Cost of Living Support Icon

Families First Advice Line logoLlinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf

Gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a phobl broffesiynnol yn y Fro.

 

Weithiau mae angen ychydig o help ychwanegol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

 

Mae Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yn pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol sydd gan, neu sy'n gweithio gyda phlant 0-18 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg. 

 

Mae Cynghorwyr Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig gwasanaeth personol gyda'r nod o wrando ar gryfderau ac anghenion pob teulu a'u hasesu. Rydym yn cynnig gwybodaeth a chyngor i gynorthwyo teuluoedd i ddatrys eu hanawsterau'n annibynnol a'u cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau eraill i'w cefnogi ymhellach os oes angen.

 

Nod Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yw:

  • Gwrando arnoch a chynnig dewisiadau ar sut i ddiwallu anghenion eich teulu 

  • Eich cefnogi i gael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir

 

Os na allwn ateb eich cwestiynau neu ddatrys eich pryderon, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i wasanaeth sy'n gallu gwneud hynny.

 

  • Ddydd Llun i ddydd Gwener: 9.00yb – 4.30yh

  • 0800 0327322