Cost of Living Support Icon

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod  Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser       DYDD MERCHER, 12 RHAGFYR, 2018 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                    SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol (a gyflwynwyd gan  y Cynghorwyr Dr. I.J. Johnson a S.T. Wiliam) –

 

“Bod Cyngor y Fro yn dod yn Gyflogwr Cyflog Byw wedi'i achredu'n ffurfiol gyda'r Sefydliad Cyflog Byw, ac yn ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw Go Iawn i'r holl gyflogeion uniongyrchol, yn ogystal â datblygu polisïau i sicrhau bod y Cyflog Byw Go Iawn yn cael ei dalu i staff a gyflogir yn anuniongyrchol.”

[Gweld Cofnod]

 

6.         Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol (a gyflwynwyd gan  y Cynghorydd Mrs. S. D. Perkes) –

 

“Mae'r Cyngor hwn yn credu y dylid gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon, dim ond gan fridiwr neu sefydliad achub cydnabyddedig y dylai cŵn bach fod ar gael i’w prynu.  Mae'r Cyngor hwn, felly, yn cytuno y dylai'r Arweinydd neu'r Rheolwr Gyfarwyddwr ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i weithredu, drwy ddeddfwriaeth os yn bosibl, a rhoi gwaharddiad o'r fath ar waith, fel mater brys.”

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

7.         Y Weithdrefn Datrys Anghydfod Lleol Diwygiedig.

[Gweld Cofnod]

 

8.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor

References

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)        Strwythur Tâl Statws Sengl Cydgyngor   Cenedlaethol newydd 2019/20

[Gweld Cofnod]

19 Tachwedd, 2018

C483

(b)      Materion Rheoli Uwch -  Is-adran Perfformiad a Datblygu ac Adnoddau   Dynol a Datblygu Sefydliadol

[Gweld Cofnod]

19 Tachwedd, 2018

C484

(c)      Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor

[Gweld Cofnod]

 

3 Rhagfyr, 2018

C496

 

O.N.  Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 8(a) a (c) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agenda’r Cabinet ar gyfer 19 Tachwedd a 3 Rhagfyr, 2018. 

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa’r Cabinet yn ôl y gofyn**.

 

9.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

References

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)      Darparu Cynhyrchion Hylendid Am Ddim yn Ysgolion Bro Morgannwg

[Gweld Cofnod]

19 Tachwedd, 2018

C492

 

10.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

11.      Cwestiynau gan y Cyhoedd –    

           Derbyniwyd 16 cwestiynau ac maent ynghlwm.

[Gweld Cofnod]

 

12.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

6 Rhagfyr, 2018

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.   Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd.  Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. 

Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy

e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk