Cost of Living Support Icon

Cynllun Cerdyn C
C-Card Logo

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi ffurfio partneriaeth â Gwasanaeth Perthnasoedd Iach yr YMCA, sy’n Wasanaeth Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd arbenigol a chyfrinachol, i ddarparu cymorth targedig i grwpiau bach o bobl ifanc 11-18 oed ym Mro Morgannwg mewn amrywiaeth o leoliadau ieuenctid.

Maent yn ymdrin â’r meysydd canlynol:  

  • Ymwybyddiaeth o Ddulliau Atal Cenhedlu

  • Ymwybyddiaeth o Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol

  • Rhyw a'r Gyfraith

  • Nodi Perthnasoedd Cadarnhaol

  • Cydsynio

  • Cymryd Risg Rhywiol (gan gynnwys Diogelwch Ar-lein

 

Maent hefyd yn cydlynu ac yn datblygu'r Cynllun Cerdyn C ar ran y Gwasanaeth Ieuenctid ym Mro Morgannwg.  Mae'r cynllun Cerdyn C yn gynllun cyfrinachol sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth am ddim am gondomau ac iechyd rhywiol i bob person ifanc 13-25 oed. Mae map o ble mae'r siopau Cerdyn C yng Nghaerdydd a'r Fro i'w gweld yma.

 

Os hoffech ddod yn asesydd Cerdyn C, bod yn rhan o'r cynllun neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â shot@ymcacardiff.wales.