Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD MERCHER, 28 CHWEFROR 2018 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG
GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD
GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.
Agenda
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed rhestr yr aelodau.
(b) Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
3. Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2017.
[Gweld Cofnod]
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
[Gweld Cofnod]
5. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol (a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Bailey a Cave) –
“Mae Cyngor Bro Morgannwg yn:
- Mynegi pryder ynglŷn â phenderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i roi trwydded i Biomass UK No 2 Ltd er mwyn gweithredu ei gyfleuster nwyeiddio yn y Barri;
- Dyfaru penderfyniad CNC i beidio â chynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol cyn gwneud y penderfyniad;
- Galw ar CNC i sicrhau bod allyriadau o’r cyfleuster yn cael eu monitro’n annibynnol ac yn drylwyr.”
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –
6. Enwebu’r Darpar Faer a’r Darpar Ddirprwy Faer ar gyfer Blwyddyn Cyngor 2018/19.
[Gweld Cofnod]
7. Defnydd o Rymoedd Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.
[Gweld Cofnod]
8. Ymgynghoriad â Threthdalwyr Annomestig.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad Swyddog Monitro –
9. Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor : y Pwerau a Ddirprwyir i Swyddogion.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai –
10. Cynllun Busnes Tai.
[Gweld Cofnod]
11. Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor
O.N. Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 11(a) a (f) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agenda’r Cabinet ar gyfer 5 a 19 Chwefror, 2018. Fodd bynnag, i gynorthwyo Aelodau i ystyried y cynigion ar gyfer y gyllideb, mae copïau pellach o’r adroddiadau mewn perthynas â 11(c) i (e) wedi’u cynnwys yn yr agenda.
**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa’r Cabinet yn ôl y gofyn**.
12. Gosod Treth Gyngor 2018/19.
[Gweld Cofnod]
13. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.
Urgent Decision References
Eitem
|
Dyddiad y Cyfarfod
|
Rhif Cofnod.
|
(a) Grant Trafnidiaeth 2017/18 a 2018/19.
[Gweld Cofnod]
|
22 Ionawr, 2018
|
C206
|
(b) Strategaeth Lleihau Ynni Goleuadau Stryd – Cais Salix am Arian Grant.
[Gweld Cofnod]
|
22 Ionawr, 2018
|
C207
|
(c) Strategaeth Rheoli Gwastraff Diwygiedig: Trefniadau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu y Dyfodol.
[Gweld Cofnod]
|
19 Chwefror, 2018
|
C235
|
(d) Cynllun Rheoli Risgiau Llifogydd Dalgylch Coldbrook – Diweddariad.
[Gweld Cofnod]
|
19 Chwefror, 2018
|
C242
|
14. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
[Gweld Cofnod]
15. Cwestiynau gan y cyhoedd –
Derbyniwyd wyth cwestiwn ac maent ynghlwm.
[Gweld Cofnod]
16. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
17. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
22 Chwefror, 2018
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Wyatt, Ffôn: Y Barri (01446) 709408
E-bost: JRWyatt@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder: Gallai’r cyfarfod hwn gael ei ffilmio i’w ddarlledu’n fyw neu fel recordiad ar wefan y Cyngor Sir – ar ddechrau’r cyfarfod bydd y Maer yn cadarnhau a yw’r cyfarfod cyfan neu ran ohono’n cael ei ffilmio. Gallai’r delweddau a’r recordiadau sain gael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi gan y Cyngor.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. Rhif Ffôn (01446) 709408 neu drwy e-bost – jrwyatt@valeofglamorgan.gov.uk