Cost of Living Support Icon

Darparwyr Gofal Plant Cyfredol

Gwybodaeth a chanllawiau i ddarparwyr gofal plant ym Mro Morgannwg

 

Diweddaru Eich Gwybodaeth a Hyrwyddo Eich Gwasanaeth

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) y Fro yn hyrwyddo'r holl wasanaethau i deuluoedd yn y Fro trwy  Gwybodaeth Gofal Plant Cymru sy’n dolennu at wefan Dewis Cymru. 

 

P’un a ydych yn gwarchod plant, yn rheoli meithrinfa ddydd neu'n darparu gwasanaeth ar gyfer plant a theuluoedd yn y Fro, gallwch hyrwyddo’ch gwasanaeth a diweddaru’ch manylion gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar-lein.

 

Ychwanegwch neu ddiweddarwch eich gwybodaeth ar www.dewis.cymru. Cofrestrwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a bydd eich gwasanaeth(au) ar gael i chi ei/eu adolygu/newid yn ôl yr angen.  Ar ôl cofrestru, ewch i Ychwanegu/Newid Adnoddau, wedyn Fy Adnoddau.

 

Daw eich gwybodaeth i ben os na chaiff ei diweddaru bob 6 mis er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol o hyd, neu gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth mor aml ag sydd ei angen.  

 

 

Illustration-of-Teens

Hyfforddiant

Os yw’ch gwybodaeth ar ein cyfeiriadur Gwybodaeth Gofal Plant byddwch yn cael eich cynnwys ar ein rhestr bostio’n awtomatig i dderbyn gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd hyfforddiant trwy eNewyddion y GGiD.

 

I gael gwybodaeth am gyrsiau yn y Fro yn y dyfodol, gallwch fynd i’n tudalennau hyfforddiant:

Hyfforddiant Ddarparwy Gofal Plant yn y Fro
bigstock-Stickman-Illustration-of-Kids--128184026

Cymwysterau

Mae gan Gyngor Gofal Cymru wybodaeth am gymwysterau sydd wedi’u hargymell i weithio ym maes gofal plant a’r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae hefyd wedi paratoi cyfres o ganllawiau arfer da ar y Blynyddoedd Cynnar a'r sector Gofal Plant yng Nghymru. Nod y canllawiau hyn yw rhoi cymorth i reolwyr ac uwch ymarferwyr.

 

Cymwysterau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

 

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Div-154541381

Iechyd a Llesiant yn eich Lleoliad

Fel darparwr gofal plant, mae gennych rôl hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o hyrwyddo iechyd a llesiant plant ifanc. Mae gennym amrywiaeth o wybodaeth a chanllawiau i ddarparwyr gofal plant ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant. 

Iechyd a Llesiant yn Eich Lleoliad

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-Kids--145976360

Cadw Plant yn Ddiogel yn Eich Lleoliad

Fel darparwr gofal plant mae’n hollbwysig eich bod yn gallu cynnig amgylchedd diogel. Mae gennym lawer o wybodaeth a chanllawiau ar gadw plant yn ddiogel yn eich lleoliad ar ein gwefannau:

Cadw Plant yn Ddiogel yn Eich Lleoliad

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Gwiriadau GDG

Trefniant dros dro - Oherwydd y cyfyngiadau presennol gallwch gwblhau eich Gwiriad GDG yn rhithwir. E-bostiwch dbs@valeofglamorgan.gov.uk i wneud trefniadau.

 

Gall Cyngor Bro Morgannwg hefyd wneud gwiriadau annibynnol wrth benodi yn Swyddfeydd Dinesig Heol Holltwn y Barri. Os ydych yn dymuno manteisio ar y gwasanaeth hwn, dilynwch y manylion isod:

 

Prosesau GDG Bro Morgannwg

 

 

  1. Cysylltwch ag adran Adnoddau Dynol Bro Morgannwg ar dbs@valeofglamorgan.gov.uk i ofyn am Wiriad DBS Rhestr Uwch a Gwaharddedig y Gweithlu Gofal Plant. Y cyfan sydd angen i chi ei ddarparu yw: Enw Cyntaf / Enw Olaf / Cyfeiriad E-bost Personol.

  2. Crëir cais/ceisiadau ar-lein yn y porthol GDG a chewch Enw Defnyddiwr / Cyfrinair.
  3. Cwblhewch y cais/ceisiadau ar-lein yn y porthol GDG
  4. Byddwch yn cael cyfarwyddyd ar sut i gyflwyno'ch dogfen adnabod.

  5. Anfonir copïau caled o dystysgrifau GDG i gyfeiriad cartref pob ymgeisydd.
  6. Cysylltwch ag AGC ar 0300 7900 126 i gofrestru eich tystysgrif GDG. Sylwer bod yn rhaid gwneud hyn o fewn tri mis wedi ei chael.
  7. Fe’ch cynghorir hefyd i danysgrifio i’r gwasanaeth diweddaru ar gost o £13 y person ar hyn o bryd (am ddim i wirfoddolwyr). Sicrhewch eich bod yn cofrestru gyda’r gwasanaeth diweddaru cyn gynted ag y cewch eich tystysgrif GDG. Cewch ragor o fanylion trwy’r ddolen hon: 

DBS Update Service

 

Rôl
Lefel y Gwiriad
Cost

 

Gwarchodwr Plant
Gwiriad Manwl a'r Rhestr Wahardd ar gyfer Plant am Ffi (gan gynnwys y Cyfeiriad Cartref)
£54

 

Aelod yr aelwyd (18 oed neu’n hŷn)
Gwiriad Manwl a'r Rhestr Wahardd ar gyfer Plant am Ffi (gan gynnwys y Cyfeiriad Cartref)
£54

 

Aelod yr aelwyd (16 - 17 oed)
Gwiriad Manwl a'r Rhestr Wahardd ar gyfer Plant i Wirfoddolwyr (gan gynnwys y Cyfeiriad Cartref)
£16