Cost of Living Support Icon

Prosiect Synnwyr o Chwarae (Teuluoedd yn Gyntaf)

Ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol 0 - 5 oed, a'u teuluoedd sy'n byw ym Mro Morgannwg.

Sefydlwyd a dyluniwyd y Prosiect Synnwyr o Chwarae gan weithwyr proffesiynol ym Mro Morgannwg ar gyfer plant cyn ysgol ag anghenion arbennig neu ychwanegol.

 

Mae Synnwyr o Chwarae yn broject o sesiynau chwarae sy’n cael eu cynnig yn eich cartref gan weithiwr chwarae sydd wedi’i hyfforddi i lefel uchel. Bydd y sesiynau, sy’n rhedeg am gyfnod o 6 wythnos, yn rhoi’r cyfle i chi:

  • Dreulio awr gyda’ch plentyn lle gallwch brofi syniadau newydd a chwarae gyda’ch gilydd
  • Ehangu ac adeiladu perthynas gadarnhaol â’ch plentyn drwy chwarae
  • Cydnabod y camau gwahanol yn natblygiad eich plentyn
  • Cynnig syniadau a rhannu gwybodaeth am ddatblygiad a chwarae plant

 

Cynhelir y sesiynau yn y cartref teuluol ar sail 1: 1 ac mae gweithgareddau'n canolbwyntio ar chwarae a datblygu.

 

Nod y sesiynau yw cefnogi rhieni i gydnabod gwahanol gamau datblygiad eu plentyn a'r rôl maent yn ei chwarae wrth wella hyn ymhellach.

 

Mae'r sesiynau am 1 awr yr wythnos am hyd at 6 sesiwn, mae'r sesiynau hwyliog a rhyngweithiol yn canolbwyntio ar:

  • Chwarae Synhwyraidd
  • Chwarae Corfforol
  • Caneuon, rhigymau a straeon
  • Chwarae anniben

Mae'r ymarferwyr cymorth i deuluoedd yn dod ag amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau sy'n ysgogol, yn hwyl ac yn gwella datblygiad plant.

 

Cysylltwch â ni

 

  • 01446 732180
  • Kathryn.Clarke2@wales.nhs.uk
  • KJClarke@valeofglamorgan.gov.uk
Logo-Sense-of-Play
Logo-Families-First
Logo-CYPP