Cost of Living Support Icon
NYAS logo

Gwasanaeth Cenedlaethol Eiriolaeth Ieuenctid (NYAS)

Mae NYAS yn cynnig gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth di-duedd i blant a phobl ifanc sy’n dymuno lleisio eu dyheadau a’u teimladau pan gaiff penderfyniadau eu gwneud am eu bywydau. 

 

Gall cefnogaeth eirolaeth gynnwys: cyswllt â’r teulu, cynllunio lleoliadau, anableddau, newidiadau mawr, seibiannau byr, cefnogaeth i fynd i gyfarfodydd adolygu plentyn mewn gofal, mynediad i gyngor cyfreithiol, barn sy’n groes i weithiwr cymdeithasol, mynediad  ffeiliau, neu wneud apêl/cwyn. 

 

Plant a phobl ifanc

Gallwch ofyn am y gwasanaeth hwn os ydych yn un o’r grwpiau isod:

  • Plentyn neu berson ifanc mewn gofal
  • Yn gadael gofal
  • Yn destun cynadelddau achosion amddiffyn plant
  • Plentyn neu berson ifanc sy’n dymuno gwneud cwyn am wasanaeth rydych chi’n ei dderbyn gan yr awdurdod lleol

 

Gall gweithwyr proffesiynol yn y maes wneud cais ar eich rhan hefyd, ond rhaid iddynt gael caniatâd gennych i wneud hyn. 

 

 

Atgyfeirio proffesiynol

Gall gweithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriad ar ran plentyn neu berson ifanc, ond rhaid cael caniatâd ganddynt yn gyntaf. I wneud atgyfeiriad, bydd angen darparu’r wybodaeth isod:

 

  • Enw, cyfeiriad, cod post a rhifau cyswllt y plentyn / person ifanc
  • Dyddiad geni
  • Cenedl
  • Ethnigrwydd
  • Manylion cyswllt e-bost, rhif ffôn, cod post, asiantaeth a chyfeiriad y sawl sy’n atgyfeirio
  • Crynodeb o’r rhesymau pam bod angen eiriolaeth
  • Materion Iechyd a Diogelwch – nodi peryglon
  • LStatws cyfreithiol y plentyn / person ifanc – Adran 17, Adran 47, Adran 20, Adran 31

 

I wneud atgyfeiriad, cysylltwch â: