Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Cyfarwyddir y Cynllun Cymorth Lleoedd gan y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Mae cyllid ar gael i wella lles neu ansawdd bywyd plentyn ag anabledd / anghenion dysgu ychwanegol neu blentyn mewn angen drwy gynnig gofal plant o ansawdd i gefnogi anghenion plant. Mae'r cyllid yn cefnogi plant mewn lleoliadau cyn ysgol cofrestredig a lleoliadau gofal plant y tu allan i'r ysgol.
Mae plant yn cael cynnig uchafswm o 2 x sesiwn 2.5/3 awr yr wythnos am hyd at 12 wythnos i ddechrau. Mae lleoliadau’n cael eu hadolygu bob 12 wythnos ac, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, gallent gael eu hymestyn. Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud drwy amrywiaeth o asiantaethau gwahanol, gan gynnwys: Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol, ysgolion, Tîm Iechyd ac Anableddau Plant a llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â’r tîm Blynyddoedd Cynnar ar:
Os ydych chi’n credu y gallai’ch plentyn gael budd o’r cynllun hwn ond nad ydych yn gweithio gyda’r asiantaethau uchod ar hyn o bryd, cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar: