Top

Brig

Craffu

Swyddogaeth ein Pwyllgor Craffu yw edrych ar y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ym Mro Morgannwg.

 

Mae hyn yn golygu gwrando ar bobl leol, herio penderfyniadau, dylanwadu ar y broses o’u gwneud  a, lle bo angen, ceisio ei gwella er budd y cyhoedd.

 

Mae craffu’n rhan sylfaenol o strwythur gwleidyddol y Cyngor, ac mae’n chware rhan bwysig wrth sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cyflenwi’n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn y trigolion a phobl sy’n gweithio ym Mro Morgannwg neu’n ymweld â hi.

 

Mae’r Pwyllgor Craffu yn cynnwys Cynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet. Mae’r Pwyllgorau hyn yn medru dylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan y Cabinet, a sicrhau bod safbwyntiau ac anghenion y gymuned yn cael eu hystyried yn llawn.

 

 

  • Beth yw craffu?

    Roedd yn ofyniad gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i awdurdodau lleol ailwampio trefniadau gwneud pederfyniadau drwy adolygu’r gweithdrefnau cyfredol neu gyflwyno adolygiad iddynt. Bwriad y ddeddfwriaeth oedd adolygu a moderneiddio’r ffordd mae awdurdodau lleol yn gweithredu, tynhau’r broses o wneud penderfyniadau, sicrhau bod aelodau etholedig yn fwy gweladwy ac atebol, a gwella gwasanaethau.  

     

    Gweithredodd Cyngor Bro Morgannwg system Arweinydd a Chabinet a sefydlwyd Pwyllgorau Craffu i gynghori ar lunio polisi a dwyn y Gweithgor (y Cabinet) i gyfrif.

  • Ymhle mae Trosolwg a Chraffu yn sefyll?

    Mae pedair elfen i lywodraethiad a rheolaeth Cyngor Bro Morgannwg:


    1. Y Gweithgor, sy’n cynnwys yr Arweinydd a chwe Aelod Deiliad Portffolio Gweithredol sy’n gyfrifol ar y cyd am benderfyniadau gweithredol y Cyngor ac sy’n ffurfio Cabinet y Cyngor.

     

    2. Trosolwg a Chraffu, a gyflawnir gan Aelodau Anweithredol o’r Cyngor ac sy’n cael ei reoli drwy’r Pwyllgorau Craffu.

     

    3. Pwyllgorau Rheoleiddio sy’n cynnwys Trwyddedu, Apeliadau a Phenodiadau.

     

    4. Rheolaeth bob dydd dros y Cyngor. Y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am hyn, a nhw yw aelodau Tîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor.

     

    Mae’n ddyletswydd ar Aelodau nad sy’n rhan o’r Gweithgor gadw trosolwg ar fusnes y Cyngor a chraffu ar feysydd o ddiddordeb penodol neu o bryder. Mae’n rhan o’u gwaith nhw hefyd i ddwyn y Gweithgor i gyfrif a chynorthwyo wrth ddatblygu ac adolygu polisi’r Cyngor. Mae’r orchwyl ddiwethaf hon yn golygu manylu ar feysydd cyflenwi gwasanaethau neu faterion sy’n peri pryder yn gyffredinol, a chyflwyno argymhellion i’r Gweithgor neu i’r Cyngor cyfan. Gall hyn gynnwys awgrymu sut y gellir gwella’r materion, neu argymell mabwysiadu gweithdrefnau cwbl wahanol.
     
    Mae’r broses Graffu yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cyngor archwilio’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, i ofyn cwestiynau am y modd y gwnaethpwyd penderfyniadau, i ystyried a oes modd gwella dulliau darparu’r gwasanaeth, a chyflwyno argymhellion yn unol â hyn.

