Cost of Living Support Icon

Rhieni Newydd / sy’n Disgwyl

Gwybodaeth a chanllawiau i rieni newydd ac sy’n disgwyl ledled Bro Morgannwg

 

Parenting.Give it Time.

Magu Plant. Rhowch amser iddo

Mae’r wefan hon wedi’i datblygu gan Lywodraeth Cymru gyda help ystod o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae pob plentyn a phob rhiant yn unigryw.  Mae Magu Plant.Rhowch amser iddo. yn rhoi syniadau i rieni er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ynghylch beth all weithio i’w plentyn a’u teulu. Ei nod yw helpu rhieni i adeiladu perthynas gadarnhaol, iach gyda’u plant.

 

Mae plant rhwng genedigaeth a phump oed yn tyfu ac yn newid yn gyflym iawn. Gall deall mwy am ddatblygiad eich plentyn eich helpu i ddeall eich plentyn a’u hymddygiad yn well.   

Magu Plant. Rhowch amser iddo

 

Llwybr Gwybodaeth y Blynyddoedd Cynnar

bigstock-Illustration-of-a-Family-Welco-78397253

Cofrestru genedigaeth plentyn

Mae’n rhaid cofrestru'r holl enedigaethau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o fewn 42 diwrnod wedi geni plentyn.

 

Dylech wneud hyn yn y swyddfa gofrestru leol ar gyfer yr ardal lle cafodd y babi ei eni neu yn yr ysbyty cyn i’r fam adael. Bydd yr ysbyty yn dweud wrthych os gallwch gofrestru'r enedigaeth yno.

 

Os nad oes modd i chi gofrestru’r enedigaeth yn ardal geni’r plentyn, gallwch fynd i swyddfa gofrestru arall ac fe wnawn nhw anfon eich manylion i’r swyddfa gywir.

Cofrestru genedigaeth

 

Vaccinations

Brechiadau

Fel rhiant, efallai nad ydych eisiau gweld eich babi neu eich plentyn yn cael pigiad. Fodd bynnag, mae brechiad yn gam pwysig o ran amddiffyn eich plentyn yn erbyn ystod o afiechydon difrifol ac angheuol o bosibl. 

 

Mae brechiadau yn gyflym, diogel a hynod effeithiol. Ar ôl i’ch plentyn gael ei frechu yn erbyn afiechyd, gall ei gorff ei ymladd yn fwy effeithiol. Os nad yw plentyn yn cael ei frechu, bydd ganddo risg uwch o ddal y salwch.

 

Mae imiwneiddio yn achub bywydau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 3 miliwn o fywydau yn cael eu hachub bob blwyddyn bedwar ban byd trwy imiwneiddio.   

 

Mae’n bwysig bod pob plentyn a babi yn cael ei imiwneiddio'n llawn i amddiffyn rhag afiechydon difrifol o bosibl.

 

Bydd eich babi yn cael nifer o frechiadau. Bydd eich meddygfa neu glinig yn anfon apwyntiad atoch i chi ddod â’ch babi am ei frechiad. Mae’r mwyafrif o feddygfeydd a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau babi neu imiwneiddio arbennig. Os na allwch ddod i’r clinig, cysylltwch â’ch meddygfa i wneud apwyntiad. Mae’r holl frechiadau i blant am ddim.

 

Mae gan Galw Iechyd Cymru restr wirio o’r brechiadau a gynigir i bawb yn y DU am ddim ar y GIG, a’r oedrannau y dylid eu rhoi yn ddelfrydol. 

alw Iechyd Cymru

Talk with me

Helpu plant gyda dysgu i siarad 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio eu tudalen ymgyrch 'Siarad â Fi'. 

 

Mae'r dudalen yn cynnwys adrannau i rieni ac ymarferwyr, gyda gwybodaeth ac adnoddau i helpu plant gyda dysgu i siarad gan gynnwys ymgyrch 'Look, say, sing, play' yr NSPCC a 'Tiny happy people' y BBC.

