Cost of Living Support Icon

 

 

 

GOFYNNIR I AELODAU’R CYHOEDD SY’N DOD I’R CYFARFOD HWN GOFIO Y DYLENT DDEFNYDDIO’R FYNEDFA GEFN AR Y LLAWR GWAELOD ISAF WRTH ADAEL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod  Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser       DYDD MERCHER, 13 RHAGFYR, 2017 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                    SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017.

[Gweld Cofnod]

           

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Rheolwr Gyfarwyddwr –  

5.         Defnydd o Rymoedd Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Swyddog Monitro –

6.         Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor / y Pwerau a Ddirprwyir i Swyddogion.

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeirnod

7.         Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/19 Panel Taliadau Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru (IRPW) – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 18 Hydref, 2017.

[Gweld Cofnod]

 

8.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.

[Gweld Cofnod]

4 Rhagfyr, 2017

C160

(b)       Gwaith Arfaethedig i Fireinio Cynllun Arfarnu’r Prif Swyddog.

[Gweld Cofnod]

4 Rhagfyr, 2017

C163

 

O.N.  Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 8(a) a (b) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agendâu’r Cabinet ar gyfer 31 Gorffennaf a 4 Rhagfyr, 2017. 

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa’r Cabinet yn ôl y gofyn**.

 

9.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Cynllun Gwella Five Mile Road yr A4226 – Rhoi’r Contract ar gyfer y Prif   Waith.

[Gweld Cofnod]

9 Hydref, 2017

C102

(b)       Grant LiDW2 / Adnewyddu Rhwydwaith Ardal Eang 2017.

[Gweld Cofnod]

23 Hydref, 2017

C111

(c)       Teithio Llesol – Canlyniadau’r Ymgynghoriad ar y Mapiau Rhwydwaith   Integredig a Diweddariad i Fapiau Llwybrau Presennol 2017.

[Gweld Cofnod]

6 Tachwedd, 2017

C127

 

10.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

11.      Cwestiynau gan y cyhoedd –    

           Dim cwestiynau wedi eu derbyn.

 

12.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

7 Rhagfyr, 2017

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Wyatt, Ffôn: Y Barri (01446) 709408

E-bost: JRWyatt@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

 

Noder:  Gallai’r cyfarfod hwn gael ei ffilmio i’w ddarlledu’n fyw neu fel recordiad ar wefan y Cyngor Sir – ar ddechrau’r cyfarfod bydd y Maer yn cadarnhau a yw’r cyfarfod cyfan neu ran ohono’n cael ei ffilmio. Gallai’r delweddau a’r recordiadau sain gael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi gan y Cyngor.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa.  Rhif Ffôn (01446) 709408 neu drwy e-bost – jrwyatt@valeofglamorgan.gov.uk