Cost of Living Support Icon

Cynlluniau Cronfa Strwythurol Ewropeaidd

Bu Bro Morgannwg yn cymhwyso i dderbyn Ariannu Strwythurol Ewropeaidd yn unol â thelerau Cynllun Cystadlu a Chyflogi Rhanbarthol 2007-2013 

Nodwch: mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys ar gyfer yr Amcan ‘Cydgyfeiriad’, sef olynydd Cynllun Amcan Un gynt.

 

Mae’r Cynllun Cystadlu a Chyflogi Rhanbarthol ar gyfer Dwyrain Cymru yn cynnwys Awdurdodau Unedol: Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Bro Morgannwg a Wrecsam.

 

Bu oddeutu £97 miliwn o arian Ewropeaidd ar gael i Ddwyrain Cymru rhwng 2007-2013 yn unol â thelerau’r Cynllun Cystadlu, fel y’i gelwir erbyn hyn. Datblygwyd blaenoriaethau’r arian i hwyluso gwireddu’r weledigaeth o greu rhanbarth ffyniannus, cynhyrchiol a chystadleuol ac ynddo weithlu medrus ac arloesol a allai gystadlu ar lefel ryngwladol.

 

Datblygwyd dau Gynllun Gweithredu ar gyfer Dwyrain Cymru; y naill ar gyfer Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop a’r llall ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Mae pedair blaenoriaeth ar gyfer Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop:

  •  Blaenoriaeth un - Gwybodaeth ac Arloesi i hybu Twf

    Hyrwyddo economi o werth uchel, trwy wella defnydd gwybodaeth ac arloesi i dyfu, gan ganolbwyntio ar gynyddu buddsoddiad cwmnïau mewn ymchwil a datblygu.

     

    Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:

    • cynorthwyo cwmnïau i fanteisio ar ymchwil, gan ddatblygu gwasanaethau a phrosesau newydd
    • hyfforddi rheolwyr i ddeall sut i arloesi i fanteisio ar ymchwil
    • cymorth i hyrwyddo’r gwasanaethau sydd wedi cael eu datblygu yn sgil yr ymchwil
    • cymorth i sicrhau cydweithredu llwyddiannus rhwng sefydliadau addysgiadol a chwmnïau ym maes ymchwil
    • arwain cwmnïau at ffynonellau ariannol - benthyciadau, cymhorthdal ac yn y blaen
    • hyrwyddo’r defnydd gorau o’r dechnoleg gwybodaeth ddiweddaraf.

     

     

  •  Blaenoriaeth dau – Cystadleugarwch a Thwf
    Hyrwyddo economi o werth uchel, trwy gynorthwyo tyfiant busnesau presennol a newydd, yn enwedig rhai sydd â’r gallu i ehangu’n gyflym.

     

    Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:

    • cynorthwyo busnesau bach a chanolig, a mentrau cymdeithasol, i brynu gwasanaethau cefnogi busnes yn ddoeth o’r farchnad rydd
    • os nad yw’r gwasanaethau ar gael ar y farchnad rydd, sefydlu’r ddarpariaeth a’i thargedu at y cwmniau fydd yn elwa ohoni
    • dod o hyd i bobl â’r gallu i fod yn fentergarwyr ond sydd mewn sefyllfaoedd anfanteisiol – er enghraifft, mamau sengl – a sicrhau fod y gwasanaethau ar gael iddyn nhw
    • canolbwyntio ar fentrau cymdeithasol – marchnata, ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth, ymarfer gorau, ymchwil i gyfleoedd newydd, cysylltu â’r sector breifat ac yn y blaen
    • darparu arian buddsoddiad cyhoeddus/preifat, o fewn cyd-destun cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad
    • darparu cymorth i oresgyn y rhwystrau, er enghraifft costau dechrau busnes.

     

  •  Blaenoriaeth tri – Mynd i'r afael â Newid Hinsawdd

    Cefnogi datblygu ynni glan ac adnewyddol, annog arbed ynni, annog arbed adnoddau a rheoli peryglon a chyfyngiadau amgylcheddol.

     

    Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:

    • cefnogi busnesau bach iawn, bach a chanolog a mentrau cymdeithasol i ddatblygu technoleg ynni adnewyddol ac ynni effeithlon ac i annog mabwysiadu technoleg creu ynni
    • annog cwmnïau i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon drwy ddatblygu technoleg effeithlon neu ddulliau cynhyrchu effeithlon
    • rhannu ymarfer gorau gyda’r cyhoedd – er enghraifft ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd
    • rhannu ymarfer da trwy rwydweithiau cyfathrebu a sectorau eraill
    • annog cwmnïau i ddefnyddio llai o adnoddau a thrwy hynny mynd i’r afael â newid hinsawdd ac arbed arian a hyd yn oed ennill arian drwy, er enghraifft, gwerthu trydan a gynhyrchwyd gan baneli solar.