 

Llywodraeth Cymru - 'Siarad â Fi' 

 

Behaviours 2

Rhagor o gymorth; Cymorth magu plant ac iechyd / lles yn eich teulu 

I gael rhagor o wybodaeth am y testunau hyn, ewch i’n gwefannau pwrpasol:

 

Gwefannau iechyd a lles

 

 

 Cymorth Ariannol i Deuluoedd Newydd

  

Crynodeb o’r cymorth ariannol sydd ar gael

 

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r cymorth ariannol y gallai fod gan rieni a gofalwyr hawl iddo.

 

  • Cyfrifo Costau Cael Babi

     Mae’r Gwasanaeth Cyngor Arian wedi datblygu Cyfrifiannell Costau Babi i chi gael syniad o gostau’r hanfodion. Mae’r ymchwil yn dangos y gallai babi gostio cymaint â £7,200 neu cyn lleied â £1,600 yn eu blwyddyn gyntaf, heb gynnwys gofal plant:

     

     

     

    Cyngor Arian - Cyfrifiannell Costau Babi

     

    Mae’r Gwasanaeth Cyngor Arian hefyd wedi cynhyrchu Llinell Amser Arian Babi, sy’n rhestru’r holl ddyddiadau’n gysylltiedig ag arian yn ymwneud â’ch beichiogrwydd a’ch babi newydd. Mae’n cynnwys popeth o drefnu eich cyfnod mamolaeth i fynd i siopa ar gyfer pethau babi a hawlio Budd-dal Plentyn:  

     

    Cyngor Arian - Llinell Amser Arian Babi

  • Gwyliau a Thâl Mamolaeth  

    I’ch cefnogi i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith tra’n cael babi, mae gennych hawl i gyfnod a thâl mamolaeth. Mae’r Tâl Mamolaeth Statudol yn rhoi hawl i chi gael 52 wythnos i ffwrdd o’r gwaith, ond byddwch ond yn cael tâl mamolaeth am 39 ohonynt os ydych yn gymwys.  

     

    Rydych chi’n cael: 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog (cyn treth) am y 6 wythnos gyntaf a £151.20 neu 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy'n is) am y 33 wythnos nesaf. Telir TMS yn yr un modd â'ch cyflogau (er enghraifft yn fisol neu'n wythnosol). Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

     

    Yr adeg gynharaf y gallwch gymryd gwyliau mamolaeth yw 11 wythnos cyn dyddiad geni’ch babi. Os caiff eich babi ei eni’n gynnar, bydd eich gwyliau’n dechrau’r diwrnod ar ôl yr enedigaeth. 

     

    Nid oes rhaid i chi gymryd y 52 wythnos yr ydych yn gymwys iddo, ond rhaid i chi gymryd o leiaf pythefnos i ffwrdd o’r gwaith yn dilyn genedigaeth eich babi. 

     

    Gwyliau â Thâl i Rieni - GOV.UK

    GCyngor Arian - Absenoldeb Mamolaeth a Thâl

  • Lwfans Mamolaeth 

     Os na allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol, gallech fod yn gymwys i fudd-dal arall o’r enw Lwfans Mamolaeth. 

     

    Mae Lwfans Mamolaeth yn fudd-dal a delir gan y llywodraeth i ferched beichiog nad ydynt yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol. 

     

    I weld a ydych yn gymwys am Lwfans Mamolaeth, defnyddiwch gyfrifiannell GOV.UK: 

     

    Gwyliau â Thâl i Rieni - GOV.UK

    Lwfans Mamolaeth - Gwasanaeth Cyngor Arian

      

     

  • Gwyliau a Thâl Tadolaeth 

     Pan fydd eich partner yn rhoi genedigaeth neu pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn neu’n cael babi drwy fam benthyg, efallai y byddwch yn gymwys i wyliau tadolaeth a thâl tadolaeth er mwyn i chi allu helpu i ofalu am eich babi newydd. 

