Cost of Living Support Icon

Refferendwm

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Refferendwm ac Etholiad? - Mewn Refferendwm, gofynnir am eich barn ar gwestiwn penodol. Mewn Etholiad, gofynnir i chi ddewis/pleidleisio dros unigolyn neu blaid wleidyddol benodol.

Ballot Paper Example (EU Ref)

Oherwydd hyn, bydd papur pleidlais Refferendwm fel arfer yn dangos dewis rhwng ‘ie’ a ‘na’ yn hytrach na rhestru pleidiau/ymgeiswyr gwleidyddol.

 

Mi fyddwch chi’n dal i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu drwy’r post er mwyn rhoi eich barn.

 

Alla i bleidleisio mewn Refferendwm yn y DU?

Eligibility
 Gallwch os . . . Na allwch os . . .

Yw eich enw ar y Gofrestr Etholiadol cyn dyddiad cau ceisiadau newydd.

Nad yw eich enw ar y Gofrestr Etholiadol cyn dyddiad cau ceisiadau newydd.

Ydych yn ddinesydd Prydeinig

Ydych yn 18 oed neu’n iau.

Ydych yn 18 oed neu’n hŷn  

Ydych yn ddinesydd Prydeinig sy’n byw y tu hwnt i’r DU.

 

Sut galla i bleidleisio yn y Refferendwm?

Cyn y gallwch chi bleidleisio, mae’n rhaid i’ch enw fod ar y Gofrestr Etholiadol.

 

Os oes angen i chi gofrestru i fod ar y Gofrestr Etholiadol, ewch i’n tudalen we Sut i Gofrestru drwy glicio ar y botwm isod:

 

Sut i Gofrestru

 

Os hoffech wirio eich statws ar y gofrestr, cysylltwch â’n tudalen we Cysylltu â Ni drwy glicio ar y botwm isod i ddod o hyd i’n manylion cyswllt:

 

Cysylltu â ni

 

 

Pam ddylech chi bleidleisio ac a oes yn rhaid i chi?

Mae bwrw pleidlais yn fodd o gael dweud eich dweud; dim ond un cyfle sydd gennych i wneud hyn (ar Ddiwrnod y Bleidlais).

Mi allai fod gwybodaeth bellach ar y gwefannau canlynol, i’ch helpu i benderfynu ac am sut yr hoffech bleidleisio:

Mae bwrw pleidlais yn ddewisol bob amser. Eich penderfyniad chi yw p’un a ydych chi’n pleidleisio neu beidio.

  

Rydych i wedi tynnu yn ôl o’r gofrestr agored, a oes gen hawl gennych o hyd i bleidleisio yn y refferendwm?

Oes. Nid yw tynnu yn ôl o’r Gofrestr Agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

 

Mae’r Gofrestr Agored yn rhan o’r Gofrestr Etholiadol, ond nid yw’n cael ei defnyddio adeg cynnal refferendwm.

Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu at ddibenion marchnata yn unig.

Caiff eich enw a’ch cyfeiriad eu cynnwys ar y Gofrestr Agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt beidio â chael eu cynnwys.  

 

 

 

 

Cysylltu â ni