Top

Brig

Cytundebau Gefeillio a Chyfeillgarwch

Cytundebau Gefeillio a Chyfeillgarwch: gall perthynas â gefeilldref fod yn hynod fuddiol ar lefel economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg Gytundebau Gefeillio â:

 

  • Rheinfelden yn yr Almaen
    Mae gan Rheinfelden (Baden) yn ne-orllewin yr Almaen boblogaeth o dros 30,000. Arwyddlun y dref yw’r Wasserturm, sef tŵr storio dŵr. Mae Rheinfelden yn ddinas ddiwydiannol, fodern.

     

    “Mae Rheinfeld yn uno” yw un o arwyddeiriau’r dref. Mae’r bont sy’n arwain at hen dref Zhringen yn y Rheinfelden Swistirol yn dyddio’n ôl i 1922, ac mae hanes Rheinfelden (Baden), yr hynaf o’r ddwy dref, yn mynd yn ôl o leiaf 850 o flynyddoedd.

     

    Daeth Badisch Rhifelde, fel y cyfeirir at y dref yn y dafodiaith leol, i fodolaeth yn sgil adeiladu Gorsaf Bŵer Trydan Dŵr gyntaf Ewrop rhwng 1895 ac 1897.

     

    Derbyniodd Rheinfelden (Baden) siarter tref yn 1922. Sylfaen ei statws heddiw yw’r gwaith o ad-drefnu cymunedau, a gyflawnwyd rhwng 1972 a 1975. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth pentrefi cyfagos Adelhausen, Degerfelden, Eichsel, Herten, Karsau, Minseln a Nordschwaben yn rhan swyddogol o’r dref.

     

    Gellir olrhain hanes diwylliannol cyfoethog y dref i’r pentrefi sydd ar ei chyrion. Un enghraifft yw hanes capel Sant Mauritius yn Nordschwaben, a’i hallor Faróc hardd sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r Canol Oesoedd.

     

    Mae’r orymdaith flynyddol a gynhelir yn Eichsel yn seiliedig ar drefn canoneiddio, yr Heiligenprozess, sydd âi wreiddiau yn 1504. Enw arall ar yr orymdaith yw Gŵyl y Tair Morwyn sef Kunigundis, Mechthundis a Wibranda. Cynhelir yr ŵyl bob trydydd dydd Sul ym mis Gorffennaf, ac mae’n adnabyddus ymhell y tu hwnt i ffiniau’r gwledydd cyfagos.

     

     

    Mae llawer o hanes yn perthyn i gastell Beuggen hefyd, fel y gwelir yn ei furiau hynafol. Os ewch chi am dro yn y coedwigoedd cyfagos, fe allech chi ddod ar draws olion fferm Rufeinig hynafol neu Gastell Fliehburg (castell noddfa) ger Degerfelden.

     

    Tan yn ddiweddar iawn, diwydiannau trwm oedd i’w cael yn Rheinfelden gan mwyaf, ond erbyn heddiw mae digonedd o gwmnïau bach a chanolig wedi ymsefydlu yno, yn ogystal â llawer o gwmnïau sy’n masnachu sgiliau a gwasanaethau.

    Saif Rheinfelden ar echelin gogledd-de, yn agos at briffordd Basel-Frankfurt a’r N3 yn y Swistir. Mae’n ganolfan hwylus dros ben ar gyfer gwibdeithiau. Mae meysydd awyr Basel a Zurich o fewn cyrraedd hawdd mewn car hefyd. 

     

    Lleolir Rheinfelden wrth droed parth mynyddig Dinkelberg. Mae’n hawdd i’w gyrraedd  o ganol y ddinas drwy gerdded neu seiclo, er mwyn cerdded a dringo. Mae golygfeydd panoramig ysblennydd o Alpau’r Swistir i’w gweld o ben y bryn yn Herten (Hertener Berg) ar ddiwrnod braf. Mae’n werth manteisio ar y cyfle i flasu’r gwinoedd blasus a gynhyrchir ar y llethrau hyn hefyd, ac mae ogofâu Tschamber yn Karsau yn rhyfeddod naturiol gwerth eu gweld.

     

    Os oes gennych ddiddordeb mewn crwydro drwy fyd natur ar benwythnos, mae dewis eang i chi fan hyn. Mae rhwydwaith llwybrau cerdded ardal ddeheuol y Goedwig Ddu, mynyddoedd Jura y Swistir a’r Vosges yn Ffrainc lai nag awr o daith i ffwrdd mewn car.

     

    Mae afon Rhine a’r rhodfeydd ar hyd ei glannau, tref hanesyddol y Rheinfelden Swistirol a Chastell Beuggen yn boblogaidd iawn â’i thrigolion ar benwythnosau. Mae pobl Rheinfelden yn gwybod sut i ddathlu. Mae digonedd o adloniant i’w gael gydol y flwyddyn, o ŵyl stryd Trottoirfest a’i stondinau lliwgar i orymdaith Carnifal flynyddol Inselfest.

    Mae’r Ŵyl Gelf a gynhelir bob gwanwyn yn llwyfan i dalentau artistiaid lleol gyda’i harddangosfeydd a’i chyngherddau cerddoriaeth glasurol a chyfoes. Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan yr Adran Materion Diwylliannol a chlybiau a chymdeithasau lleol.

     

    Mae canol y dref yn llawn cyffro ar ddiwrnod marchnad, a ffermwyr yn gwerthu eu nwyddau o amgylch neuadd y dref. Mae rhywbeth at ddant pawb yma, o’r ddiod adnabyddus Schnapps i gaws gafr blasus a blodau ffres.

  •  Mouscron yng Ngwlad Belg 
     

    Daeth Mouscron yng Ngwlad Belg yn ddinas ar 1 Ionawr 1977. Mae ynddi bedwar comiwn: Mouscron, Dottignies, Herseaux a Luingne. 