     

    Os ydych yn gyflogai, rydych yn gymwys i wythnos neu bythefnos o wyliau tadolaeth â thâl. 

     

    Cyfradd wythnosol statudol Tâl Tadolaeth yw £151.20, neu 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy'n is). Telir unrhyw arian a gewch yn yr un modd â'ch cyflogau, er enghraifft yn fisol neu'n wythnosol. Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.
    Fel arfer, telir yr arian tra byddwch ar wyliau.

     

    Rhaid i'ch cyflogwr gadarnhau'r dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer eich Tâl Tadolaeth pan fyddwch yn ei hawlio. I newid y dyddiad dechrau mae'n rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd i'ch cyflogwr. Gallech gael mwy o dâl os oes gan eich cyflogwr gynllun tadolaeth cwmni; ni allant gynnig llai na'r symiau statudol i chi.

     

    Gwyliau a Thâl Tadolaeth - GOV.UK 

    Gwyliau â Thâl i Rieni - GOV.UK  

  • Gwyliau a Thâl Mabwysiadu 

    Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd i fabwysiadu plentyn neu’n cael plentyn trwy drefniant benthyg croth efallai y byddwch yn gymwys i Wyliau Mabwysiadu Statudol a/neu Dâl Mabwysiadu Statudol.

     

    Mae rheolau o ran pryd a sut i hawlio eich absenoldeb â thâl ac os ydych am newid eich dyddiadau. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Rhianta ar y Cyd.

     

    Tâl a Gwyliau Mabwysiadu - GOV.UK 

    Gwyliau â Thâl i Rieni - GOV.UK

  • Tâl Rhiant a Rennir 

    Efallai y byddwch chi a'ch partner yn gallu cael Absenoldeb Rhiant a Rennir (ARhR) a Thâl Rhiant a Rennir Statudol (TRhRS) os ydych yn cael babi neu'n mabwysiadu plentyn. Gallwch rannu hyd at 50 wythnos o wyliau a hyd at 37 wythnos o dâl rhyngoch. Mae angen i chi rannu'r tâl a'r absenoldeb yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i'ch plentyn gael ei eni neu ei roi gyda'ch teulu.


    Gallwch ddefnyddio ARhR i gymryd absenoldeb mewn blociau wedi'u gwahanu gan gyfnodau o waith, neu gymryd y cyfan ar yr un adeg. Gallwch hefyd ddewis bod i ffwrdd o'r gwaith gyda'ch gilydd neu i drefnu’r absenoldeb a'r tâl fesul cyfnod. Er mwyn cael ARhR a TRhRS, mae angen i chi a'ch partner fodloni'r meini prawf cymhwysedd - mae meini prawf gwahanol ar gyfer rhieni biolegol a rhieni mabwysiadol a rhoi rhybudd i'ch cyflogwyr.


    Telir TRhRS ar gyfradd o £151.20 yr wythnos neu 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sy'n is. Mae hyn yr un fath â Thâl Mamolaeth Statudol (TMS) ac eithrio bod TMS yn cael ei dalu yn ystod y 6 wythnos gyntaf ar 90% o beth bynnag a enillwch (heb uchafswm).

     

    Tâl Rhiant a Rennir - GOV.UK

     

     

  • Y Cynllun Gofal Plant Di-dreth  

    Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) am bob un o’ch plant i helpu â chostau gofal plant.  Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn). Os cewch Ofal Plant Di-dreth, byddwch yn sefydlu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 a dalwch i mewn i'r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn talu £2 i'w ddefnyddio i dalu eich darparwr.

     

    Gallwch gael Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â 30 awr o ofal plant am ddim os ydych yn gymwys i gael y ddau. Fel arfer gallwch gael Gofal Plant Di-dreth os ydych chi (a'ch partner, os oes gennych un) mewn gwaith, ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol, ar absenoldeb rhiant, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu a rennir. Os ydych ar absenoldeb mabwysiadu, ni allwch wneud cais am y plentyn rydych ar wyliau amdano oni bai eich bod yn mynd yn ôl i'r gwaith o fewn 31 diwrnod i'r dyddiad y gwnaethoch gais am y tro cyntaf. 

