Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD MERCHER, 18 GORFFENNAF, 2018 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG
GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.
GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.
Agenda
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed rhestr yr aelodau.
(b) Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
3. Cymeradwyo cofnodion:
(i) Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2018;
(ii) Y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 9 Mai 2018.
[Gweld Cofnod]
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr -
5. Ailstrwythuro Uwch Reolwyr - Adnoddau Dynol a Pherfformiad a Datblygiad.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad Swyddog Monitro –
6. Y Weithdrefn Datrys Anghydfod Lleol Diwygiedig.
[Gweld Cofnod]
Cyfeirnod –
7. Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - Cynnig i Sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu - Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd Ac Adfywio: 12 Gorffennaf, 2018 (Bydd y cyfeiriad yn cael ei anfon ymlaen at yr Aelodau pan fydd ar gael).
[Gweld Cofnod]
8. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.
9. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
[Gweld Cofnod]
10. Cwestiynau gan y cyhoedd –
Derbyniwyd 32 cwestiynau ac maent ynghlwm.
[Gweld Cofnod]
11. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
12. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
12 Gorffennaf, 2018
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413
E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu. Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa.
Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy
e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk