Top

Brig

 

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod  Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser       DYDD MERCHER, 28 MEHEFIN, 2017 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                    SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion:

             (i)        y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2017;

             (ii)       y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 24 Mai 2017.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio –

5.         Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Bro Morgannwg 2011-2026, Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –  

6.         Defnydd o Rymoedd Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.

[Gweld Cofnod]

7.         Fforwm Ymgynghori ar y Cyd – Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Swyddog Monitro –

8.         Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor / y Pwerau a Ddirprwyir i Swyddogion.

[Gweld Cofnod]

 

9.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Cymeradwyaeth y Cyngor ar yr Offeryn Llywodraethu ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig Sant Helen (Proses Gyfreithiol ar gyfer Enwi’r Ysgol).

[Gweld Cofnod]

24 Ebrill, 2017

C3549

 

10.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

11.      Cwestiynau gan y cyhoedd –    

            Dau gwestiwn wedi'u derbyn.

[Gweld Cofnod]

 

12.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

22 Mehefin, 2017

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Wyatt, Ffôn: Y Barri (01446) 709408

E-bost: JRWyatt@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

 

Noder:  Gallai’r cyfarfod hwn gael ei ffilmio i’w ddarlledu’n fyw neu fel recordiad ar wefan y Cyngor Sir – ar ddechrau’r cyfarfod bydd y Maer yn cadarnhau a yw’r cyfarfod cyfan neu ran ohono’n cael ei ffilmio. Gallai’r delweddau a’r recordiadau sain gael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi gan y Cyngor.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa.  Rhif Ffôn (01446) 709408 neu drwy e-bost – jrwyatt@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Rhannu Hoffi