Cost of Living Support Icon

Cadw Plant yn Ddiogel

Gwybodaeth i deuluoedd a darparwyr am gadw plant yn ddiogel yn y byd go iawn a'r byd digidol

 

bigstock-Stickman-Illustration-Featurin-49701212

Bwlio

Mae bwlio’n ymddygiad sy’n brifo rhywun arall – megis galw enwau, taro, gwthio, rhannu straeon am bobl, bygwth neu danseilio rhywun.

Gall ddigwydd yn unrhyw le – yn yr ysgol, gartref neu ar-lein. Fel arfer mae’n digwydd dros gyfnod hir o amser, a gall frifo plentyn yn gorfforol ac yn emosiynol.

 

Yn aml, bydd bwlio sy'n digwydd ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol, gemau a ffonau symudol yn cael ei alw'n seiber-fwlio. Gall plentyn deimlo fel nad oes ffordd allan gan ei fod yn digwydd mewn unrhyw le, ar unrhyw adeg o’r dydd neu gyda’r nos. - NSPCC

 

Does dim rhiant yn hoffi meddwl am ei blentyn yn cael ei fwlio, neu hyd yn oed yn waeth, yn bod yn fwli, ond mae’n ffaith bod dros hanner plant ynghlwm wrtho – un ai’n bwlio, yn dioddef bwlio neu’n dyst i fwlio.

 

Mae gan bob ysgol ym Mro Morgannwg Bolisi Gwrth-fwlio. Yn anffodus, does dim sicrwydd y bydd gweithredu gan yr ysgol yn unig yn stopio'r bwlio, felly mae'n bwysig eich bod chi'n cydweithio ag ysgol eich plentyn.

 

Os oes gennych bryderon, mae adnoddau i’ch helpu:

 

Mae gan Bullying UK ganllaw hanfodol i rieni a gofalwyr. Mae Bullying UK yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ar y mathau gwahanol o fwlio, siarad â’ch plentyn am fwlio, adnabod arwyddion a chyflwyno cwyn.

Bullying UK

 

Mae’r  NSPCC yn rhoi cymorth uniongyrchol a help i blant a phobl ifanc ac mae’n cynnig hyfforddiant ac ymgynghori arbenigol i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant.

NSPCC

Childline

Young Minds

Capture2

Trosedd Casineb

Mae troseddau ac achosion casineb yn cyfeirio at gam-drin, aflonyddu, bygwth neu ymddygiad ymosodgar tuag at berson ar sail ei hunaniaeth.

 

Mae achosion casineb a throseddau casineb yn digwydd oherwydd rhagfarn neu atgasedd tuag at anabledd, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol person.

 

Gall trosedd casineb fod yn unrhyw weithred troseddol neu nad yw'n drosedd, megis graffiti, fandaliaeth i eiddo, galw enwau, ymosodiad neu sarhau ar-lein gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae ymgyrch ChildLine #DeallFi yn annog pobl ifanc i siarad a gofyn am gymorth am fwlio’n oherwydd hil a ffydd.

 

Gallwch ddod o hyd i adnoddau all fod o gymorth ar-lein:

Childline

 

Adroddwch eich pryderon i:

Victim Support

 

True Vision

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Fam-122857013

Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein

Mae’r rhyngrwyd yn wych. Gall plant chwarae, dysgu, creu a chysylltu – gan agor drysau at fyd o bosibiliadau cyffrous.  Ond gyda’r byd digidol yn newid trwy’r amser, sut gallwch chi sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel?

Mae NSPCC wedi ymuno ag O2 i helpu i gadw plant yn ddiogel pan fyddan nhw’n defnyddio’r Rhyngrwyd, rhwydweithiau cymdeithasol, apiau, gemau a mwy.

NSPCC – Let’s Keep Children Safe Online

 

Mae Think U Know yn grymuso plant a phobl ifanc i adnabod y risgiau y maen nhw'n eu hwynebu ar-lein ac i wybod lle y gallan nhw fynd i gael cymorth. Caiff y wybodaeth ei rhannu i ystodau oedran gan gynnwys gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr a Gweithlu Plant.

Think U Know

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-Kids--145976360

Diogelu

Mae gan bawb gyfrifoldeb i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.

 

Dylai pob sefydliad sy’n gweithio phlant neu sydd mewn cysylltiad â phlant fod â pholisïau a gweithdrefnau diogelu i sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo’i oedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd, yn cael ei amddiffyn rhag niwed.

Mae sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu da’n golygu bod plant yn ddiogel rhag oedolion a phlant eraill all beri risg.

Mae hyn yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, grwpiau ffydd, darparwyr sector preifat ynghyd ag ysgolion, ysbytai a chlybiau chwaraeon.

 

Mae gan NSPCC wybodaeth ar yr hyn y mae sefydliadau angen ei wneud i amddiffyn plant rhag niwed:

 

NSPCC – Safeguarding Children

Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i’r cyhoedd, i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phlant a'u teuluoedd yn rhinwedd eu gwaith.

Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro

  • 01446 725202

 

Gallwch chi gysylltu â’r Tîm Brys ar Ddyletswydd os oes gennych bryder am blentyn y tu allan i oriau swyddfa:

  • 029 2078 8570

  • Nosweithiau

  • Dros y penwythnos

  • Wyliau Cyhoeddus

*Os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a dywedwch wrth yr heddlu*