

    Os cewch Ofal Plant Di-dreth, byddwch yn sefydlu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 a dalwch i mewn i'r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn talu £2 i'w ddefnyddio i dalu eich darparwr. Gallwch gael Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â 30 awr o ofal plant am ddim os ydych yn gymwys i gael y ddau.

     

    Fel arfer gallwch gael Gofal Plant Di-dreth os ydych chi (a'ch partner, os oes gennych un) mewn gwaith, ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol, ar absenoldeb rhiant, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu a rennir. Os ydych ar absenoldeb mabwysiadu, ni allwch wneud cais am y plentyn rydych ar wyliau amdano oni bai eich bod yn mynd yn ôl i'r gwaith o fewn 31 diwrnod i'r dyddiad y gwnaethoch gais am y tro cyntaf.

       

     

  • Cynnig Gofal Plant Cymru

    Cynigir hyd at 30 awr o addysg a gofal plant ar y cyd i rieni cymwys i blant rhwng 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

     

    Bydd y 30 awr yn cynnwys cyfuniad o'r Feithrinfa Cyfnod Sylfaen presennol (12.5 awr) ar agor i bob plentyn 3 a 4 oed a'r gofal plant ychwanegol a gyllidir (17.5 awr) i deuluoedd cymwys.  Yn ystod y gwyliau ysgol bydd ond yn cynnwys 30 awr o ofal plant a ariennir, am hyd at 3 wythnos y tymor (9 wythnos ar gyfer y flwyddyn).

      

    I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalen we Cynnig Gofal Plant:

     

     

  • Credydau Treth Gwaith 

    Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i gynllunio i ychwanegu at eich enillion os ydych yn gweithio ac ar incwm isel. Os ydych yn gweithio nifer penodol o oriau efallai y byddwch yn gallu hawlio swm ychwanegol i helpu i dalu costau gofal plant cymeradwy, cyfeirir at hyn fel 'elfen gofal plant' credydau treth gwaith.

     

    Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Credyd Treth Gwaith i'r rhan fwyaf o bobl. Allwch chi ddim gwneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith onid ydych chi’n cael y premiwm anabledd difrifol, neu â hawl iddo, wedi ei gael neu wedi cael y premiwm anabledd difrifol yn ystod y mis diwethaf, ac rydych yn dal i fod yn gymwys ar ei gyfer. Os na allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol (neu Gredyd Pensiwn os ydych chi a'ch partner o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd).

     

  • Cyfrifiannell Gwell Allan

    Defnyddiwch Gyfrifiannell Gwell Allan y Llywodraeth i ddysgu faint y gallech chi ei gael tuag at ofal plant cofrestredig neu gymeradwy. 

  • Cynllun Lleoedd â Chymorth 

     Mae cyllid ar gael i gefnogi plant cyn oed ysgol ag anabledd / angen dysgu ychwanegol neu sydd angen cymdeithasu: a phlant 4-11 oed ag anabledd a/neu angen dysgu ychwanegol, y mae eu rhieni / gofalwyr ar incwm isel (incwm y cartref o lai na £25,000) neu sydd angen cymdeithasu. 

    Mae’r cyllid ar gyfer cefnogi’r plentyn mewn lle gofal plant i blant rhwng 18 mis a 4 oed mewn lleoliad gofal plant cofrestredig (ag Arolygiaeth Gofal Cymru) ar gyfer gofal cyn-ysgol sesiynol neu 4-11 oed ar gyfer darpariaeth y tu allan i’r ysgol.

     

    Mae cyllid wedi’i gyfyngu i 12 wythnos fesul plentyn. 

     

  • Cyllid Myfyrwyr Cymru - Grant Gofal Plant

    Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech gael help ychwanegol tuag at gost gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.

    Mae’r Grant Gofal Plant (GGP) yn helpu â chostau gofal plant os oes gennych blant dibynnol dan 15 oed (neu dan 17 oed os oes ganddynt anghenion addysgol arbennig) mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. 

     

     

  • Cymorth Dysgwyr Disgresiynol

    Os ydych yn 19 oed neu'n hŷn, ar gwrs addysg bellach ac yn wynebu caledi ariannol, gallech gael Cymorth i Ddysgwyr. Rydych yn  gwneud cais i'ch darparwr dysgu (er enghraifft eich coleg) ar gyfer Cymorth i Ddysgwyr, mae faint a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

     

    Gall yr arian helpu i dalu am bethau fel llety a theithio, deunyddiau cwrs ac offer a gofal plant; rhaid eich bod yn 20 oed neu'n hŷn i gael help gyda chostau gofal plant.

     

     

  • Credydd Cynhwysol

    Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i'ch helpu gyda'ch costau byw.  Efallai y byddwch chi'n gallu ei gael os ydych chi ar incwm isel neu’n ddi-waith.