     

    Y Cynllun Gofal Plant Di-dreth - GOV.UK

      

     

  • Budd-dal Plant   

     Rydych yn cael Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd o dan 16 oed neu o dan 20 oed (os yw'n aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy). Dim ond un person all gael Budd-dal Plant i blentyn. Mae'n cael ei dalu bob 4 wythnos ac nid oes terfyn ar faint o blant y gallwch hawlio am

    danynt.


    Drwy hawlio Budd-dal Plant gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol sy'n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd eich plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fydd yn 16 oed. Os byddwch yn dewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant, dylech ddal i lenwi ac anfon y ffurflen hawlio.
    Os ydych chi neu'ch partner yn ennill dros £50,000 efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o'ch Budd-dal Plant mewn treth os yw eich incwm unigol (neu incwm eich partner) dros £50,000.


    Gallwch wneud cais i gael Budd-dal Plant cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru genedigaeth eich plentyn, neu pan fydd wedi dod i fyw gyda chi.

     

    Budd-dal Plant - GOV.UK

     

    Cyngor Arian- Budd-daliadau Plant

     

  • Credyd Treth Plant 

    Mae Credyd Treth Plant yn fudd-dal sy'n helpu gyda chostau magu plentyn os ydych ar incwm isel, ond mae Credyd Cynhwysol i'r rhan fwyaf o bobl wedi disodli Credyd Treth Plant.


    Allwch chi ddim gwneud cais newydd am Gredyd Treth Plant onid ydych chi’n cael y premiwm anabledd difrifol, neu â hawl iddo, wedi ei gael neu wedi cael y premiwm anabledd difrifol yn ystod y mis diwethaf, ac rydych yn dal i fod yn gymwys ar ei gyfer. Os yw eich plentyn yn 16 oed, gallwch hawlio hyd at 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed. Os yw mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy, gallwch hawlio tan ei ben-blwydd yn 20 oed. Os na allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Plant, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol (neu Gredyd Pensiwn os ydych chi a'ch partner o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd).


    Mae'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych ac a ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Treth Plant neu eisoes yn hawlio Credyd Treth Plant. Ni fydd Credyd Treth Plant yn effeithio ar eich Budd-dal Plant a ni allwch hawlio Credyd Treth Plant ond am blant rydych chi'n gyfrifol amdanynt.

     

    Credyd Treth Plant - GOV.UK

    Cyngor Arian- Credydau treth plant

     

     

  • Credyd Treth Gwaith 

     Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i gynllunio i ychwanegu at eich enillion os ydych yn gweithio ac ar incwm isel. Os ydych yn gweithio nifer penodol o oriau efallai y byddwch yn gallu hawlio swm ychwanegol i helpu i dalu costau gofal plant cymeradwy, cyfeirir at hyn fel 'elfen gofal plant' credydau treth gwaith. 

     

    Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Credyd Treth Gwaith i'r rhan fwyaf o bobl. Allwch chi ddim gwneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith onid ydych chi’n cael y premiwm anabledd difrifol, neu â hawl iddo, wedi ei gael neu wedi cael y premiwm anabledd difrifol yn ystod y mis diwethaf, ac rydych yn dal i fod yn gymwys ar ei gyfer. Os na allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol (neu Gredyd Pensiwn os ydych chi a'ch partner o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd).

     

    Credyd Treth Gwaith - GOV.UK

     

     

  • Credyd Cynhwysol

    Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i'ch helpu gyda'ch costau byw.  Efallai y byddwch chi'n gallu ei gael os ydych chi ar incwm isel neu’n ddi-waith. 

     

    Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol; cyfeirir at hyn fel 'elfen gofal plant' Credyd Cynhwysol, er mwyn bod yn gymwys fel arfer bydd angen i chi (a'ch partner os ydych yn byw gyda nhw) naill ai fod yn gweithio - does dim ots faint o oriau rydych chi na'ch partner yn gweithio neu os oes gennych gynnig swydd.

     

     

    Credyd Cynhwysol - GOV.UK  

     

  • Cychwyn Iach 

     O dan raglen Cychwyn Iach, bydd rhieni’n cael talebau am ddim bob wythnos i’w defnyddio i gael llaeth, ffrwythau a llysiau plaen ffres ac wedi’u rhewi, a llaeth fformiwla ar gyfer babanod. Gallant gael fitaminau am ddim hefyd. Mae menywod sy’n feichiog neu deuluoedd sydd â phlentyn o dan bedair oed ac sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol yn gymwys i gael cymorth o dan y rhaglen Cychwyn Iach. Mae pob menyw sy’n feichiog ac sydd o dan 18 oed yn gymwys – p’un a ydynt yn derbyn budd-daliadau ai peidio.

     

    Cychwyn Iach - NHS.UK

     

     

     

     

  • Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn 

     Gall menywod gael un taliad o £500 i helpu tuag at gostau cael plant. Fel arfer, byddwch yn gymwys i gael grant os bydd y ddau bwynt isod yn berthnasol i chi:

     

    • rydych chi’n disgwyl eich plentyn cyntaf neu rydych chi’n disgwyl mwy nag un plentyn (gefeilliaid er enghraifft) ac mae gennych blant yn barod
    • rydych chi neu eich partner yn derbyn rhai budd-daliadau penodol

     

    Rhaid hawlio’r grant o fewn 11 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y baban neu o fewn 3 mis ar ôl ei eni.

      

     Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn - GOV.UK

     

     

 

 

 

Cymorth ariannol ehangach i deuluoedd

 

Gall teuluoedd fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ehangach, gan gynnwys cymorth gan y sectorau addysg a thai. 

  

  • Prydiau Ysgol Am Ddim 

     

    Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol a bod eich plentyn yn mynd i ysgol ym Mro Morgannwg, gallech arbed arian trwy hawlio prydau ysgol am ddim i’ch plentyn.Bydd angen i chi gwblhau cais newydd hefyd os bydd eich plentyn yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf ac am unrhyw blant dilynol pan fyddant yn dechrau’r ysgol.

     

    Os yw’ch plentyn yn mynychu ysgol y tu allan i Fro Morgannwg, bydd angen i chi hawlio Prydau Ysgol Am Ddim gan y Cyngor lle lleolir yr ysgol. Sylwch na allwch hawlio Prydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion preifat, ysgolion meithrin neu goleg.

    Prydiau Ysgol Am Ddim 

  • Clybiau brecwast am ddim  

     Mae pob plentyn sy'n mynd i ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol yn gymwys i gael brecwast am ddim yn yr ysgol, os yw ei ysgol yn darparu brecwast am ddim.  Yma gall plant ddewis o fwyd fel grawnfwydydd heb siwgr ychwanegol, llaeth, iogwrt, bara gyda thopins, a ffrwythau. I ddarllen mwy am y cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd, cyfeiriwch at y Dogfen ganllawiau Llywodraeth Cymru

     

    Cliciwch yma i weld y clybiau Brecwast am Ddim ar draws Bro Morgannwg   

     

    Sylwch nad yw'r cynllun clwb brecwast am ddim mewn Ysgolion Cynradd yn darparu gofal plant.  Mae'r plant yn cael eu goruchwylio yn ystod brecwast i sicrhau eu bod yn gallu dewis eu brecwast yn ddiogel a'i fwyta cyn dechrau'r diwrnod ysgol.  Gall ysgolion godi tâl am ofal plant cyn i'r sesiwn frecwast am ddim ddechrau, cyfeirir at hyn yn aml fel 'gofal plant cofleidiol'. Mae'r gofal plant hwn ar wahân i'r cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd ac ni ddylai ysgolion godi tâl arnoch am gost staff sy'n goruchwylio brecwast am ddim.  

     

    Cliciwch yma i chwiliio’r wefan Gwybodaeth Gofal Plant ar gyfer pob clwb brecwast, mae'r rhestr hon yn cynnwys clybiau brecwast preifat sy'n cynnig gofal plant. Gallwch hidlo yn ôl ‘casglu o’r ysgol a mannau eraill. 

  • Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY)

    Mae’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) yn rhaglen addysg a leolir mewn ysgolion sy’n cynnig addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol. Efallai bod y rhaglen RhCGY hefyd yn cael ei hadnabod fel 'Bwyd a Hwyl'.  

     

    Cysylltwch â'ch ysgol yn uniongyrchol i gael gwybod mwy.

     

    I ddarllen mwy ar 'Bwyd a Hwyl' neu RhCGY cliciwch yma.
     

  • Grant Datblygu Disgyblion 

     Mae'r Grant Datblygu Disgyblion ar gael i gynorthwyo teuluoedd cymwys ar incwm isel i helpu gyda'r eitemau canlynol: 

     

    • Prynu gwisgoedd ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau

    • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio a dawns.

    • Offer e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu

    • Offer arbenigol pan fo gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg

    • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau’r ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored, e.e. dillad gwrth-ddŵr. 

    • A gliniaduron neu gyfrifiaduron llechen

     

    Grant Datblygu Disgyblion

      

     

  • Lwfans Cynhalieath Addysg (LCA)  

     Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn rhoi cymorth ariannol i bobl ifanc 16-19 oed sy'n parhau â'u haddysg mewn ysgolion neu sefydliadau addysg bellach.  Fe’i rhoddir ar sail prawf modd ac i fod yn gymwys, mae angen i chi fod yn:

    • 16 oed rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009 

    • Byw yn y Deyrnas Gyfunol

    • Mewn addysg llawn-amser 

    • Astudio cwrs cymwys

     

    Byddwch yn gymwys os: 

    • rydych yn byw gyda rhieni sydd â chyfanswm incwm blynyddol o lai na £31,581 

    • rydych yn byw ar eich pen eich hun gydag incwm blynyddol o lai na £31,581

     • rydych dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol, neu'n gyfrifol am blentyn  

     

    Os credwch y gallech fod yn gymwys, cysylltwch â'ch ysgol yn uniongyrchol. 

      

     

    Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

      

     

  • Urddas Mislif 

     Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i fenywod a merched o gartrefi incwm isel yn ystod y pandemig. Mae'r prosiect hwn yn sicrhau y gellir cyflwyno cynhyrchion mislif am ddim i ddisgyblion mewn ffordd ddiogel, ymarferol ac urddasol. 

     

    Urddas Mislif

  • Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)  

     Nid yw TTD yn fudd-dal – mae'n daliad brys gyda chyllideb gyfyngedig wedi'i gosod gan y llywodraeth ac wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai mwyaf anghenus. 

     

    Gallwch wneud cais am TTD os:

    • bydd gennych ddiffyg rhwng maint y Budd-dal Tai a ddyfernir i chi a maint y rhent rydych yn ei dalu

    • ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae maint yr elfen tai yn llai na’ch rhent

     

    Cofiwch fod rhaid i chi fod yn derbyn Budd-dal Tai neu gostau tai trwy Gredyd Cynhwysol er mwyn gwneud cais am TTD.

     

    Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)

      

     


  

 

Pre Natal Post Natal

Cymorth Cyn / Ôl Enedigaeth

Mae cael babi yn achlysur pwysig, ac mae’n naturiol i brofi amrywiaeth o emosiynau ac adweithiau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.

 

 

Gall beichiogrwydd a genedigaeth plentyn fod yn emosiynol heriol i nifer o rieni.  Mae amrywiaeth o wasanaethau all eich cefnogi: 

 

Cymorth fesul Wythnos 

Mae gwefannau Galw Iechyd Cymru a Bump, Baby & Beyond yn cynnig canllawiau fesul wythnos o ran datblygiad eich babi a’r gofal cyn-geni y gallwch ei ddisgwyl, yn ogystal â llawer o wybodaeth arall. 

