Cost of Living Support Icon

Cyllid y Cyngor

Mae iaith y dolenni’n cyfateb i’r cynnwys.

 

Cyfrifoldeb y Cyngor yw hygrededd gwefan Cyngor Bro Morgannwg a'r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw'r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i'r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.
 

Taliadau i Gyflenwyr

Ers mis Medi 2010 mae’r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i ddidwylledd a thryloywder drwy gyhoeddi manylion ar ei wefan am bob gwariant dros £500 gan y Cyngor ar nwyddau a gwasanaethau.

 

Mae’r adroddiadau isod yn rhestru pob taliad a wnaethpwyd gan y Cyngor ar gyflenwyr pan fo’r gost i’r ganolfan gyllido yn hafal i, neu yn uwch na £500 (ac eithrio TAW). 

 

2023/24

 

 

2022/23


2021/22

 


2020/21


2019/20


2018/19

 

Tâl Gweithwyr

Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor yn unol â Deddf Lleoliaeth 2011 i baratoi datganiad polisi cyflog. Cafodd y datganiad cyntaf ei gymeradwyo a’i gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2012. Lluniwyd y Polisi ar sail canllawiau statudol ac yn unol â chyngor gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Caiff ei adolygu a’i ddiweddaru bob blwyddyn yn unol â gofynion y Ddeddf. Bydd y Polisi yn darparu fframwaith i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu digolledu mewn ffordd deg a gwrthrychol yn ôl anghenion gwasanaethau’r Cyngor, ac y bu’r broses o lunio’r polisi yn un agored a thryloyw. 

 

 

Noder/Gellir darllen ffeiliau CSV yn rhwydd mewn amrywiaeth o raglenni, fodd bynnag mae’r fformat CSV yn defnyddio lled colofn safonol ac efallai na fydd modd gweld pob cofnod yn llawn.I weld yr holl ddata bydd angen i chi ehangu’r colofnau.

 

Os carech wybod mwy ynghylch y math o fusnes gaiff ei wneud gyda’r cyflenwyr hyn, e-bostiwch:

  • transparency@valeofglamorgan.gov.uk.