Cost of Living Support Icon

Gorsafoedd Pleidleisio

Mae gorsaf bleidleisio yn adeilad neu’n gaban symudol y mae pobl yn mynd iddo ar ddiwrnod etholiad i bleidleisio.

 

Gosodir bythau pleidleisio a bocs pleidleisio mewn ystafell yn yr adeilad.Bydd Swyddog Llywyddu a Chlerc Pleidleisio yn aros yn yr orsaf drwy'r dydd i'ch helpu i reoli’r orsaf bleidleisio.

 

Noder: Ni fyddwch yn gallu pleidleisio oni bai eich bod yn gwneud cais i gael eich ychwanegu at y Gofrestr Etholiadol cyn y dyddiad cau.Caiff hyn ei gyhoeddi cyn diwrnod yr etholiad

  

Sut mae gorsafoedd pleidleisio yn cael eu dewis

Mae Bro Morgannwg yn cael ei rhannu'n wahanol ardaloedd ar gyfer diwrnod yr etholiad.  Dosbarthiadau etholiadol yw’r term am y rhain.


Mae gan y rhan fwyaf o ddosbarthiadau pleidleisio eu gorsaf bleidleisio eu hunain.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ddefnyddio'r orsaf bleidleisio sy'n cael ei dynodi ar gyfer y dosbarth etholiadol lle mae eich tŷ. 

 

Mae 101 gorsaf bleidleisio trwy Fro Morgannwg yn eich galluogi i bleidleisio yno’n bersonol.
Gallwch hefyd bleidleisio trwy’r dulliau canlynol:

 

  • Post

  • Dirprwy (rhywun arall yn pleidleisio ar eich rhan) 

 

Byddwn yn gwerthuso’r gorsafoedd pleidleisio bob 5 mlynedd. Gall unrhyw adeilad mewn dosbarth etholiadol gael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio, ond mae’n rhaid iddo fod yn:

  • hygyrch i bawb

  • diogel ac mewn cyflwr da

  • hawdd i ddod o hyd iddo.

 

Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio:

 

 

  

Ffyrdd Eraill o Bleidleisio

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych ar y gorsafoedd pleidleisio, y dosbarthiadau a’r lleoedd bob 5 mlynedd i sicrhau bod gan bawb gyfleusterau rhesymol ar gyfer pleidleisio sy'n hygyrch.

 

Ffurflenni Cais a Ffurflenni Ildio Hawl

 

  

 

Cysylltu â ni