  • Sut galla i ddod yn rhan o'r broses Graffu?
    Mae’r broses Graffu’n rhoi cyfle i’r cyhoedd i fod yn rhan o weithgareddau’r Cyngor. Mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus mewn cyfarfodydd pwyllgorau Craffu. Mae Canllaw i Siarad Cyhoeddus yn egluro’r broses a sut i gofrestru i siarad.

     

    I gofrestru i siarad mewn cyfarfod pwyllgor craffu, llenwch y ffurflen berthnasol isod:

     

    Siarad cyhoeddus - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

    Siarad cyhoeddus - Yr Amgylchedd ac Adfywio

    Siarad cyhoeddus - Cartrefi a Chymunedau Diogel

    Siarad cyhoeddus - Dysgu a Diwylliant

    Siarad cyhoeddus - Byw yn Iach a Gofal Cymdeithasol

     

    Mae gennych hawl i wneud cais i Bwyllgor Craffu ystyried maes gwasanaeth neu fater penodol, yn enwedig os gallai trafodaeth olygu y gellid gwella’r sefyllfa i bobl leol. Os hoffech chi gyflwyno cais, llenwch y ffurflen (Saesneg) Scrutiny Review Topic Suggestion neu gysylltu ag Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu.

     

    Ni fydd y Pwyllgorau Craffu’n medru ystyried trafod unrhyw fater sydd eisoes yn cael ei adolygu neu ei gloriannu’n fewnol gan y Cyngor, neu’n cael ei adolygu’n allanol gan gorff allanol ar y pryd. 
     
    Mae’n bwysig hefyd i chi fod yn ymwybodol fod materion sy’n ymwneud ag achosion penodol sy’n mynd drwy Broses Gwyno’n Cyngor, a materion disgyblu/achwyniad, y tu hwnt i gwmpas y Pwyllgorau Craffu.
     
    Petai’r Pwyllgor yn cytuno i ystyried y mater, fe’ch hysbysir o drefn y broses a dyddiad y cyfarfod. 
     
    Pryd bynnag mae’n bosibl, dylai aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno cyflwyno achos neu siarad â Phwyllgor Craffu ar unrhyw adeg gysylltu ag Adran Gwasanaethau Pwyllgor a Chraffu neu’r Cadeirydd perthnasol cyn y cyfarfod i drafod y mater. 
     
    Er mwyn gwella’r modd y mae adran Craffu yn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, mae’r 
    Cyngor wedi mabwysiadu egwyddorion (uniaith Saesneg) Participation Cymru, 10 Principles for Public Engagement.

  • Gaf i fynd i gyfarfod Craffu, ac ymhle maent yn digwydd?

    Mae’r holl gyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, ac eithrio pan fydd materion cyfrinachol yn cael eu trafod.  


    Cynhelir cyfarfodydd yn y Swyddfeydd Dinesig fel arfer, ond weithiau cânt eu cynnal mewn ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol i hwyluso ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau ac aelodau o’r cyhoedd.

Ga 

Dyddiadau ac amserau cyfarfodydd

Cynhelir cyfarfodydd unwaith bob rhyw bedair wythnos ac maent yn dechrau am 6.00pm fel arfer. 
Ceir manylion y cyfarfodydd ar wefan y Cyngor.

 

Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu Llawlyfr Craffu (sy’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru ar hyn o bryd), a chyfres o Ganllawiau Craffu i gynorthwyo aelodau, swyddogion a phartïon eraill sydd â diddordeb ganddynt. 

Council-chamber

Bod yn rhan o Gyfarfodydd Craffu

Mae’r broses graffu’n rhoi cyfle i’r cyhoedd ddod yn rhan o weithgareddau’r 
Cyngor.  

Mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus mewn cyfarfodydd pwyllgorau Craffu. Mae’r canllaw 
isod yn egluro’r broses a sut i gofrestru i siarad.

 

I gofrestru i siarad mewn cyfarfod pwyllgor craffu, llenwch y ffurflen isod, a fydd yn fyw yn ystod y ffenestr berthnasol:

 

 

 

Rhannu Hoffi