     

    Er bod tipyn o hanes gan Mouscron, mae’n ddinas ifanc a dynamig, ac mae ganddi boblogaeth o tua 55,000 o bobl.

    Mae trigolion Mouscron yn groesawgar iawn, ac mae llawer o ymwelwyr yn dychwelyd dro ar ôl tro oherwydd y croeso cynnes.

     

    Oherwydd ei bod mor agos at y ffin gyda Ffrainc, mae Mouscron yn dref Ffrengig a Belgaidd mewn nifer o ffyrdd. Mae llawer o Ffrancwyr yn byw yno, ac mae gan sawl cwmni o Ffrainc ffatrïoedd yno. Mae nifer o drigolion y ddinas yn cymudo i Tourcoing a Roubaix i weithio.

     

    Cafwyd twf aruthrol yn y diwydiant tecstilau yn Mouscron ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, ond ers hynny, mae sawl dirwasgiad wedi effeithio ar y sector, ac mae wedi crebachu. Er hynny, mae Adran Fuddsoddi’r ddinas a’r Siambr Fasnach a Diwydiant wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i geisio gwella cyflwr yr economi drwy geisio diogelu’r diwydiannau presennol a denu buddsoddwyr newydd i’r ardal.

  •  Fécamp yn Ffrainc 

    Tref ar arfordir Albatre y Sianel, rhyw 40 cilomedr o Le Havre yw Fécamp, ac mae ganddi boblogaeth o ryw 22,000. Mae’n un o drefi pennaf rhanbarth Seine-Maritime yng nghanol cefn gwlad Haute-Falaises. 

     

    Mae Fécamp yn fwyaf adnabyddus am ei diwydiant morwrol. Yn Amgueddfa Terre-Neuvas, ceir hanes y morwyr a dreuliai misoedd lawer ar y môr, y gweithfeydd morwrol a’r adeiladau lle gwnaethpwyd llongau o’r enw Étoile, La Belle Poule a La Marite. Mae rhai pysgotwyr wrthi o hyd yn dal pysgod ffres fel cregyn bylchog, mecryll, penwaig a lledod chwithig. 

     

    Ymhlith enwogion Fécamp mae Dr Dufour, dyfeisiwr y dull o ddiheintio poteli bwydo. Mae arddangosfa hynod bwysig i’w weld yn Amgueddfa’r Celfyddydau a Phlentyndod am bensaer y dref, Camille Albert, a aeth ati i grynhoi hanes Fécamp yn ei gampwaith, y Palais Bénédictine, a manylu ar y cysylltiad rhyngddo a hanes y dref. 

     

    Mae’r celfyddydau a hanes yn bwysig iawn i’r dref, ac mae hi’n frith o henebion fel Abaty Saint-Trinité, Capel Notre-Dame-du-Salut, Plas Dugiaid Normandi a’r Palais Bénédictine, wrth gwrs, sy’n gartref i gyfrinachau proses gynhyrchu’r ddiod enwog o’r un enw. 

     

    Mae’r môr yn rhan bwysig iawn o Fécamp, a’i thraethau eang a’i phorthladd yng nghanol y dref. Yn ddiweddar, mae wedi dod yn boblogaidd iawn fel cyrchfan glan môr. Gallwch chi fwynhau’r gweithgareddau morwrol a gwyliau eraill gydol y flwyddyn wrth i chi ddarganfod swyn a chyfoeth celfyddydol y dref hyfryd hon. 

 

Mae gennym Gytundebau Cyfeillgarwch â:

  • Lurbarkas, Lithwania
  • Neumarkt, yr Eidal
  • Putnok, Hwngari 

 

Cymdeithas Gefeillio

Mae’r Cyngor yn rhoi grant i Gymdeithas Gefeillio Bro Morgannwg, a sefydlwyd i gydweithio’n glòs â sefydliadau ledled y Fro i hyrwyddo cysyniad gefeillio a chydweithio ar gynlluniau cyfnewid rhwng y Fro a’n gefeilldrefi.

Sefydlwyd Cymdeithas Gefeillio Bro Morgannwg, sy’n cynnwys swyddogion ac aelodau gwirfoddol, yn ffurfiol yn 2012 er mwyn hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol drwy reoli a hybu llwyddiant hir dymor gweithgareddau gefeillio. Gwaith y Gymdeithas yw cynorthwyo sefydliadau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon ac addysgiadol yn y Fro i feithrin cysylltiadau â grwpiau tebyg o ran eu diddordebau yng Ngefeilldrefi’r Fro.

 

Mae’r gymdeithas yn awyddus i wneud yr isod: 

 

  • Archwilio posibiliadau gwibdeithiau ar y cyd / help i drefnu digwyddiadau
  • Cynllunio digwyddiadau’n bell ymlaen llaw er mwyn annog ymweliadau gefeillio
  • Creu a chynnal rhestr o unigolion / grwpiau lleol a fyddai’n fodlon croesawu ymweliadau
  • Cefnogi grwpiau i drefnu digwyddiadau yn ystod ymweliadau â Bro Morgannwg

 

 

Bu’r Gymdeithas yn ymwneud â nifer o ddigwyddiadau ers ei sefydliad, yn cynnwys hwyluso ymweliad â Gŵyl Haf Estivoiles yn Fécamp gan Gôr Menywod y Barri, gweithio ar stondinau marchnad y Trottoirfest yn ystod Gŵyl Stryd Awst Rheinfelden a’r marchnadoedd Nadolig yn Fécamp. Yn ogystal, trefnwyd i fasnachwyr a pherfformwyr o bob gefeilldref arddangos eu cynnyrch yng Ngŵyl Bwyd a Diod Y Bont-faen.