Cost of Living Support Icon
PSB Logo

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dod ag uwch-arweinwyr ynghyd o sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ledled Bro Morgannwg i weithio mewn partneriaeth er mwyn dyfodol gwell. 

 

Sefydlwyd BGCau ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae BGC y Fro a’i bartneriaid yn y Cynllun Llesiant yn cydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Bro Morgannwg.   Mae’r fideo isod yn cynnig trosolwg defnyddiol o'r Ddeddf a'r hyn y mae'n gobeithio ei gyflawni ar ran Cymru; a'r hyn y mae'r BGC yn gweithio tuag ato ar ran Bro Morgannwg.

 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg

 

 

Y Bwrdd

Mae’r Cyngor yn un o bedwar partner statudol y BGC, y tri phartner statudol arall yw:

Yn ogystal â’r partneriaid statudol, mae nifer o bartneriaid eraill hefyd wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn aelodau o’r BGC a chyfranogi yn ei weithgareddau. Y rhain yw:

 

Partneriaethau Allweddol

Yn ogystal â’r partneriaid sy’n rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r Bwrdd yn gweithio gyda nifer o bartneriaethau strategol allweddol: 

 

  • Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig

     

    Drwy’r bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn dod â chydweithwyr ynghyd sy’n darparu iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Caerdydd a Bro Morgannwg. Nod y bartneriaeth yw gwella gwasanaethau drwy gydweithio’n agosach ar gyfer grwpiau o bobl yn ein cymunedau, gan gynnwys pobl hŷn, plant ag anghenion cymhleth, y rhai ag anawsterau dysgu a’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; chwaer-Ddeddf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi, ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth er mwyn gwella lles dinasyddion ledled y Fro. 

     

     

    Polisïau a Strategaethau Allweddol:

    Cynllun Ardal Caerdydd a’r Fro ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth

    Asesiad Anghenion Y Boblogaeth Caerdydd a’r Fro

    Adroddiad Blynyddol y BPR

     

  • Partneriaeth Bro Ddiogelach

     Partneriaeth diogelwch cymunedol Bro Morgannwg yw Partneriaeth Bro Ddiogelach ac mae’n cynnwys cymysgedd o grwpiau gwirfoddol a chymunedol a sefydliadau statudol sy'n cael eu cefnogi gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â phrojectau lleihau trosedd ac anhrefn ar lefel leol. 
  • Gweithio mewn Partneriaeth â Phobl Hŷn
     Mae'r gwaith o wella lles pobl hŷn Bro Morgannwg wedi’i gynnwys yng Nghynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Drwy gynnwys anghenion pobl hŷn y Fro yn y Cynllun Lles, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall amrywiaeth y materion sy’n effeithio ar bobl hŷn y Fro, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda Fforwm Strategaeth 50+ y Fro hefyd, sef grŵp ar gyfer pobl hŷn y Fro.