Cost of Living Support Icon

Myfyrwyr

Lle bynnag byddwch chi ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch chi fynegi eich barn

Chi yw dyfodol gwleidyddiaeth ac mae eich barn yn bwysig. Gall pobl ifanc wneud gwahaniaeth. Ar hyn o bryd gallwch wneud cais i gael eich cofrestru o 14 oed.

 

Gwyliwch ein fideo newydd i bobl ifanc a’r fideo #TAKEPOWER isod.

 

 

 

Gallwch gofrestru nawr

Nid ydych chi'n cael pleidleisio hyd nes y byddwch yn 16 oed ond gallwch fod yn barod.

                

Cofrestru Ar-lein Deddf Senedd ac Etholiad Cymru 2020

 

Ar hyn o bryd cewch wneud cais ar-lein pan drwoch yn 14 oed. Byddwn yn cadw eich cais ar ein system ac yn cysylltu â chi’n agosach at eich pen-blwydd yn 16 oed. Weithiau bydd angen i chi lenwi eich cais eto yn dibynnu ar bryd gwnewch gais yn gyntaf, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi ynglŷn â hynny. Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon eich cerdyn pleidleisio atoch pan ddisgwylir i etholiad ddigwydd. 

 

Cofiwch ddweud wrthym os byddwch yn symud tŷ cyn i chi gael eich pen-blwydd yn 16 oed.

Llenwch y ffurflen ar-lein eto.

 

Gallwch gofrestru a phleidleisio  

Mae'n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru cyn i chi gael pleidleisio.

 

Os gwnaethoch gais i gael eich ychwanegu pan oeddech yn 14 neu 15 oed byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus neu  a oes angen i chi wneud cais eto.

 

Os na wnaethoch gais yna mae croeso i chi gofrestru. Sylwch fod angen i chi wneud cais eto bob tro y byddwch yn symud  cyfeiriad.

 

Cofrestru Ar-lein   Sut i Gofrestru   

 

Ydych chi yn y brifysgol?

Os ydych yn a'ch bod yn byw oddi cartref, yna mae gennych ddau opsiwn:

  1. Gallwch wneud cais am bleidlais drwy'r post sy'n golygu y bydd eich pecyn pleidleisio trwy’r post yn cael eianfon i'ch cyfeiriad yn ystod y tymor. I wneud cais am bleidlais drwy'r post mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Gais drwy'r Post. Cliciwch y botwm isod i
    fynd at ein tudalen Ffurflenni Cais a Ffurflenni Ildio Hawl:


    Ffurflenni Cais a Ffurflenni Ildio Hawl

  2. Gallwch gofrestru gyda'r awdurdod lleol lle y mae’ch cartref a’ch prifysgol ond dim ond unwaith yn unig y cewch bleidleisio mewn etholiad cyffredinol ac etholiad Ewropeaidd.

    Os hoffech dderbyn cais trwy’r post
    cysylltwch â’r swyddfa yn yr ardal yr hoffech gofrestru eich pleidlais ynddi
    cyn i’r Etholiad ddigwydd.


    Cofrestru Ar-lein

    Byddant wedyn yn anfon cerdyn pleidleisio atoch chi yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor fel y cewch bleidleisio.

        Os ydych yn yn y Brifysgol ond yn dal i fyw gartref yna gallwch       gofrestru a phleidleisio fel arfer gan roi eich cyfeiriad cartref.