Cost of Living Support Icon

Hyfforddiant Anabledd

Yn rhoi hyfforddiant i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol o ran plant a phobl ifanc ag anableddau

 

P’un ai a ydych am wella’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anableddau; yn ystyried y ffordd orau o gefnogi pobl anabl a’u teuluoedd; neu’ch bod yn rhieni’n chwilio am ganllawiau a chymorth ymarferol, mae pob math o hyfforddiant ar gael i chi.

 

YMCA Wales Community College

Coleg Cymunedol Cymru’r YMCA

Mae Coleg Cymuned Cymru’r YMCA wedi creu Cyfeiriadur Hyfforddiant Anableddau o sefydliadau ym Mro Morgannwg sy’n cynnig hyfforddiant i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol o ran plant a phobl ifanc ag anableddau.

  • 029 2075 5444

 

scope-bilingual

Scope

Mae Scope yn rhoi hyfforddiant i rieni, gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, gofalwyr plant, gweithwyr clybiau ar ôl ysgol, cynorthwywyr cymorth dysgu, Cydlynwyr AAA, gweithwyr chwaraeon, gwirfoddolwyr elusennau, gweithwyr cymorth, rhieni maeth a mwy. Mae modd addasu’r hyfforddiant i anghenion cleientiaid.

 

 

AlisonJohnbrochure-cover

Alison John and Associates Limited

Wedi’u lleoli yng Nghymru, mae Alison John and Associates (AJA) yn arbenigo mewn hyfforddiant, ymgynghori a chynadleddau ar Gynhwysiant, herio gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, cydraddoldeb, chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar.  Gan gredu mewn byd cynhwysol i bawb, nod AJA yw hyrwyddo hyn drwy eu gwaith, gan gynnig gwasanaeth hyfforddiant a chynadleddau unigryw i ofynion unigol a sefydliadol.  I gael rhagor o wybodaeth i’w tudalen Hyfforddiant, lawrlwythwch eu Llyfryn cysylltwch â:

 

 

Hyfforddiant gan Gyngor Bro Morgannwg

Trefnwn amryw gyrsiau hyfforddiant gydol y flwyddyn, a allai fod o fudd i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol o ran plant a phobl ifanc ag anableddau, gan gynnwys: