Cost of Living Support Icon

Dechrau Gyrfa Gofal Plant

Gwybodaeth i bobl sydd am ddechrau gyrfa gofal plant neu sefydlu darpariaeth gofal plant newydd ym Mro Morgannwg.

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-Schoo-102380036

Dechrau Meithrin

Gall plant ddechrau mynd i’r ysgol feithrin y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed, fel arfer am bum bore neu bum prynhawn yr wythnos.

 

Gallwch gofrestru eich diddordeb drwy lenwi ffurflen ar-lein ein hadran Derbyn i’r Ysgol pan fydd eich plentyn bron yn ddwyflwydd oed. Bydd yr adran yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu pryd dylech chi wneud cais:


Cofrestru diddordeb mewn lle meithrin

 

Mae ysgolion a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig yn gweinyddu eu mynediad eu hunain i’r ysgol feithrin, felly bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol i wneud cais yn yr achos hwn.

 

Chwilio Ysgolion yn y Fro

 

Am wybodaeth bellach ac i weld rhestr o ysgolion meithrin, ewch i adran Addysg Oed Meithrin ar y wefan neu gysylltu ag adran Derbyn i’r Ysgol yn uniongyrchol: 

Addysg oed meithrin

 

Mae'r rhan fwyaf o rieni sy'n gweithio yn gymwys i hawlio cymorth gyda chostau gofal plant drwy Gynnig Gofal Plant Cymru o'r tymor ar ôl i'w plentyn droi'n 3 oed. Dan y cyllid hwn gallech hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn. 

 

Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg

 

bigstock-Illustration-of-Kids-Carrying--32319599

Dechrau Ysgol Gynradd

Gall plant ddechrau mynd i’r ysgol gynradd yn llawn amser yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.

 

Mae pob ysgol yn gwasanaethu dalgylch penodol. Os nad ydych yn siŵr pa ysgolion sydd yn eich dalgylch, cysylltwch ag adran Derbyn i’r Ysgol neu roi eich cod post yn yr adnodd chwilio (Saesneg) ar yr hafan: 

 

 

Rhaid i rieni nodi pa ysgol maent yn ei ffafrio ar gyfer eu plentyn. Os bydd y galw yn uwch na’r nifer o lefydd sydd ar gael, plant y dalgylch fydd yn cael blaenoriaeth bob amser, yn unol â threfn  y meini prawf mynediad ffurfiol. 

 

 

Os ydych chi’n dymuno i’ch plentyn fynd i ysgol wirfoddol a gefnogir, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol. 

 

Chwilio Ysgolion yn y Fro

 

Am fwy o wybodaeth ewch i Derbyn Plant i'r Ysgolion Cynradd:

Derbyn Plant i'r Ysgolion Cynradd

bigstock-Illustration-of-School-Kids-Wa-102382688

Dechrau Ysgol Uwchradd

Os yw'ch plentyn yn mynychu Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd neu Ysgol Iau y Fro a disgwylir iddi gael ei drosglwyddo i ysgol uwchradd ym mis Medi, byddwch yn derbyn llythyr gan yr awdurdod derbyn perthnasol sy'n eich cynghori am y broses.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i Derbyn Plant i'r Ysgolion Uwchradd:

Derbyn i Ysgol Uwchradd

 

 

Bod yn Ddwyieithog

Ydych chi’n meddwl am addysg Gymraeg?

Os ydych yn ystyried addysgu eich plentyn drwy gyfrwng y Gymraeg ac eisiau gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael, yna gallai tudalennau gwe ‘Eich Taith Ddwyieithog’  helpu.

 

Eich Taith Ddwyieithog: O feichiogrwydd i'r ysgol uwchradd 

 

Ewch i wefan 'Mudiad Meithrin' am wybodaeth, adnoddau a chymorth manwl ar gyfer gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.

 

Mudiad Meithrin 

 

 

 

Canolfan Iaith Gymraeg

A yw eich plentyn yn 5-11 oed? Ydych chi wedi bod yn ystyried addysg Gymraeg? Mae cyfle cyffrous bellach ar gael drwy raglen 12 wythnos newydd yn ein Canolfan Gymraeg.

 

Os yw eich plentyn yn newydd i'r Gymraeg, bydd ein Canolfan yn caniatáu i ddysgwyr oedran cynradd gael eu trochi yn yr iaith, gan ddatblygu lefel o ruglder a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn eu taith addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg. 


Mwy o wybodaeth am y Ganolfan Iaith Gymraeg

 

bigstock-Illustration-of-Kids-Being-Esc-59397236

Ydych chi’n symud i Fro Morgannwg?

Os ydych chi’n symud i Fro Morgannwg, neu’n dymuno ymgeisio am le mewn ysgol o fewn y sir, bydd angen i chi lenwi ffurflen Newid Ysgol. 

 

Adran Derbyn i’r Ysgol Bro Morgannwg

bigstock-Illustration-of-Stickman-Kids--82572575

Angen Gofal Plant?

Efallai y bydd angen gofal plant arnoch i ofalu am eich plentyn cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae gofal plant hyblyg ar gael. 

 

Efallai y bydd ysgol eich plentyn yn cynnal clybiau brecwast ac ar ôl ysgol ac mae gwarchodwyr plant ar gael i ollwng a chasglu o ysgolion. 

 

Chwiliwch am ofal plant gan ddefnyddio'r cyfeiriadur newydd, Gwybodaeth Gofal Plant Cymru.

 

Cliciwch yma i chwilio a hidlo yn ôl 'ysgol a chasglu arall' ar gyfer eich gwasanaeth dewisol 


Ewch i'n tudalen Dewis Gofal Plant i gael rhagor o wybodaeth am ddewis gofal plant, gan gynnwys mathau o ofal plant a chymorth ariannol gyda chostau gofal plant:


Gofal Plant ym Mro Morgannwg 

 

Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol am eich anghenion gofal plant drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein. Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw’n unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg.  

 

Ffurflen Ymholiadau Ar-lein

 

Cymorth ariannol yn yr ysgol 

Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan eu hysgol, yn cynnwys cynlluniau bwyd am ddim, cyllid a grantiau. 

 

Cymorth ariannol ehangach i deuluoedd