     

    Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol; cyfeirir at hyn fel 'elfen gofal plant' Credyd Cynhwysol, er mwyn bod yn gymwys fel arfer bydd angen i chi (a'ch partner os ydych yn byw gyda nhw) naill ai fod yn gweithio - does dim ots faint o oriau rydych chi na'ch partner yn gweithio neu os oes gennych gynnig swydd.

     

     

  • Credyd Treth Plant

    Mae Credyd Treth Plant yn fudd-dal sy'n helpu gyda chostau magu plentyn os ydych ar incwm isel, ond mae Credyd Cynhwysol i'r rhan fwyaf o bobl wedi disodli Credyd Treth Plant.

     

    Allwch chi ddim gwneud cais newydd am Gredyd Treth Plant onid ydych chi’n cael y premiwm anabledd difrifol, neu â hawl iddo, wedi ei gael neu wedi cael y premiwm anabledd difrifol yn ystod y mis diwethaf, ac rydych yn dal i fod yn gymwys ar ei gyfer. Os yw eich plentyn yn 16 oed, gallwch hawlio hyd at 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed. Os yw mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy, gallwch hawlio tan ei ben-blwydd yn 20 oed. Os na allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Plant, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol (neu Gredyd Pensiwn os ydych chi a'ch partner o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd).

     

    Mae'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych ac a ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Treth Plant neu eisoes yn hawlio Credyd Treth Plant. Ni fydd Credyd Treth Plant yn effeithio ar eich Budd-dal Plant a ni allwch hawlio Credyd Treth Plant ond am blant rydych chi'n gyfrifol amdanynt.

     

     

  • Budd-dal Plant

    Rydych yn cael Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd o dan 16 oed neu o dan 20 oed (os yw'n aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy). Dim ond un person all gael Budd-dal Plant i blentyn. Mae'n cael ei dalu bob 4 wythnos ac nid oes terfyn ar faint o blant y gallwch hawlio amdanynt.

     

     

    Drwy hawlio Budd-dal Plant gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol sy'n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd eich plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fydd yn 16 oed. Os byddwch yn dewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant, dylech ddal i lenwi ac anfon y ffurflen hawlio.

     

    Os ydych chi neu'ch partner yn ennill dros £50,000 efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o'ch Budddal Plant mewn treth os yw eich incwm unigol (neu incwm eich partner) dros £50,000. 

     

    Gallwch wneud cais i gael Budd-dal Plant cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru genedigaeth eich plentyn, neu pan fydd wedi dod i fyw gyda chi. 

     

     

  • Cychwyn Iach

     O dan raglen Cychwyn Iach, bydd rhieni’n cael talebau am ddim bob wythnos i’w defnyddio i gael llaeth, ffrwythau a llysiau plaen ffres ac wedi’u rhewi, a llaeth fformiwla ar gyfer babanod. Gallant gael fitaminau am ddim hefyd. Mae menywod sy’n feichiog neu deuluoedd sydd â phlentyn o dan bedair oed ac sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol yn gymwys i gael cymorth o dan y rhaglen Cychwyn Iach. Mae pob menyw sy’n feichiog ac sydd o dan 18 oed yn gymwys – p’un a ydynt yn derbyn budd-daliadau ai peidio.

      

     

  • Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn 

    Gall menywod gael un taliad o £500 i helpu tuag at gostau cael plant. Fel arfer, byddwch yn gymwys i gael grant os bydd y ddau bwynt isod yn berthnasol i chi:

     

    • rydych chi’n disgwyl eich plentyn cyntaf neu rydych chi’n disgwyl mwy nag un plentyn (gefeilliaid er enghraifft) ac mae gennych blant yn barod
    • rydych chi neu eich partner yn derbyn rhai budd-daliadau penodol

     

    Rhaid hawlio’r grant o fewn 11 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y baban neu o fewn 3 mis ar ôl ei eni.

     

 

 

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

bigstock-Stickman-Illustration-of-Schoo-102380036

Rhaid i ddarpariaeth gofal plant sy’n cynnig gofal plant i blant dan 12 oed, am fwy na 2 awr y dydd y tu allan i gartref y plentyn, am dâl, fod yn gofrestredig ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

Mae AGC yn cofrestru, arolygu ac yn cymryd camau i wella safon a diogelwch gwasanaethau ar gyfer lles pobl yng Nghymru.

 

Mae’n rhaid i leoliadau gofal plant cofrestredig gyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoledig i blant hyd at 12 oed:

 

 

Nid oes angen i nanis ac au pairs fod wedi'u cofrestru ag AGC.  Fodd bynnag, gallant ddod yn ddarparwyr Gofal Plant Cartref Cymeradwy trwy AGC.

  

 

Manylion Cyswllt

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro (GGiD)

Swyddfa’r Dociau

Heol yr Isffordd

Y Barri

Bro Morgannwg

CF63 4RT