 

GIG 111 Cymru - Canllaw Beichiogrwydd

 

Mae’r National Childbirth Trust (NCT) yn cynnig gwybodaeth a chymorth gyda beichiogrwydd, genedigaeth a bod yn rhiant newydd

Beichiogrwydd - NCT

Rhianta - NCT

Which? Birth Choice eich cefnogi chi i ddeall pa ddewisiadau sydd gennych a'r gofal y gallwch ddisgwyl ei gael yn ystod beichiogrwydd a llafur

Which? Birth Choice

 

Cymorth Lles Emosiynol 

Mae cael babi yn achlysur pwysig, ac mae’n naturiol i brofi amrywiaeth o emosiynau ac adweithiau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Ond os yw’r babi yn dechrau cael effaith fawr ar sut rydych yn byw eich bywyd, efallai eich bod yn cael problem iechyd meddwl. 

 

Bydd tua un o bob pum merch yn cael problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae astudiaethau ar iselder ôl-enedigaeth ymysg tadau yn awgrymu bod un o bob pum dyn yn cael iselder ar ôl dod yn dad. 

 

Mind

Mae Mind yn esbonio iselder ôl-enedigaeth a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, ffynonellau triniaeth a chymorth, a chyngor i ffrindiau a theulu. Mae gan y wefan hefyd restr o gysylltiadau defnyddiol i unrhyw un sy’n cael neu'n cefnogi rhywun â phroblemau iechyd meddwl. 

 

Mind - Cymorth Cyn / Ôl Enedigaeth

 

 

NCT

Mae gan NCT amrywiaeth o wybodaeth ar emosiynau a iechyd meddwl yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, gan gynnwys cyngor i famau a thadau, gwybodaeth a chymorth ar gyfer iselder a ffyrdd o ddelio â straen perthynas yn ogystal â mynd i’r afael â phroblemau.  

NCT - Cymorth Cyn / Ol Enedigaeth

 

 

Cymorth Perthynas i Rieni Newydd

Relate yw darparwr cymorth perthnasau mwyaf y DU, a bob blwyddyn yn helpu dros filiwn o bobl o bob oed, cefndir a chyfeiriadedd rhywiol i gryfhau eu perthnasau. 

 

Mae tudalennau gwybodaeth penodol yn cynnig cymorth perthnasau i rieni newydd: 

Cymorth Rhieni Newydd - Relate 

 

Dechrau'n Deg

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn cefnogi teuluoedd i roi dechrau gwell mewn bywyd i blant. Mae’r rhaglen ar gael mewn ardaloedd penodol o’r Barri ac yn cynnig gofal plant, cymorth rhianta, iaith a chwarae, ymweliadau iechyd a bydwreigiaeth.

 

Dysgwch a ydych yn byw yn yr ardal drwy fynd i’w gwefan: 

Dechrau'n Deg

 

FIS logo service 300dpi CMYK small

Chwilio am ofal plant, hwyl i'r teulu a chefnogaeth

Mae llawer o grwpiau rhieni a phlant bach, grwpiau babanod a dosbarthiadau a sesiynau yn digwydd yn y Fro. 

 

Gallwn roi’r wybodaeth hon i chi yn ogystal â chyfoeth o wybodaeth am ofal plant, gweithgareddau i blant a phobl ifanc a gwasanaethau cymorth i’r teulu.

 

Gallwch ddefnyddio ein offeryn chwilio ar-lein i ddod o hyd i Weithgareddau, Hwyl a Chymorth i’r Teulu yn eich ardal:

 

Cliciwch yma i chwilio a hidlo yn ôl eich anghenion 

 

 

Cysylltwch â ni:

 

  • 01446 704704
  • Vale Family Information Service
  • @VALEFIS