     

  •  Blaenoriaeth pedwar – Adfywio er mwyn Twf
    Cefnogaeth, wedi ei hanelu’n ofalus a chywir, ar gyfer adfywio cymunedau difreintiedig.  Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau cydweithio effeithiol rhwng pawb perthnasol.

     

    Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:

    • gwella tirlun, a mynediad i, bentrefi a threfi – er enghraifft adfywio llefydd cyhoeddus a mynd i’r afael â llygredd lleol.  O dan amgylchiadau neilltuol, mae’n bosib y bydd arian ar gael i dalu am gyfleusterau parcio a ffyrdd os ydyn nhw’n hollbwysig i lwyddiant y datblygiad
    • datblygu safleoedd bach, neu datblygu’r cyfleusterau ar gyfer datblygu safleoedd bach
    • sicrhau bod pob safle’n cydfynd â safonau amgylcheddol BREEAM ac anghenion pobl anabl
    • sicrhau cyfraniad y gymuned leol drwy darparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer pobl leol er mwyn sicrhau fod pawb yn rhan o’r gwaith o adfywio’r ardal.

     

 

Mae dwy flaenoriaeth ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop:

  •  Blaenoriaeth un - Cynyddu Cyflogaeth a Mynd i’r Afael â Diffyg Gweithgarwch Economaidd
    Gweithredu cydweithredol i frwydro yn erbyn y ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag chwilio am waith.  Mae hyn yn sicrhau fod pobl yn rhan o’r gymuned drwy gyfrannu at y gymuned.

     

    Dyma rai o’r gweithgareddau fyddai efallai’n derbyn ein cymorth:

    • llinynnau mesur y farchnad lafur - cefnogaeth unigol wrth chwilio am swydd, gwybodaeth am gyfleoedd addysg a hyfforddiant, cymorth ariannol ac yn y blaen
    • profiad gwaith – gan gynnwys gwaith gwirfoddol
    • ffyrdd arloesol o ddod o hyd i waith sefydlog i’r bobl leiaf breintiedig
    • hyfforddiant penodol mewn sectorau ble mae gweithwyr galluog yn brin
    • darparu adnoddau i gyrraedd y bobl dan fwyaf o anfantais, er enghraifft pobl anabl
    • mwy o gymorth i bobl â chyfrifoldebau, er enghraifft darpariaeth gofal plant
    • annog cyflogwyr i ysgwyddo eu cyfrifoldebau, yn enwedig profiad gwaith
    • mwy o gydweithio rhwng cwmnïau a’r sector iechyd, gan gynnwys cydweithio gyda meddygon teulu a darparwyr gofal eraill
    • dod o hyd i ffyrdd blaengar i gefnogi gweithwyr presennol a gweithwyr newydd i ymdopi â thrafferthion iechyd
    • cefnogaeth i weithwyr newydd sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir wrth iddyn nhw ddod i arfer â gofynion bod mewn swydd
    • addasu trefniadau gwaith presennol a datblygu trefniadau gwaith newydd i gwrdd â gofynion newid hinsawdd.

     

     

    Enghreifftiau o’r math o weithgareddau a fyddai’n cael eu hystyried am arian, oherwydd eu bod yn hyrwyddo cydweithredu effeithlon rhwng pawb perthnasol:

    • costau cyfalaf i ddiweddaru cyfleusterau fydd yn cydymffurfio’n uniongyrchol â gofynion y gronfa gymdeithasol – er enghraifft, tŷ bach ar gyfer pobl anabl
    • costau creu cynlluniau i gynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith.

     

  •  Blaenoriaeth dau - Cynyddu Lefelau Sgiliau a Hyblygrwydd y Gweithlu
    Creu gweithlu â llawer o alluoedd, a’r galluoedd hynny’n rhai hyblyg sy’n medru cael eu haddasu wrth i ofynion cyflogaeth newid.  Canolbwyntio ar alluoedd gweithwyr a rheolwyr mentrau bach, a gwella’r trefniadau i ragweld newidiadau ac ymateb i’r newidiadau hynny.

     

    Mi fydd yr arian yn cael ei wario ar godi safon galluoedd sylfaenol y gweithwyr.  Y mwyafrif fydd gweithwyr o dan Safon Gallu 2, gan ganolbwyntio ar y rhai heb alluoedd sylfaenol rhifo, darllen a Thechnoleg Gwybodaeth.

     

    Mi fydd yna sylw arbennig i:

    • menywod sy’n gweithio rhan-amser
    • gweithwyr hŷn
    • pobl anabl
    • pobl o gymunedau BME.

