Cost of Living Support Icon

Rydym yn gwrando ac yn dysgu

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau cywir i'r bobl iawn ar yr adeg iawn. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall lle rydym yn gwneud gwaith da a lle rydych chi'n meddwl y gallwn ni wneud yn well. Drwy rannu eich adborth, byddwch yn helpu i wella ein gwasanaethau i bawb.

 

Beth rydych chi eisiau gwneud:

To make sure we can give you the quickest and best response, please make sure that you use the right option from the list below when you contact us:

 

Anfon adborth atom

Os hoffech chi wneud awgrym ynglŷn â sut y gallwn wella ein gwasanaethau, gallwch gysylltu â ni:

 

Ffurflen adborth ar-lein

 

 

Ein canmol

Os hoffech anfon canmoliaeth i ni am un o weithwyr y cyngor, tîm neu wasanaeth, gallwch gysylltu â ni:

 

Ffurflen ganmol ar-lein

 

 

Cyflwyno Cwyn

 

Cyn i chi wneud cwyn

Gall unrhyw un sydd wedi defnyddio, neu sydd angen defnyddio, gwasanaeth cyngor wneud cwyn. Gallwch hefyd gwyno ar ran rhywun arall nad yw'n gallu cwyno eu hun (cyn belled â bod gennych eu caniatâd ysgrifenedig). Dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ond mae gennych hyd at 12 mis ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw broblem i wneud cwyn. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ymestyn yr amserlen hon.

 

Cyn i chi wneud cwyn darllenwch y canlynol:

 

  • Beth yw cwyn?

    Gall cwyn gynnwys:

    • Methiant y cyngor i ddarparu gwasanaeth

    • Oedi cyn ymateb (neu ddim ymateb) i'ch cais yn yr amserlen benodedig

    • Methu â dilyn eu rheolau cytunedig, cyfrifoldebau statudol neu safonau gwasanaeth cyhoeddedig

    • Agwedd anghymwynasgar gan rywun sy'n gweithio i'r cyngor

    • Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi dioddef unrhyw ragfarn neu wahaniaethu

  • Beth sydd ddim yn gŵyn?

    Nid yw cwyn:

    • Yn gais cychwynnol am wasanaeth, casgliad un tro a gollwyd neu hawliad yswiriant. Rhoi gwybod am broblem i Gyngor Bro Morgannwg

    • Yn apêl yn erbyn penderfyniad a ‘wnaed yn briodol’ gan gorff cyhoeddus

    • Modd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad ar bolisi ‘a wnaed yn briodol’

    • Modd i lobïo grwpiau neu sefydliadau i geisio hyrwyddo achos 

  

Os hoffech wneud cwyn am un o weithwyr y cyngor, tîm neu wasanaeth, gallwch wneud cwyn ar-lein:

 

Ffurflen ganmol ar-lein

 

 

Mae cwynion am Gwasanaethau CymdeithasolYsgolionCynghorwyr a’r Gymraeg yn cael eu trin ar wahân.

 

Dulliau eraill o gysylltu â ni

 

  • Cysylltu â ni dros y ffôn

    01446 700111

     

    Os ydych chi'n cael trafferth cyfathrebu dros y ffôn, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth negesu cenedlaethol i'ch helpu gyda'ch canmoliaeth.

  • Cysylltu â ni yn bersonol
    Gallwch siarad i dderbynnydd yn ein prif derbynfaoedd neu llyfrgelloedd.
  • Cysylltu â ni yn ysgrifenedig

    Cysylltiadau Cwsmeriaid

    Swyddfeydd Dinesig
    Heol Holton
    Y Barri
    CF63 4RU

 

 

Cwynion am Ysgolion

Mae gan ysgolion eu trefnau cwyno eu hunain a dylech gysylltu â'r Pennaeth perthnasol yn uniongyrchol yn y lle cyntaf.

  • 01446 709107

 

Cwynion am Gynghorwyr

Nid yw’n bosibl ymdrin â chwynion am ymddygiad Cynghorwyr drwy’r system gwynion.

 

I gael gwybodaeth cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu gallwch anfon ebost at Swyddog Monitro'r Cyngor

 

  • 0300 7900203

 

Cwynion am yr Iaith Gymraeg

Ceir trefn gwyno ar wahân ar gyfer cwynion ynglŷn â'r iaith Gymraeg.

Nodwch eich manylion cyswllt llawn yn eich gohebiaeth (cyfeiriad a rhif ffôn) a’r dull cyfathrebu o ddewis. Bydd hyn yn ein galluogi i gofnodi’ch cwyn yn ôl y polisi corfforaethol.

 

  • 01446 709362

  

Polisi ar Weithredoedd Annerbyniol gan Ddinasyddion

Mae'r Polisi hwn yn nodi dull y Cyngor o ymdrin â'r ychydig iawn o unigolion y mae eu gweithredoedd neu eu hymddygiad yn erbyn staff a Chynghorwyr yn cael eu hystyried yn annerbyniol. Mae'r term 'dinesydd' yn cynnwys unrhyw berson sy'n cysylltu â'r Cyngor neu sy'n gweithredu ar ran unigolyn arall wrth wneud hynny, unrhyw achwynydd, ac unrhyw berson sy'n gofyn am wybodaeth gan y Cyngor. Mae’r cyfeiriadau at 'staff' neu 'swyddogion' hefyd yn berthnasol i Gynghorwyr. 

 

Polisi ar Weithredoedd Annerbyniol gan Ddinasyddion