Bywgraffiad
Cwblhaodd Janice Charles ei haddysg yng Ngholeg y Barri, ac aeth yn ei blaen i weithio i BP Chemicals cyn gadael y Barri i weithio yng Nghanada a de ddwyrain Asia. Gweithiodd Janice mewn Canolfan Gofal Dwys yng Nghanada, gan gadarnhau ei hymrwymiad i gyfrifoldeb ac ymroddiad i eraill a dyfalbarhad.
Yn Brunei, roedd hi'n ysgrifennu ar gyfer y Borneo Bulletin, y cylchgrawn a roddwyd i deithwyr ar Brunei Airlines, ac roedd ganddi sioe radio boblogaidd ar gyfer British Forces Broadcasting. Pan ddychwelodd i’r Barri, lle sy’n agos iawn at ei chalon, dechreuodd ei busnes ei hun yng Nghaerdydd. Yn driw i’w hegwyddorion, camodd Janice i ffwrdd o’r busnes i ganolbwyntio’n llwyr ar ei rôl newydd gyda Chyngor Bro Morgannwg.
Yn ystod ei thair blynedd ar ddeg o wasanaeth, mae Janice wedi bod yn Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Adnoddau Dynol ac fe gyflwynodd hefyd rôl Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rôl a gyflawnwyd ganddi hi.
Mae’n frwd ei chefnogaeth i bobl ifanc ac mae wedi rhoi o’i hamser i fod yn gyfrifol am grwpiau Rainbow a Brownies, Clwb Ieuenctid a Grŵp Theatr. Pan ddaeth cais gan y Weinyddiaeth Amddiffyn iddi hyrwyddo’r Lluoedd Arfog mewn gwledydd eraill, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r problemau a all wynebu milwyr a chyn-filwyr a’u teuluoedd, a’r cymorth sydd ar gael iddynt, neidiodd Janice at y cyfle. Mae’n aelod brwd o Bwyllgor y Cyn-filwyr a Phensiynau, ac yn un o ymddiriedolwyr y Fyddin Diriogaethol a Chymdeithas y Cadetiaid.
Mae hefyd wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 14 o flynyddoedd, ac yn gwirfoddoli ar ran nifer o elusennau lleol. Mae'n aelod gweithgar o'r Soroptomists yn y Barri a'r cylch, gan gefnogi'n benodol Ward Sam Davies yn Ysbyty'r Barri. Yn ôl Janice, ‘Fy nod yw cyflawni’r rôl hon, a chynrychioli’r awdurdod a phobl Bro Morgannwg, gydag urddas, gwaith caled, integriti, ymrwymiad a chydymdeimlad’.
Mae’r Maer hefyd yn falch iawn o fod yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar ran Cyngor Bro Morgannwg.