     

    Mi fydd yna gefnogaeth hefyd i hyfforddi rheolwyr ac arweinwyr cwmnïau o dan bum deg o weithwyr i gyrraedd safonau galluoedd canolog ac uwch.  Yn olaf, mi fydd yna sylw yn cael ei roi i gynlluniau sy’n rhagweld anghenion hyfforddiant ac yn darparu ar eu cyfer.

     

    Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:

    • gwella gallu darllen, ysgrifennu a chyfrif
    • darparu gweithwyr heb gymwysterau gyda’r hyfforddiant ar gyfer cymwysterau hyd at Safon 2, er enghraifft Technoleg Gwybodaeth, yn ogystal â galluoedd gwaith fel gweithio mewn tîm, datrys problemau ac yn y blaen
    • technegau blaengar ar gyfer darganfod yr anghenion a darparu’r hyfforddiant sy’n diwallu’r anghenion hynny
    • cyfle cyfartal i bawb – mae hyn yn golygu canolbwyntio ar bobl BME, pobl anabl, pobl hŷn, a menywod rhan-amser
    • cynyddu nifer y gweithwyr o un rhyw sy’n brin ar hyn o bryd - er enghraifft, dynion sy’n awyddus i ddilyn gyrfa fel nyrs
    • cydweithio gyda mewnfudwyr i sicrhau fod y galluoedd a chymwysterau maen nhw wedi dod gyda nhw’n cael eu defnyddio’n effeithiol yng Nghymru
    • ffyrdd newydd i sicrhau fod gweithwyr hŷn yn derbyn hyfforddiant
    • hyfforddi rheolwyr ac arweinwyr cwmnïau â llai na phum deg gweithiwr ym meysydd datblygu cynaliadwy, tyfu’r cwmni a mentro
    • darparu pob cymorth i’r ymdrechion i lenwi bwlch yn y ddarpariaeth bresennol.

     

    Enghreifftiau o’r math o weithgareddau a fyddai’n cael eu hystyried am arian, oherwydd eu bod yn hyrwyddo cydweithredu effeithlon rhwng pawb perthnasol:

    • cost prynu offer cymharol rad fydd yn cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu amcanion y gronfa
    • gwella’r cyfleusterau hyfforddi presennol
    • costau cymharol fach sy’n deillio o’r ymdrechion i ddatblygu’r dechnoleg bresennol er mwyn cwrdd â gofynion y gronfa

     

Trosglwyddo

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cyfundrefn fwy strategol i drosglwyddo rhaglenni newydd, gan gytuno ar gyfres o egwyddorion i lywio datblygu a throsglwyddo'r rhaglenni.

 

Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod rhaglenni’n cyd-fynd â pholisïau perthnasol y Llywodraeth, gyda mwy o bwyslais ar gydweithredu isranbarthol wrth lunio’r polisïau a’r rhaglenni.

 

Penderfynwyd hefyd y dylid ariannu llai o raglenni ond dros fwy o amser er mwyn sicrhau parhad a rhoi cyfle i raglenni “gartrefu” a datblygu’n naturiol.  Y bwriad yw darparu golwg cyffredinol eglur, cymorth a chyngor i raglenni.

 

Y strategaethau a ddatblygwyd i drosglwyddo blaenoriaethau rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd.  Maen nhw’n arfau cynllunio, nid arfau ariannu.  Maen nhw’n cynnig cymorth a chanllawiau ar gyfer pobl sy’n datblygu rhaglenni perthnasol.  Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru – corff annibynnol - sy’n dewis pa raglenni sy’n cael eu cymeradwyo; mae hyn yn sicrhau blaenoriaethu tecach i bawb.

 

Dyma’r strategaethau perthnasol i Fro Morgannwg:

 

Cystadlu rhyngranbarthol a swyddi

  • arloesi, ymchwil a datblygu, technoleg
  • mentergarwch
  • ariannu busnesau
  • newid hinsawdd
  • cynyddu cyflogaeth a mynd i’r afael â llesgedd economaidd
  • cynyddu galluoedd a hyblygrwydd gweithwyr.

Mae mwyafrif y fframweithiau’n thematig neu’n ymarferol, yn hytrach na fod ynghlwm wrth ardal benodol, ef fod cyfraniadau lleol yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod.

 

Bydd cynghorau’n trosglwyddo’r rhaglenni drwy:

  • cyfrannu at ddatblygu ac arolygu’r fframweithiau
  • cyfrannu gwybodaeth leol
  • cydweithio â’r timoedd Ewropeaidd
  • gwaith datblygu cynlluniau lleol
  • ymgeisio am elfennau o’r prosiectau trwy Sell2Wales.