Cost of Living Support Icon

Cabinet Cyngor Bro Morgannwg

Mae’r Cabinet, sy’n cynnwys Arweinydd y Cyngor a chwech cynghorydd arall, yn defnyddio’i bwerau gweithredu i wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau’r Cyngor ar wasanaethau gweithredoedd a rheolaeth gorfforaethol, yn cynnwys cynlluniau a strategaethau. 

Cabinet image 1 

Mae penderfyniadau ar faterion allweddoll eraill, megis gosod y Gyllideb, yn aros yn nwylo’r Cyngor. Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu cynnal bob pythefnos, ac yn cael eu cadeirio gan yr Arweinydd. Yn ystod y cyfarfodydd yma, caiff materion eu codi a’u trafod, ac yna caiff penderfyniadau eu gwneud.

 

Cyn y cyfarfod, anfonir agenda ar gyfer cyfarfod y Cabinet i bob Aelod o’r Cyngor. 

 

Mae’r Cabinet yn gweithredu Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw sy’n datgelu’r Adroddiadau y bydd aelodau’n disgwyl eu gweld yn codi mewn gwahanol Gyfarfodydd Cabinet dros y flwyddyn. 

 

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyfarfod y Cabinet, anfonir cofnodion y cyfarfod sy'n manylu ar y penderfyniadau a wnaed at holl Aelodau'r Cyngor. Yna mae gan unrhyw Gynghorydd gyfle i "alw i mewn" eitem i'w chraffu ymhellach. Mae pum Pwyllgor Craffu yn gweithredu i ddelio â'r ceisiadau hyn. 

 

 

Portffolop
 PortffolioDeiliad y Portffolio

Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau

Cyng. Lis Burnett

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy

Cyng. Bronwen Brooks

Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol

Cyng. Ruba Sivagnanam

Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg

Cyng. Rhiannon Birch

Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles

Cyng. Gwyn John

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu

Cyng. Mark Wilson

Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid

Cyng. Sandra Perkes

Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Cyng. Eddie Williams